Margaret Joy Welch (1926-2017)
Yn wreiddiol o Galgate, ger Caerhirfryn, graddiodd Joy o Aberystwyth gyda BSc mewn Economeg ym 1950. Bu’n astudio daearyddiaeth ac athroniaeth hefyd, a bu’n capten tenis menywod ym 1948.
Yn 17 oed, gwirfoddolodd Joy i ymuno â Gwasanaeth Morol Brenhinol y Menywod yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chafodd ei hanfon i Eastcote, ger Ruislip. Roedd Eastcote yn allorsaf i Barc Bletchley, a alwyd hefyd yn HMS Pembroke V. Roedd yn dal 100 o beiriannau torri cod Bombe a oedd yn cael eu defnyddio i ddatgodio negeseuon Enigma Almaenaidd. Nid oedd teulu agosaf Joy yn gwybod unrhyw beth am ei swydd nes i’r wybodaeth gael ei digelu yn y 1970au.
Rhoddodd Joy roddion dyngarol i nifer o brosiectau ym Mhrifysgol Aberystwyth dros y blynyddoedd, yn unigol, a thrwy Ymddiriedolaeth Elusennol Addysgol Joy Welch, a sefydlodd ym 1988. Roedd gan Joy ddiddordeb arbennig mewn prosiectau ôl-raddedig gwyddonol oedd â manteision dichonol i economi’r DU. I gydnabod ei chymorth hirdymor, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Er Anrhydedd iddi ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1998.
Rydym yn cofio am Joy fel menyw ddi-lol, talog, penderfynol, anghonfensiynol nad oedd yn gyfforddus â’r byd o’i chwmpas bob amser. Roedd hi’n ffrind a pherthynas ffyddlon ac yn hynod o hael tuag at lawer a oedd yn ddigon ffodus i’w hadnabod ac i lawer o bobl na chyfarfu hi â nhw erioed.