Yr Athro Margaret Llewelyn(1962 - 2021)
Gyda thristwch mawr, cyhoeddodd y teulu Llewelyn farwolaeth drist yr Athro Dr Margaret Llewelyn a fu farw ar 31 Tachwedd 2021 ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ar 30 Tachwedd 2021.
Roedd Margaret yn ferch i Mair Eluned Llewelyn (Jones gynt), ac roedd yn gyn-fyfyrwraig Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ac yn wyres i’r Athro Emeritws E.T. Jones, cyn-gyfarwyddwyr Bridfa Blanhigion Cymru ym Mhlas Gogerddan.
Astudiodd Margaret y Gyfraith fel myfyrwraig israddedig o 1982-1985 ac wrth astudio am ei gradd dechreuodd ymddiddori mewn Cyfraith Eiddo Deallusol ac yn benodol Hawliau Bridwyr Planhigion. Parhaodd i astudio yn Aberystwyth fel myfyrwraig PhD uwchraddedig rhwng 1985-1990 o dan arolygiaeth Dr Allison Coleman. Yn 1990 arholwyd ei thraethawd ymchwil, sef ‘The Legal Protection of New Plant Varieties’ gan Dr Yvonne Cripps (Coleg Emmanuel, Caergrawnt). Wedi hynny, treuliodd Margaret amser fel cymrawd ymchwil yn Athrofa Max Planck yn Munich (1986-1988) ac yng Ngholeg y Frenhines Mary (fel yr adnabyddid ef y pryd hynny, ond bellach Prifysgol y Frenhines Mary, Llundain) (1988-1989). Ffocws ei phrif waith ymchwil oedd amddiffyniad cyfreithiol deunydd genetig. Gwnaeth hwn gyfraniad allweddol i bolisi ac arfer yn genedlaethol a rhyngwladol yn enwedig o ran y cysylltiad rhwng system patent a system hawliau amrywogaethau planhigion; hefyd o ran y defnydd a wneir o gnydau amaethyddol newydd a meddyginiaethau newydd a sut mae defnyddwyr yn cael gafael arnynt o fewn gwledydd sy’n datblygu a rhai datblygedig.
Yn 1990, apwyntiwyd hi i swydd darlithydd ym Mhrifysgol Canolbarth Swydd Gaerhirfryn, Preston. Ar ôl hyn, yn 1993 symudodd i Brifysgol Sheffield, gan gychwyn fel Darlithydd Eiddo Deallusol dan nawdd Sefydliad y Gyfraith Gyffredin ar Eiddo Deallusol (CLIP). Treuliodd Margaret weddill ei gyrfa ym Mhrifysgol Sheffield lle y dyrchafwyd hi yn Uwch Ddarlithydd yn 1998, yn Ddarllenydd yn 2001 ac yn Athro yn 2007. Yn 2006 cyhoeddodd hi ar y cyd â Mike Adcock, ‘European Plant Intellectual Property’, sef monograff swmpus, gwreiddiol a dylanwadol a gafodd dderbyniad rhagorol. Cyd-ysgrifennodd neu gyd-olygu cyfanswm o ryw ddeuddeg llyfr. Roedd nifer o’r rhain, ynghyd â’r prosiectau ymchwil oedd yn sylfaen iddynt, ar y cyd â’r Athro Bill Cornish ym Mhrifysgol Caergrawnt. Cyhoeddodd hefyd dros chwe adroddiad ymchwil a thros 30 o benodau mewn llyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion a adolygir gan academyddion. Traddododd bapurau a chyflwyniadau mewn cynadleddau ar hyd a lled y byd a bu’n ymgynghorwr i nifer fawr o lywodraethau a’r Cenhedloedd Unedig.
Roedd hi’n athrawes hoffus ac uchel ei pharch a gwerthfawrogwyd hi’n fawr gan ei chydweithwyr yn y Gyfadran. Roedd hi’n aelod gwreiddiol ac yn Is Gyfarwyddwr SIBLE, sef Sefydliad Biotechnoleg, Cyfraith a Moeseg Sheffield, grŵp ymchwil blaenllaw, rhyngddisgyblaethol oedd yn gweithio ar oblygiadau’r chwyldro geneteg. Hi oedd y wraig gyntaf, a’r unig un, i wasanaethu fel Deon Ysgol y Gyfraith (2004-2008) ac am 4 mis bu’n Ddirprwy Bennaeth yr Ysgol (2008-2009). Yn 2001 ymgymerodd â’r gwaith o olygu cylchgrawn mwyaf blaenllaw’r DU ar gyfraith Eiddo Deallusol, ‘Intellectual Property Quarterly Review’, gan gymryd yr awenau oddi wrth yr Athro John Adams. Ymddeolodd yn gynnar yn 2009 ac fe’i gwnaethpwyd yn Athro er Anrhydedd yn Sheffield, er iddi barhau i fod yn weithgar, gan ddysgu ym Mhrifysgol Nottingham yn ogystal â Sheffield.
Ar nodyn mwy personol, roedd Margaret yn frwd drwy gydol ei hoes dros y celfyddydau a drama, yn arbennig y theatr a ffilm. Dyma oedd ei dewis cyntaf fel gyrfa cyn penderfynu newid i’r Gyfraith. Roedd hi’n hoff o barti ac roedd ganddi hiwmor direidus a ffraeth. Cyfrannodd hyn at greu cylch eang o gyfeillion ym mhedwar ban y byd a fydd yn gweld eisiau ei hysbryd caredig a hael. Cyfarfu â’i chymar oes, yr Athro Robert (Rob) Bradgate, yn Sheffield yn 1994 gan briodi yn ddiweddarach. Roedd ef hefyd yn gyfreithiwr masnachol academaidd uchel ei barch. Yn anffodus, gorfodwyd Rob i ymddeol yn gynnar ar ôl cael diagnosis o glefyd Parkinson’s yn 2006 a gwnaeth hyn achosi i Margaret ymddeol yn gynnar yn 2009 er mwyn iddi gael gofalu amdano tan ei farwolaeth annhymig yn 2014. Bydd pawb oedd yn ei hadnabod yn gweld ei cholled.