John Garnett (1936-2012)
Ffigwr blaenllaw yw John Garrett ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol yn ogystal â hanes man geni’r ddisgyblaeth honno: Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth. John oedd nawfed daliwr Cadair Gwleidyddiaeth Ryngwladol Woodrow Wilson (1981 – 1997) ac yn 1962 fe oedd y darlithydd cyntaf i’w benodi mewn prifysgol ym Mhrydain yn yr is-faes newydd o Astudiaethau Strategol. Fe oedd un o’r arloeswyr wrth ddysgu’r pwnc hwnnw in y DU, gan ddatblygu cyrsiau gradd i israddedigion ac ôl-raddedigion gyda Laurence Martin, un o’i ragflaenwyr fel Athro Cadair Woodrow Wilson. Enillodd John enw fel ysgolhaig amlwg yn fuan trwy’i gyhoeddiadau, yn enwedig y rhai a drafododd strategaeth niwclear. O ran athroniaeth fe ddaeth o ysgol Realaeth Cysylltiadau Rhyngwladol ac ysbrydolid ei waith academaidd gan ei ddealltwriaeth ddwys am hanes syniadaeth wleidyddol ac athroniaeth wleidyddol, yn ogystal â hanes rhyngwladol a chyfraith ryngwladol.
Mae cydweithwyr a myfyrwyr yn cofio John fel athro poblogaidd ac ysbrydoledig a chanddo ddawn i wneud damcaniaeth yn hawdd ei deall ac yn berthnasol i fyd go iawn diplomyddiaeth, polisi tramor, a rhyfela. Mae’r Athro John Baylis, gynt o Brifysgolion Aberystwyth ac Abertawe, yn cofio: ‘Deuthum i Aberystwyth yn 1968 yn bennaf o achos ei enw da...Roedd ganddo’r gallu prin i adael i israddedigion, ôl-raddedigion, swyddogion iau ac hŷn, a diplomyddion ar wahanol lefelau gael dealltwriaeth wahanol yn ei ddarlithoedd.’ Mae’r Athro Syr Steve Smith, Is-Ganghellor Prifysgol Caerwysg, yn cofio dysgu cwrs newydd ar gyfer israddedigion y flwyddyn gyntaf gyda John yn y 1990au cynnar: ‘Bûm yn ei ddarlithoedd bob wythnos ac roedd y ffordd y deuai’r pwnc yn fyw yn ei ddwylo yn creu argraff fawr arnaf i. Symudai myfyrwyr o’r ystafell ddysgu i’r Weinyddiaeth Amddiffyn i Adran Dramor UDA ac yn ôl i ddamcaniaeth Realaeth ymhen awr.’
Bu gwasanaeth cyhoeddus i’r gymuned y tu hwnt i academia yn nodwedd bwysig ym mywyd proffesiynol John ac roedd galw mawr am ei arbenigedd. Roedd yn ymgynghorydd academaidd yng Ngholeg Amddifyn y Cyd-Wasanaethau, aelod o Gyngor Sefydliad y Gwasanaethau Unedig Brenhinol, aelod o Banel Ymgynghorol y Swyddfa Dramor ar Reoli Arfau, a chynrychiolydd Prydain ar Fwrdd Ymgynghorol y Cenhedloedd Unedig ar Ddiarfogi.
Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth fu John am fwy na degawd ac ef oedd ei hwyneb cyhoeddus am fwy na deg mlynedd ar hugain. Fe lywiodd yr adran trwy gyfnod heriol a bu’n gyfrifol am benodi ysgolheigion a ddaeth yn arweinwyr nesaf y maes. Aeth ei awydd gwasanaethu’n bell y tu hwnt i’r adran a threuliodd rai blynyddau fel Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol.
Elwodd llawer ohonom a fu’n gweithio gyda John oherwydd ei garedigrwydd a’i gyfeillgarwch. Pan oeddwn yn las-ddarlithydd yn fy swydd gyntaf, cofiaf deimlo mor ddiolchgar bod athro hŷn a phennaeth yr adran yn neilltuo amser i sicrhau fy mod yn ymgartrefu ac i gynnig anogaeth a chysur. Fe fu’n gefn i gydweithwyr oedd yn cael anawsterau a hynny’n dawel a heb ddim seremoni. Bydd y rhinweddau hyn, ynghyd â’i gyfraniadau at y maes a’i ddylanwad ar genedlaethau o gyn-fyfyrwyr, yn sicrhau y caiff ei gofio gymaint gan y rhai a’i hadwaenai.
Dr Jennifer Mathers
Pennaeth Dros Dro yr Adran
Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Prifysgol Aberystwyth