Patrick Hannan (1941-2009)
Gyda marwolaeth Patrick Hannan ym mis 2009 yn 68 oed, collodd Cymru un o’i dadansoddwyr gwleidyddol gorau ar y cyfryngau. Deilliai ei wybodaeth ddofn o hanes gwleidyddol, diwydiannol a chymdeithasol y genedl a gasglwyd dros ddeugain mlynedd o’i newyddiaduraeth ddisglair ar y llinell flaen yn ystod tranc y diwydiannau glo a dur a hefyd o’i waith yn trafod gwleidyddiaeth Cymru yn San Steffan a hynt a helynt y ddadl datganoli.
Graddiodd Patrick, oedd yn golofnydd rheolaidd yn PROM, mewn hanes ar gyfnod cyffrous yn Aber ddechrau’r ‘60au - cyfnod pan oedd Gwyn ‘Alf’ Williams yn dysgu Hanes Cymru a’r unigryw Richard Cobb yn darlithio ar y Chwyldro Ffrengig, a’r ddau yn llenwi’r neuaddau darlithio. Cafodd Pat ei brofiad newyddiadurol cyntaf drwy weithredu yn golygydd Courier, ac oherwydd ei ddawn siarad cyhoeddus y byddai pobl yn tyrru i’r Gymdeithas Drafod, lle datblygodd enw fel meistr y double entendre. Dyma’r elfennau a roddodd sylfaen unigryw i’w yrfa arfaethedig.
Bu’n rhaid oedi ei symudiad i newyddiaduraeth broffesiynol oherwydd dicter golygydd y Western Mail a gynhaliodd gyfweliad â Patrick gyda chopi o erthygl Courier ar y ddesg o’i flaen. Roedd yr erthygl yn ymosodiad ar safonau’r Western Mail! Fe’i gorfodwyd i ddechrau ei yrfa felly yn Luton cyn symud i’r Western Mail dan olygydd gwahanol. Oddi yno i BBC Cymru a 13 o flynyddoedd yn Ohebydd Gwleidyddol a Diwydiannol cyn dod yn gynhyrchydd rhaglenni dogfen ar y teledu yn gyntaf, ac yna yn gynhyrchydd/cyflwynydd rhaglenni radio a theledu oedd bob amser yn procio’r meddwl ar Radio Wales, Radio 4, HTV Cymru a theledu BBC Cymru. Roedd ei lais nodedig i’w glywed fwyaf clir yn ystod cyfnodau etholiad, a’i wybodaeth wyddoniadurol yn sicrhau awdurdod llwyr iddo ac yn ennyn parch gwleidyddion, cyfranwyr a’r gynulleidfa.
Roedd rhai pobl yn ystyried bod Patrick yn sinig. Mewn gwirionedd sgeptig ydoedd, na fyddai’n cymryd dim byd yn ganiataol, hyd yn oed gan ei gyfeillion. Defnyddiai hiwmor deifiol yn hynod effeithiol wrth drafod y sefyllfaoedd chwerthinllyd niferus mewn gwleidyddiaeth ac ymhyfrydai yn yr anghysonderau. Roedd hyn yn amlwg yn ei gyfresi radio llwyddiannus Tea Junction a Call to Order a gyfunai sgiliau cyfweld miniog ag eironi trwm.
Mae ei lyfrau yn dystiolaeth bwysig i’w feddylfryd cyferbyniol. Mae The Welsh Illusion ac A Useful Fiction, yr ail yn ymosodiad ar gysyniad Prydeindod yn nemocratiaeth ein hoes, yn deitlau sy’n cynnig blas o’r modd y byddai’n herio gwirioneddau confensiynol yn barhaus. Yn gyforiog o ffraethineb ac arddull ddisglair, mae’r ddwy yn gyfrolau angenrheidiol i sicrhau dealltwriaeth o Hanes Cymreig a Phrydeinig cyfoes. Cyfrol Patrick ar Streic Glowyr 1984, When Arthur met Maggie yw’r unig gofnod manwl o ymgyrch olaf y glowyr, wedi’i ysgrifennu gan y sylwebydd craffaf.
Roedd gan Patrick gof rhyfeddol am bobl, dyddiadau a digwyddiadau. Yr wybodaeth honno a’i helpodd ef (a’i gyd-banelwr Peter Stead) i ennill Round Britain Quiz ar Radio 4 am y pumed tro mewn deng mlynedd wythnos cyn ei farwolaeth.
Mae’n gadael gwraig, Menna Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, sydd hefyd yn raddedig o Aberystwyth ac yn Gymrawd y Brifysgol.
Gareth Price