Yr Athro Emeritws Martin Barker (1946-2022)
Gyda thristwch y nodwn farwolaeth Yr Athro Emeritws Martin Barker fu farw ar 8 Medi.
Fe ymunodd Martin â’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn 2001 fel Athro Astudiaethau Ffilm a Theledu, wedi cyfnod o ddwy flynedd ym Mhrifysgol Sussex, a chyn hynny 29 mlynedd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE).
Ganed Martin ym mis Ebrill 1946, ac astudiodd am radd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Lerpwl cyn cychwyn ar yrfa academaidd hir a disglair.
Roedd ei waith cynnar, yn deillio o’r traddodiad Astudiaethau Diwylliannol, yn canolbwyntio ar hiliaeth yn y cyfryngau, yn enwedig mewn comics, a bathodd yr ymadrodd ‘hiliaeth newydd’ yn 1981 yng nghyd-destun trafodaeth gyhoeddus ar fewnfudo ym mlynyddoedd cynnar llywodraeth Thatcher.
Roedd ei waith diweddarach yn archwilio’r dadleuon o amgylch ‘video nasties’ yng nghanol yr 80au ac ynghyd â’r ysgolhaig Julian Petley, ceisiodd chwalu’r cysyniad ‘effeithiau cyfryngol’, gan ddadlau yn erbyn y syniad o ymddygiad ‘copycat’. Roedd yn faes a oedd yn aml yn arwain at wrthdaro â mudiad yr National Viewers and Listeners Association a'i arweinydd nid anenwog, Mary Whitehouse.
Yn ddiweddarach, datblygodd Martin ei ymchwil i gynulleidfaoedd, gan gynhyrchu gwaith arloesol ym maes astudiaethau cynulleidfa a derbyniad a datblygu methodoleg ar gyfer astudio cynulleidfaoedd sy’n parhau’n ddylanwadol iawn yn y maes. Roedd ei astudiaethau derbyniad rhyngwladol ar Lord of the Rings a Game of Thrones yn torri tir newydd.
Yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth, gwreiddiodd Martin y maes astudio hwn yn y cwricwla israddedig ac ôl-raddedig ac aeth ati i feithrin cenhedlaeth o fyfyrwyr PhD, gyda llawer ohonynt yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd academaidd llwyddiannus iawn. Mae’r teyrngedau a dalwyd i Martin gan ysgolheigion ifanc ar draws y byd yn dyst i’w ysgolheictod a’i gariad at ymchwilio, dysgu ac addysgu.
Y tu hwnt i Aberystwyth, roedd Martin yn ffigwr blaenllaw ym maes Astudiaethau Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol.
Gan dalu teyrnged iddo, disgrifiodd yr Athro Emeritws Peter Golding o Brifysgol Northumbria ac Ysgrifennydd Cymdeithas Astudiaethau’r Cyfryngau, Cyfathrebu a Diwylliant Martin fel ‘un o’r ymchwilwyr a’r awduron mwyaf ymroddedig, egwyddorol, brwdfrydig ac effeithiol ym myd y cyfryngau ac astudiaethau diwylliannol ym Mhrydain’.
Fel Adran a Phrifysgol, anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at deulu Martin.
Yr Athro Jamie Medhurst, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu