John Barrett (1943-2011)
Bydd yr enw John Barrett yn dragwyddol gyfystyr â’r term biocemeg y parasit, ac yn enwedig gyda
datblygiadau mewn metabolaeth gymharol a mecanweithiau dadwenwyno cyffuriau. Cyhoeddwyd y cyntaf o dros ddau gant o bapurau ganddo yn y cyfnodolyn Nature ym 1968, a chyfrannodd at nifer o benodau ar barasitoleg i gyfrolau. Mae ei gyfrol The Biochemistry of Parasitic Helminths, a gyhoeddwyd ym 1981, o hyd yn destun cyfeiriol i barasitolegwyr ledled y byd, ac fe’i defnyddiwyd i helpu i anodi genom y parasit schistosome yn 2009.
Yn wreiddiol o Chippenham, graddiodd John mewn Sŵoleg o Brifysgol Caergrawnt ym 1965, ac enillodd radd PhD ym 1968. Tra’n astudio ar gyfer ei PhD, blodeuodd ei ddiddordeb ym miocemeg y parasit, a gosodwyd meini sylfaen i’w yrfa ymchwil nodedig. Ar wahân i’w allu deallusol amlwg ei nodweddion pennaf oedd ei garedigrwydd a’i hiwmor parod, ac annwyl.
Fe’i penodwyd yn ddarlithydd mewn parasitoleg ym 1973, yna fe’i penodwyd yn Bennaeth Adran ac yn Athro Sŵoleg yn Aberystwyth ym 1983, ac yn Ddeon y Gwyddorau yn 1991. Yn ddiweddarach, yn 2000, penodwyd yr Athro Barrett yn Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, swydd y bu ynddi tan 2005.
Trwy ei ymwybyddiaeth a’i ddealltwriaeth o faterion cyfoes addysg uwch gwnaeth gyfraniad sylweddol at redeg y Brifysgol; roedd yn feistr ar ei waith ac yn gwbl ymrwymedig i’r Brifysgol. Roedd gwerth ei sgiliau rheoli a gweinyddu i’w gweld ar eu hamlycaf pan, ag yntau ar fin ymddeol, fe’i perswadiwyd i weithredu fel pennaeth dros dro yn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff wrth i’r adran chwilio am bennaeth parhaol.
Ni wnaeth ei gyfrifoldebau ym myd rheolaeth ddim i leihau ar effaith ei ymchwil na’i gyfraniad at waith cymdeithasau dysgedig, a dyfarnwyd iddo sawl gwobr ryngwladol. Gwasanaethodd fel Aelod o
Gyngor Cymdeithas Parasitoleg Prydain a’r Gymdeithas Fioleg Arbrofol, bu’n Llywydd Gymdeithas Parasitoleg a chadeiriodd bwyllgor llywio’r Sefydliad Iechyd y Byd ar gemotherapi ar gyfer schistosomiasis.
Trwy gydol ei yrfa, cafodd John gefnogaeth ei wraig Penny; ac er ei fod yntau’n gefnogol iawn o ddiddordeb Penny mewn merlota, doedd dim modd i’w berswadio i gymryd rhan yn y gamp, cans garddio oedd yn mynd a’i fryd. Mae’n gadael gwraig a dwy ferch, Sara a Kate.
Yr Athro John Barrett, parasitolegydd, ganwyd 21 Hydref, 1943. Bu farw 29 Mawrth, 2011, yn 67 oed.
John Fish