Yr Athro Neville Greaves (1945-2019)

Daeth Neville Greaves i Aberystwyth yn 1996 fel Athro ar grŵp ymchwil newydd mewn Ffiseg Deunyddiau a Phennaeth Adran yn dilyn gyrfa nodedig yn Ffynhonnell Ymbelydredd Syncrotron Labordy Daresbury, lle’r adeiladodd gyfleusterau Sbectrosgopeg pelydr-x a sefydlu’r Adran Gwyddor Deunyddiau.

Yn raddedig o Brifysgol St Andrews, a Doethuriaeth o Labordy Cavendish Caergrawnt, gwnaeth waith arloesol ar ddatblygu technegau pelydr-x cyfunol gan ddod â sbectrosgopeg, diffreithiant a gwasgariad at ei gilydd mewn un arbrawf.

Yn 1990 derbyniodd Wobr Gwyddoniaeth a Thechnoleg a gyflwynwyd iddo gan Urdd y Gwerthwyr Gwydr am ei waith ar strwythur gwydr.

Sefydlodd gyfres ryngwladol o gynadleddau ar Ymbelydredd Syncrotron mewn Gwyddoniaeth Deunyddiau yn 1994, ac ef oedd Aelod y DU ar Bwyllgor Ymgynghorol Rhyngwladol ffynhonnell ymbelydredd syncrotron fwyaf y byd, Spring-8 yn Siapan.

Yn 2003 daeth yn Gyfarwyddwr ar yr Athrofa Mathemateg a Ffiseg a oedd newydd ei sefydlu ym Mhrifysgol Aberystwyth, swydd y parhaodd ynddi tan 2010. Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd hefyd yn aelod o Bwyllgor Labordy Ymchwil Davy Faraday y Sefydliad Brenhinol, a derbyniodd radd Doethuriaeth Honoris Causa ym Mhrifysgol Orleans yn 2002 am hyrwyddo dealltwriaeth o ddeunyddiau anhrefnus gan ddefnyddio ymbelydredd syncrotron.

Rhwng 2005 a 2009 gwasanaethodd yr Athro Greaves ar Gyngor y Sefydliad Ffiseg a dyfarnwyd iddo Ddoethuriaeth Scientiae ym Mhrifysgol Caergrawnt yn 2008. Ymunodd â Bwrdd Gwyddoniaeth Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg y DU yn 2009, ac yn yr un flwyddyn dyfarnwyd iddo Gadair er Anrhydedd yng Ngholeg Prifysgol Llundain.   

Yn 2010, daeth yn Athro Ymchwil Nodedig mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Gymrawd Ymchwil Nodedig yn yr Adran Gwyddor Deunyddiau a Meteleg ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Derbyniodd Wobr George W Morey yn 2011 gan Gymdeithas Cerameg America, am gyfraniadau mawr i faes gwyddoniaeth gwydr, a chynhaliwyd gweithdai rhyngwladol yn nodi ei benblwydd yn 65 a 70 oed yng Ngholeg Prifysgol Llundain a’r Gymdeithas Frenhinol.

Yn 2012, dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth DAAD am waith cydweithredol ar hylifau tymheredd uchel iawn yng nghanolfan German Aerospace yn ninas Cwlen (Cologne). Yn yr un flwyddyn cafodd ei ethol yn Ysgolhaig Tramor Dysgedig ym Mhrifysgol Shanghai, ac yn Gymrawd Ymchwil Ymweld yng Ngholeg Sidney Sussex Caergrawnt. Cafodd ei ethol yn Wyddonydd Strategol gan Brifysgol Technoleg Wuhan yn 2013, ac yn 2016 ef oedd Darlithydd Nodedig Cooper yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas Cerameg Americanaidd.

Yn gydweithiwr ac arweinydd naturiol, roedd brwdfrydedd ac ymroddiad Neville yn ysbrydoliaeth i ni gyd ac roedd ei gyfraniad at ei faes a’i brifysgol yn aruthrol. Roedd ganddo lawer o ddiddordebau a gwybodaeth eang ar bynciau y tu hwnt i wyddoniaeth ac roedd bob amser yn gwmni rhagorol. Roedd yn gerddor dawnus â llais canu ardderchog a chanddo farn gadarn nad oedd ofn ei rannu.

Yr Athro Andrew Evans
Pennaeth yr Adran Ffiseg
Mehefin 2019