Yr Athro Emeritws Paul Avtar Singh Ghuman (1936-2022)
Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth yr Athro Emeritws Paul Avtar Singh Ghuman a fu farw ddydd Gwener, y 12fed o Awst.
Roedd yr Athro Ghuman yn aelod nodedig a diymhongar o'r Ysgol Addysg, a chyfrannodd yn helaeth at waith ymchwil, dysgu a gweinyddu’r Ysgol am dros dri degawd.
Ymunodd â'r Adran Addysg (fel y gelwid yr Ysgol bryd hynny) ym 1971. Dyfarnwyd iddo gadair bersonol haeddiannol iawn ym 1998 ac fe'i penodwyd yn Bennaeth yr Ysgol yn 2000, swydd y bu’n ei dal tan iddo ymddeol yn 2003.
Fel ymchwilydd y cafodd Paul (fel yr oedd llawer ohonom yn ei adnabod) lwyddiant nodedig, ac aeth ati’n rheolaidd i gyhoeddi dros y degawdau. Roedd ei ddiddordebau cynnar yn canolbwyntio ar seicoleg addysgol, gan ganolbwyntio'n bennaf ar blant teuluoedd mewnfudwyr.
Ond roedd ei waith hefyd yn ymdrin â materion diwylliannol, ac ymchwiliodd i brofiadau plant mewnfudwyr yn y system addysg ac yn ein cymdeithas yn ehangach. Yn wir, ef oedd yn gyfrifol am sefydlu'r cwrs israddedig cyntaf a addysgir ym maes addysg amlddiwylliannol yn y DU.
Parhaodd i ymchwilio a chyhoeddi ar ôl ei ymddeoliad ac, yn 2015, dyfarnwyd gwobr iddo gan Gymdeithas Seicolegol Prydain am hyrwyddo cyfle cyfartal. Roedd Paul hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac yn Gymrawd yr Academi Ryngwladol dros Ymchwil Rhyngddiwylliannol.
Roedd Paul yn hoff iawn o sgwrsio am bob pwnc, boed hwnnw’n bwnc difrifol neu ddoniol. Byddai o bryd i’w gilydd yn dwyn i gof lawer o'i brofiadau cynnar, megis y ffaith i’w deulu fod yn rhan o’r cyfnewid poblogaethau yn sgil Rhaniad India yn 1947, yn ogystal â’i fywyd cynnar fel mewnfudwr yn y DU yn y 1960au.
Roedd Paul yn hoff o olrhain ei hanesion ef ei hun ac o glywed hanesion pobl eraill, ond gallai groesi cleddyfau ym mhob sgwrs a phur anaml y byddai’n dawedog. Gwisgai’n drwsiadus bob dro ac ymdebygai i filwr yn ei ymarweddiad. Fe’i gwelid yn aml yn cerdded drwy’r dref ac ar y campws, a byddai’r rhai a ddeuai i gysylltiad ag ef yn ei gofio.
Robert Morris Jones