Michael Francis Bott (1940 - 2023)
Ganwyd Michael Francis Bott, a elwid yn Frank, yn 1940. Roedd yn fathemategydd, yn wyddonydd cyfrifiadurol, yn ddyn dysgedig mewn llawer o feysydd, yn ieithydd, yn ddyn teulu, yn hael ei groeso, ac yn ganolog i fywyd cymunedol Aberystwyth.
Treuliodd Frank ei fywyd cynnar yn Bilston, ger Wolverhampton. Roedd ei allu yn amlwg o oedran cynnar. Yn 10 oed, a hynny’n ifanc iawn, aeth i Ysgol Ramadeg Wolverhampton, a dim ond 16 ydoedd pan enillodd ysgoloriaeth i astudio Mathemateg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Ffynnodd Frank ar fywyd yng Nghaergrawnt. Roedd yn mwynhau mathemateg ond mynychodd ormod o ddarlithoedd diddorol ar bynciau eraill.
Ar ôl gweithio am gyfnod mewn ysgol lle'r oedd y rhan fwyaf o'r athrawon yn dod o Gymru, penderfynodd Frank ddysgu Cymraeg, felly ymunodd â Chymdeithas Gymraeg y brifysgol. Yno cyfarfu â Mary Williams o Lanelli, gwyddonydd oedd yn gweithio i Pfizers yng Nghaergrawnt. Priododd y ddau ym mis Awst 1983 yng Nghapel Coleg y Drindod. Cafodd Mary a Frank briodas hapus am bron i 60 mlynedd.
Ar ôl graddio, gweithiodd Frank am chwe blynedd ym Mhrifysgol Caergrawnt, gan ymwneud â chyfrifiadureg yn ogystal â phrosesu iaith. Yna treuliodd 9 mlynedd yn gweithio i gwmni SPL, un o'r gwasanaethau ymgynghori meddalwedd cynnar. Bu'n rheoli eu swyddfa ym Milan ac yn ddiweddarach eu swyddfa yn Nottingham.
Treuliodd Frank ddwy flynedd fel Athro Gwadd ym Mhrifysgol Missouri yn St Louis, cyn ymuno ag Adran Cyfrifiadureg Aberystwyth yn 1979.
Pan ymunodd Frank, adran addysgu fach oedd yr adran Cyfrifiadureg. Yn ystod y ddau ddegawd nesaf gwelwyd yr adran yn tyfu ac yn newid, gan greu’r sylfaen ar gyfer yr adran fel ag y mae heddiw, yn gryf mewn ymchwil yn ogystal ag addysgu, ac sydd bellach yn un o'r adrannau mwyaf blaenllaw yn y brifysgol. Frank oedd grym pennaf y datblygu hwn. Roedd yn bennaeth adran trwy gydol y 1990au.
Roedd gan yr adran berthynas fuddiol iawn â chwmni SPL am dros 20 mlynedd. Treuliodd myfyrwyr a staff gyfnodau yn ennill profiad gyda’r cwmni a bu prosiectau ymchwil cydweithredol sylweddol.
Mae'r adran bob amser wedi ystyried Cyfrifiadureg fel pwnc galwedigaethol ac wedi pwysleisio pwysigrwydd materion proffesiynol. Roedd gan Frank gysylltiad agos â Chymdeithas Cyfrifiaduron Prydain ac mae ei lyfrau ar faterion proffesiynol yn cael eu defnyddio ledled y byd.
Roedd Frank yn ddyn hynod o ddysgedig mewn llawer o feysydd. Roedd ehangder a dyfnder ei wybodaeth yn destun rhyfeddod bob amser, ac roedd ei gof yn anhygoel. Gallech siarad ag ef am unrhyw beth a darganfod ei fod yn gwybod y cwbl am y pwnc. Hanes, daearyddiaeth, trenau, mynyddoedd, gwleidyddiaeth, y gwasanaeth iechyd a llawer mwy. Roedd yn aml yn rhoi sgyrsiau ar bynciau o ddiddordeb iddo - faint o gyfrifiadurwyr fyddai'n cynnig darlithio ar hanes y garol Nadolig?
Roedd gan Frank ddiddordeb oes mewn ieithoedd a phopeth ieithyddol. Roedd yn rhugl mewn nifer o ieithoedd. Roedd bob amser yn awyddus i drafod manylion gramadeg ac idiom a’r berthynas rhwng yr ieithoedd Romáwns amrywiol. Roedd yn cwblhau croesair Lladin bob wythnos, hyd yn oed yn yr ysbyty. Roedd Frank wrth ei fodd yn siarad Eidaleg – gan gynnwys yr arwyddion llaw, hyd yn oed ar y ffôn! Roedd yn gyfrannwr cyson i Fforwm Ieithyddiaeth Aber a sefydlwyd gan yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd.
Darllenodd nofelau a barddoniaeth mewn sawl iaith a chael pleser mawr yn cyfieithu geiriau caneuon ar gyfer cyngherddau Musicfest a’r Clwb Cerdd.
Roedd gwybodaeth Frank am gerddoriaeth yn aruthrol. Cafodd bleser mawr ohono ac fe gyfrannodd yn rymus at y gweithgarwch cerddorol yn Aberystwyth. Frank oedd y dylanwad pennaf a phrif gynheiliad Clwb Cerdd Aberystwyth am dros 30 mlynedd. Roedd yn aelod diflino o Fwrdd Musicfest. Edmygwyd ei nodiadau helaeth ar gyfer rhaglenni cyngherddau’r clwb, Musicfest, Philomusica Aberystwyth a'r Gymdeithas Gorawl.
Roedd Frank yn ymwneud â chymuned Aberystwyth mewn sawl ffordd arall. Bu i grwpiau fel y Gymdeithas Ddinesig a'r Clwb 30 elwa o'i gyfraniadau a'i gyngor doeth.
Roedd Frank a Mary yn hael eu croeso, yn aml i grwpiau mawr o fyfyrwyr yn ogystal â ffrindiau. Byddai cerddorion oedd yn ymweld yn aros gyda nhw yn aml.
Roedd Frank yn ddyn arbennig, a fydd yn cael ei gofio’n annwyl gan ei ffrindiau, ei fyfyrwyr a'i gydweithwyr niferus.