Joseph Clancy (1928-2017)

 

Ganwyd Joseph P. Clancy yn Efrog Newydd yn 1928. Ef oedd cyfieithydd mwyaf blaenllaw llenyddiaeth Gymraeg Canol a modern i'r Saesneg, yn ogystal â bod yn fardd yn yr iaith Saesneg hefyd.

Daeth Joseph i gysylltiad â llenyddiaeth Gymraeg am y tro cyntaf ar ôl darllen cyfieithiad Saesneg o gerdd Gymraeg o’r Oesoedd Canol, a phenderfynu y gallai wneud yn well ac aeth ati i ddysgu’r Gymraeg.

Ar ôl sawl cyfnod byr o astudio yng Nghymru cychwynnodd ar flwyddyn sabothol yma yn Aberystwyth yn 1972.

Pan ymddeolodd yn 1990, symudodd ef a Gerrie, ei wraig, i Aberystwyth gan fyw yma am dros 20 mlynedd.

Yn Gymrawd o Adran Saesneg yr Academi Gymreig, Cymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Aberystwyth, ac Athro Emeritws mewn Saesneg yng Ngholeg Manhattan Marymount, cafodd hefyd ei anrhydeddu â gradd D.Litt. gan Brifysgol Cymru am ei waith fel bardd a chyfieithydd.