Marjorie Edith Vanston (1925-2017)
Ganwyd Marjorie Vanston (née Lott) yng Nghaerfyrddin yn 1925, a’i magu yno ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod y rhyfel. Aeth i Aber yn 1943 ac ennill gradd gyfun dosbarth cyntaf mewn Lladin a Ffrangeg yn 1946. Treuliodd flwyddyn wedi hynny yn dysgu yn Ffrainc, cyn dechrau ar yrfa ddysgu, yn ne Cymru yn gyntaf yn y 1940au a’r 50au, lle bu’n dysgu Ffrangeg yn ysgol Llwyn-y-bryn, Abertawe. Yna, o ddechrau’r 60au tan ei hymddeoliad yn 1986, bu’n dysgu Ffrangeg, a hefyd Rwseg a Lladin, yn bennaf yn yr Ysgol Ramadeg i Ferched, Dartford, Swydd Caint, a Phennaeth yr Adran Ffrangeg yn Ysgol Bexleyheath.
Ymddeolodd i Abertawe yn 1986 a mwynhau 30 mlynedd o ymddeoliad prysur, gan wneud cyfraniad helaeth i fywyd llawer o gymdeithasau a mudiadau lleol. Daeth yn aelod brwd o Fudiad Ewropeaidd Gorllewin Morgannwg; ymunodd â Ffederasiwn Menywod Prifysgolion Prydain; Cynulliad Merched Cymru, Cymdeithas y Dyneiddwyr a Changen Abertawe o Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Cofleidiodd y syniad o Brifysgol y Drydedd Oes yn frwd a daeth yn aelod gweithgar o sawl Grŵp – y Gymraeg, Gwleidyddiaeth, Ymchwil Amgueddfeydd (hi oedd y wirfoddolwraig hynaf yn amgueddfa Abertawe) – ac yn aelod o’r Pwyllgor yn ogystal. Cyfieithodd hefyd rai o gerddi Pushkin i Saesneg am y tro cyntaf.
Priododd yn 1961 â Gerard, a oedd yn wreiddiol o Wlad Belg; ysgarodd y ddau yn 1976. Roedd ganddynt ddau blentyn, Jem – sydd bellach yn awdur – a Rebecca.
Mae carreg i goffáu Marjorie bellach wedi’i chodi ar fedd ei rhieni ym mynwent Santes Fair, Coety, Pen-y-bont ar Ogwr, er i’w llwch gael ei wasgaru ar lan y môr yn Aberystwyth, yn unol â’i dymuniad.