John Trice 1941 - 2022
Bu farw John Trice, a oedd gynt yn ddarlithydd yn Adran y Gyfraith (fel y’i gelwid bryd hynny) mewn cartref nyrsio yn Sir Benfro ar y 1af o Ragfyr, wedi cyfnod o salwch. Roedd yn 81 oed.
Cafodd John ei eni a'i fagu yn Noc Penfro ac aeth i Goleg Gonville a Caius, Caergrawnt, i ddarllen Hanes cyn newid i astudio'r Gyfraith. Wedi iddo gael blas ar ymarfer y gyfraith ym Manceinion, ymunodd â staff Adran y Gyfraith ym 1966. Ei brif ddiddordebau oedd Cyfraith Tir a Chyfraith Weinyddol pan oedd yr ail faes hwn yn dal i ennill ei blwy’ fel disgyblaeth ynddi’i hun, ac fe ddenodd ei weithiau cynnar ar y pwnc sylw mewn llefydd ymhell y tu hwnt i Aberystwyth. Ysgrifennodd English and Continental Systems of Administrative Law ar y cyd â Zaim Nedjati, ond mae'n debyg mai ei gyfraniad academaidd pwysicaf oedd fel un o sylfaenwyr a’r prif symbyliad y tu ôl i The Cambrian Law Review, cyfnodolyn a enillodd ei blwy’ ar restr graidd llyfrgelloedd y gyfraith ac un a wnaeth enw iddo’i hun yn rhyngwladol, gan ychwanegu'n sylweddol at broffil yr Adran a'r Brifysgol gyfan. Rhaid dweud hefyd y bu llawer o'i fyfyrwyr yn ddiolchgar iawn iddo am ei garedigrwydd a'i gefnogaeth ddiffuant ac, yn wir, mawr yw eu dyled iddo o hyd.
Ymddeolodd John yn sgil afiechyd ym 1989 ac fe’i penodwyd i swydd anrhydeddus wedi hynny. Parhaodd i ymddiddori yng ngwaith yr Adran ac yn y Review er iddo wynebu llawer o broblemau iechyd dros y blynyddoedd. Roedd yn aelod brwdfrydig ac ymroddedig o’r Clwb Cerdd, a bu’n Ysgrifennydd arno hefyd. Roedd ei biano a'i lyfrgell recordiau hefyd yn bwysig iddo gydol ei oes. Roedd hefyd yn gryn arbenigwr ar borslen Parian Ware. Roedd yn berchen ar gasgliad pwysig o’r porslen hwn a waddolodd i Amgueddfa Fitzwilliam, Caergrawnt. Byddai’n hoff o deithio’n helaeth pan oedd yn iau hefyd.
Gŵr ag ymlyniad cryf wrth Aberystwyth oedd John Trice, roedd yn driw i’w wreiddiau yn Sir Benfro ac roedd Caergrawnt hefyd yn lle pwysig iddo. Roedd yn hael ac yn gefnogol i'w ffrindiau ac i'w deulu estynedig. Bydd llawer yn gweld ei eisiau’n fawr, nid leiaf y myfyrwyr lu a ddeuai i sylweddoli yn ei sesiynau tiwtora ei bod bob amser yn werth rhoi Deddf Cyfraith Eiddo 1925 i’r naill ochr am ennyd fach i werthfawrogi machlud haul prydferth.
Richard Ireland a John Williams