John Morris, Yr Arglwydd Morris o Aberafan (1931 - 2023)
Roedd John Morris yn un o genhedlaeth arbennig o fyfyrwyr y gyfraith yn Aberystwyth o gefndir Cymraeg yn y gorllewin a raddiodd wedi’r Ail Ryfel Byd ac a aeth ymlaen i fod yn wleidyddion blaenllaw oddi mewn i’r Blaid Lafur yn Senedd San Steffan.
Brodor o fro’r Brifysgol oedd John Morris. Magwyd ef ym mhentref Capel Bangor yng Nghwm Rheidol a chafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Ardwyn. Er i’w yrfa addysgol wedi Aber a’i yrfa broffesiynol fel bargyfreithiwr, ac yna fel gwleidydd, ei arwain i Gaergrawnt ac wedyn i Lundain, roedd yn parhau yn Gardi balch ar hyd ei oes.
Cafodd yrfa ddisglair fel bargyfreithiwr, ond fel gwleidydd y mae yn fwyaf adnabyddus. Cyn dod yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi, gwasanaethodd yn Nhŷ’r Cyffredin fel aelod seneddol dros Aberafan am fwy na deugain mlynedd, gan dreulio dau gyfnod ar y fainc flaen yng nghabinet Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Rhwng 1974 a 1979, roedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru dan y Prif Weinidogion Harold Wilson a James Callaghan. Rhwng 1997 a 1999 bu’n Dwrnai Cyffredinol dan Tony Blair, swydd yr oedd wedi ei chysgodi am bedair blynedd ar ddeg cyn hynny tra bo’r Blaid Lafur yn wrthblaid. Dyma dystiolaeth efallai o’r parch oedd iddo ymysg ei gyd-wleidyddion fel darparwr dibynadwy o gyngor ac arweiniad cyfreithiol.
Mae ganddo le pwysig yn hanes democratiaeth Cymru. Ac yntau’n Ysgrifennydd Cymru, bu’n gyfrifol am lunio’r Ddeddf Seneddol gyntaf a basiwyd gan Senedd y DG i gynnig cyfundrefn ddatganoli ar ffurf Cynulliad etholedig i Gymru, ac am ei llywio drwy’r Senedd yn Llundain. Cafodd yr ymgais honno ei gwrthod mewn refferendwm. Serch hynny, pan ailymwelwyd â datganoli wedi buddugoliaeth Llafur Newydd ym 1997, model tebyg o lywodraethiant a gynigiwyd eto i bobl Cymru, ac a dderbyniwyd ganddi y tro hwn. Yn wahanol i Senedd yr Alban (yr oedd ganddi bwerau deddfu cynradd) corff gweithredol yn unig oedd y Cynulliad hwn. Trosglwyddwyd iddo bwerau oedd cyn hynny yn cael eu harfer oddi mewn i gabinet y Deyrnas Gyfunol gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Rhan o gyfrifoldeb John Morris fel Twrnai Cyffredinol oedd sicrhau bod y Cynulliad newydd hwn yn parchu’r terfynau rhwng ei swyddogaethau ei hun a’r swyddogaethau oedd yn parhau dan ofal gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn Llundain. Roedd eironi’r ffaith ei fod yntau, lladmerydd brwd dros ddatganoli i Gymru, yn rhyw fath o geidwad y ffin yn ei oglais yn fawr.
Yn ogystal â bod yn Gardi balch, drwy gydol ei oes, bu’n gefnogwr brwd i Brifysgol Aberystwyth ac i Adran y Gyfraith a Throseddeg (fel y mae nawr). Roedd yn un o Gymrodyr y Brifysgol, a phan gynhaliwyd cinio yn neuadd yr Old Bailey llynedd i ddathlu pen-blwydd yr Adran yn 120, yr oedd yno mor fywiog ag erioed a’i eiriau a’i osgo yn llawn balchder yn y Brifysgol a’r Adran a brwdfrydedd dros eu llwyddiant. Hynny sydd yn aros yn y cof wrth feddwl am y cyswllt rhwng John Morris ac Aberystwyth. Heddwch i’w lwch.
Yr Athro Emyr Lewis
Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth
Mehefin 2023