Michael MccGwire OBE (1924-2016)

 ARWR RHYFEL A MEDDYLIWR STRATEGOL DADLEUOL

‌Bu farw Michael MccGwire, a oedd yn fyfyriwr yn Aber rhwng 1967 a 1970, yn aelod o staff yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol rhwng 1970-71, ac yn Athro Anrhydeddus yn y 2000au; roedd yn 91 oed. Cafodd Mike fywyd nodedig, yn aelod amlwg o’r Llynges Frenhinol ac yn ddadansoddwr eithriadol ar faterion strategol yn y Rhyfel Oer a thu hwnt.

Ganwyd Michael Kane MccGwire ym Madras yn 1924. Roedd yn llawer rhy egnïol pan anfonwyd ef i Goleg Morwrol Brenhinol Dartmouth yn 13 oed; ac ef oedd y gorau yn ei flwyddyn pan raddiodd oddi yno yn ddiweddarach, gan ennill y ‘King’s Dirk’, sef y wobr a fawr chwenychir. Fe’i cyflwynwyd iddo gan y Brenin Siôr VI, er iddo anghofio sôn wrth ei rieni am y digwyddiad.

Yn ganol-llongwr 17 oed, aeth Mike i ryfel yn 1942 gan wybod fod hanner y dosbarth a raddiodd y flwyddyn gynt eisoes wedi colli eu bywydau. Yn ystod y tair blynedd nesaf bu’n rhan o’r confoi atgyfnerthol enwog i Malta, y glaniadau yng ngogledd Affrica, Salerno, Anzio, a Normandi, ac yna yn Is-Gapten mewn cyrchoedd arbennig o beryglus ar hyd arfordiroedd gogledd-orllewin Ewrop mewn llynges fach MTB. Ni fyddai byth yn colli cyfle i ddweud wrth bobl pa mor lwcus y bu.

Pan ildiodd yr Almaen, roedd llong Mike ar ei ffordd i’r Môr Tawel, lle daeth y Llynges Frenhinol yn fuan yn rhan o adfer trefn a cheisio adsefydlu ymerodraethau (yr Iseldiroedd a Ffrainc, yn ogystal â Phrydain). Yn ôl ym Môr y Canoldir yn 1947, cafodd ei olwg eithaf confensiynol ar y byd sioc o ganlyniad i’w brofiad ym Mhatrôl Palesteina, lle gwelodd gynghreiriaid yn ystod y rhyfel yn tynnu mewn cyfeiriadau gwahanol, a ffoaduriaid yn cael eu camfanteisio’n greulon am resymau gwleidyddol.

Wrth i’r Rhyfel Oer boethi, gwirfoddolodd Mike i fynd i Brifysgol Caergrawnt i ddysgu Rwsieg – yn ei ddosbarth roedd yr enciliwr George Blake. Bellach o’r farn gyffredinol y byddai’r rhyfel mawr nesaf yn erbyn yr Undeb Sofietaidd, dewisodd Mike weithio ym Mhencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU (GCHQ) lle bu’n trefnu i gynhyrchu geiriadur morwrol Rwsieg cyntaf y Llynges Frenhinol.  Yn 1956 bu’n gweithio fel swyddog cyswllt ar long ddistryw Sofietaidd a oedd yn hebrwng yr arweinydd Sofietaidd  Nikita Khrushchev ar ymweliad amlwg â’r DU, a’r flwyddyn ganlynol aeth â’i deulu, a oedd yn prysur gynyddu, i Moscow, lle roedd yn Swyddog Llynges Cynorthwyol, a olygai ei fod yn casglu cudd-wybodaeth (dan oruchwyliaeth reolaidd) o Murmansk yn y gogledd i Odessa, Tbilisi a Baku yn y de.  Arweiniodd y profiadau hyn ef at ddarlun a newidiai’r pwyslais ar realaethau Sofietaidd, barn llai brwdfrydig o bolisïau’r Gorllewin, a dealltwriaeth fwy cymhleth o wleidyddiaeth ryngwladol.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf daliodd amryw swyddi staff rhyngwladol, gan fynd y tu hwnt i faterion y llynges i faterion polisïau uchel. Cymerodd ran mewn ymarferion chwarae rhyfel niwclear, gan chwarae i’r tîm ‘Coch’.  Yn sgil ei brofiadau, casglodd fod y strategaeth o ‘gyfyngiant’ a ddilynwyd gan yr Unol Daleithiau ers 1947 yn ddiffygiol iawn, yn rhy filwrol, ac yn beryglus; a bod polisi Prydain yn fwyfwy tueddol i edrych am yn ôl ac yn ynysig. Fe’i hargyhoeddwyd bod angen newid y byd, ac y byddai gwell defnydd i’w sgiliau ar y llwyfan rhyngwladol na’r llwyfan cenedlaethol.

Ond bu’n dal un swydd arall yn y Llynges Frenhinol. Yn 1965 penodwyd MccGwire yn bennaeth is-adran forwrol Sofietaidd cudd-wybodaeth Prydain (y siaradwr Rwsieg cyntaf i ddal y swydd). Cafodd ddylanwad pendant, gan weithredu diwygiadau mawr wrth drafod a dadansoddi data. Pan ymddeolodd yn 1967, ysgrifennodd ei olynydd:  ‘Credaf yn ddiffuant iddo lwyddo i gyfrannu’n sylweddol at ddiogelwch y wlad a sefydlogrwydd y byd mewn ffordd nad yw’n arferol i lawer ohonom ei wneud.’ Dyfarnwyd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) i Gomander MccGwire ar gyfer hyn yn 1968.

Er gwaethaf llwybr esgynnol ei yrfa yn y Llynges Frenhinol, penderfynodd Mike ddilyn llwybr newydd, er ei fod eisoes yn ei bedwardegau a chanddo ef Helen ei wraig, bump o blant ifainc i’w magu. Ei brif uchelgais oedd gweithio i Raglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig, a ymrwymai i ddileu tlodi ac anghydraddoldeb yn y Trydydd Byd. Er mwyn newid gyrfa, roedd angen rhywfaint o hygrededd addysgiadol arno, a chofrestrodd felly am radd mewn Economeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, fel yr oedd bryd hynny. Yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr, tarfwyd ar ei astudiaethau yn rheolaidd gan alwadau i gyfrannu at ddadleuon allweddol ynghylch ymlediad mwymwy amlwg y Llynges Sofietaidd ar draws y byd. Er hynny, daeth o hyd i gyfleoedd i sefydlu cylchgrawn y myfyrwyr, Interstate, sy’n bodoli o hyd, trefnu cyrsiau hwylio ar Nant-y-Moch, ac ysbrydoli myfyrwyr eraill i feddwl yn rhyngwladol ac yn ymarferol. Gellir enwi dau ohonynt yn arbennig: Michael Clarke, a ymddeolodd yn ddiweddar fel Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Unedig Brenhinol, ac Ian Hopwood, a ymddeolodd yn ddiweddar ar ôl dal swyddi uchel gydag UNICEF yn Efrog Newydd, a Chynrychiolydd UNICEF mewn amryw wledydd yn Affrica.

Ar ôl cyfnod byr yn aelod staff yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, symudodd Mike i sefydlu Canolfan Astudiaethau Morwrol a Strategol newydd yng Nghanada. Er mawr ofid iddo, ni lwyddodd i weithio i Raglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig oherwydd rhwystr cwotas cenedlaethol a oedd eisoes wedi’u llenwi. O ganlyniad, amddifadwyd y gymuned ryngwladol o rywun a fyddai wedi bod yn was sifil rhyngwladol eithriadol, gan iddo ennill enw da am fod yn arweinydd ‘naturiol’ ers ei ddyddiau yn Dartmouth. Daeth Mike i amlygrwydd yn hytrach fel un o ddadansoddwyr mwyaf craff strategaeth Sofietaidd yn ystod cyfnodau allweddol yn y Rhyfel Oer, gan gynnig eglurhad gwreiddiol a dadleuol o ehangiad y llynges Sofietaidd, a chynhyrchu dau lyfr gwreiddiol ar bolisi amddiffyn Sofietaidd.

Ar anterth ‘Rhyfel Oer Newydd’ Reagan-Brezhnev ar ôl 1979, daeth MccGwire yn ddeallusyn cyhoeddus yn Washington o’i gartref newydd yn Sefydliad Brookings, seiat ddoethion hirsefydlog yn Washington. Yr uchafbwynt iddo oedd dadl â’r ‘Prince of Darkness’, Richard Perle, un o gefnogwyr Reagan, ar deledu yn UDA. Pan ymddeolodd o Sefydliad Brookings, dychwelodd MccGwire i Brifysgol Caergrawnt i weithio ar broblemau diogelwch byd-eang. Canolbwyntiodd ar broblem a fu’n ei boeni ers tro: ataliaeth niwclear. O 1960, pan oedd yn swyddog iau yn y llynges ac yn cwestiynu polisi arfau niwclear y DU am y tro cyntaf, daeth yn un o’r lleisiau mwyaf heriol a gwybodus mewn dadleuon am arfau niwclear, gan ddarparu ystod o erthyglau arloesol y gellir crynhoi eu thema yn nheitl un ohonynt:  ‘Deterrence: the Problem not the Solution’ (1985). Rhoddwyd llwyfan i’w waith niwclear yn aml gan y Sefydliad Brenhinol dros Faterion Rhyngwladol (‘Chatham House’) lle bu’n anghytuno, yn anad neb, â Syr Michael Quinlan, arweinydd meddylfryd llywodraeth Prydain ar arfau niwclear. Gwrthwynebai MccGwire adnewyddu Trident, ac roedd ymhell dros ei bedwar ugain yn ceisio gwrthwynebu’r farn swyddogol, er enghraifft drwy gyfrannu ei dystiolaeth ‘Barnu’n rhy gyflym’ i Bwyllgor Dethol Materion Amddiffyn Tŷ’r Cyffredin yn 2007.

Yn 1998, lluniwyd cyfrolau o ysgrifau er anrhydedd i MccGwire: Statecraft and Security: the Cold War and Beyond. Roedd y cyfranwyr blaenllaw yn bobl a oedd yn cydnabod ei gyfraniad eithriadol i amrywiaeth eang o feysydd: yn eu plith roedd y cymdeithasegydd yr Arglwydd Giddens (cyn-Gyfarwyddwr LSE), Raymond Garthoff (prif hanesydd ar bolisi tramor Sofietaidd y Rhyfel Oer), a Michael Herman (cyn-ymarferwr cudd-wybodaeth y DU, ac ysgolhaig blaenllaw ym maes astudiaethau cudd-wybodaeth). Ers bron ugain mlynedd, mae breindaliadau’r llyfr hwn wedi darparu cronfa ar gyfer Gwobr Flynyddol Michael MccGwire i Fyfyrwyr Hŷn yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 

Yr Athro Ken Booth FBA, 20 Mai 2016