Lynne Moore (1952-2011)
Dr Lynne Moore (née Macdonald), Aber 1970-73, Swoleg, bu farw Rhagfyr 31ain, 2011.
Hanai Lynne o bentref Tre Ioan, ger Wrecsam, yng ngogledd Cymru. Daeth i Aberystwyth ym mis Medi 1970 i astudio Swoleg. Roedd hi’n fenyw ifanc hardd a deallus a ddaeth yn Frenhines y Glasfyfyrwyr ac yn Frenhines Rag yn ddiweddarach. Buan iawn y’i denwyd gan hen fyfyriwr PhD Cemeg, Stan Moore. Ar ôl iddi dderbyn ei gradd aeth y ddau i Lundain, er mwyn i Lynne wneud PhD yn Athrofa Addysg, Prifysgol Llundain, yn astudio mamau â phlant ifainc, a Stan i swydd ôl-ddoethurol yng Ngholeg Imperial. Er i fom Byddin Weriniaethol Iwerddon (IRA) ffrwydro ger ei fflat yn Chelsea, gan chwythu llawer o’r ffenestri allan, ni chafodd Lynne niwed ac, ar ôl tair blynedd, roedd wedi casglu digon o ddata i ddechrau ysgrifennu ei thraethawd ymchwil yn East Leake, ger Nottingham, lle roedd Stan eisoes wedi symud i weithio i’r Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog.
Cychwynnodd Lynne ar gwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ym Mhrifysgol Nottingham Trent ym mis Medi 1976. Dyma’r adeg y dechreuodd y symptomau, a adnabuwyd yn ddiweddarach fel symptomau Sglerosis Ymledol, ymddangos. Cafodd anhawster sylweddol wrth frwydro drwy’r flwyddyn academaidd ond llwyddodd i ennill Statws Athro Cymwysedig. Yn amodol ar wirio ei hiechyd, cynigiwyd swydd iddi yn yr Ysgol i Ferched, Nottingham, a oedd yn fawr ei bri, ond bu’n rhaid iddi wrthod wrth i’w hafiechyd ymledu. Yn anffodus, roedd Lynne wedi ymgolli’n llwyr ac yn rhy sâl i roi sylw i’w doethuriaeth a rhoddodd y gorau iddi pan symudodd ei goruchwyliwr i America. (Fodd bynnag, gweler isod).
Cafwyd sawl pwl difrifol o ymosodiadau Sglerosis Ymledol a olygodd gyfnodau yn yr ysbyty ac yn gwella yn Wrecsam, gyda Stan yn teithio’n ôl ac ymlaen. Symud yn ôl i Wrecsam fu eu hanes yn y pen draw, pan benodwyd Stan i swydd yn Sefydliad Addysg Uwch Gogledd Cymru yn 1979 (NEWI – Prifysgol Glyndwr erbyn hyn). Erbyn hyn, roedd Lynne, yn ffodus iawn, yn cael seibiant o’i salwch. Daeth dau o blant i’w canlyn, Rhys yn 1981 ac Elen yn 1985. Cafodd Lynne gefnogaeth teulu, ffrindiau a chynorthwywyr gyda’r babanod ond roedd hi’n mwynhau tipyn o annibyniaeth yn gyrru o gwmpas yn ei char mini melyn a oedd wedi’i addasu ar ei chyfer. Daeth yn llywodraethwraig yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg a fynychwyd gan Rhys ac Elen, yn ogystal ag yn aelod o’r côr ardderchog o Wrecsam, Cantorion Sirenian. Ar un achlysur, fe ymddangosodd gyda nhw yn Neuadd Albert. Ganol y nawdegau, cychwynnodd Lynne ar ddoethuriaeth arall ym Mhrifysgol Manceinion ac fe’i dyfarnwyd iddi yn 1998. (Ar ôl astudio am radd yn y gyfraith yn Neuadd y Drindod, Caergrawnt, bu Rhys yn astudio am radd MSc Econ mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth).
Mwynhaodd y teulu wyliau yn Ffrainc am bymtheg mlynedd, fel arfer yn gwersylla neu mewn carafán. Ym mis Medi 2007, bu Lynne, Stan ac Elen yn aros gyda hen ffrindiau o Aber yn Wilmington, Delaware, gan deithio ar fws Greyhound i Efrog Newydd a Washington. Erbyn hyn, roedd angen mwy a mwy o gymorth ar Lynne, a chadair olwyn, ond roedd hi’n ddigon dewr i wynebu’r daith anodd hon. Un o uchafbwyntiau ei bywyd oedd y daith hon. Roedd hi’n fenyw falch iawn; roedd gan y gweddill ohonom barchedig ofn tuag ati. Ei hagwedd arferol at fywyd oedd – yr ateb yw ie, beth yw’r cwestiwn?
Dirywiodd iechyd Lynne yn araf yn ystod 2008 ac yn fwy cyflym yn 2009 a bu’n rhaid iddi ddychwelyd i’r ysbyty yn Llangollen ar Hydref 5ed 2009. Dychwelodd adref ar Dachwedd 20fed ond roedd hi bellach ar dir peryglus ac er gwaethaf y gefnogaeth wych gan y gwasanaethau gofal a’r GIG, dirywiodd ei hiechyd yn gyflym o ddrwg i waeth gan arwain at byliau di-baid o niwmonia yn Nhachwedd/Rhagfyr 2011, a’i marwolaeth annhymig ar Ragfyr 31ain 2011.
Mae’n gadael Rhys ac Elen a Stan a llu o gyfeillion, a ddrylliwyd yn ddarnau o’i cholli, ond sydd hefyd ag atgofion gwych o archseren a oleuodd fywyd pawb ac a gafodd dipyn o lwyddiant yn ei bywyd er gwaethaf anfantais y Sglerosis Ymledol. Nid oedd byth yn esgus.
Stan Moore