Jill Roberts (1950-2009)
Ganwyd Jill yn Ne Cymru ym 1950. Dechreuodd yn Aberystwyth yn syth o'r Chweched Dosbarth ym 1968. Astudiodd Ieithoedd Tramor, gan arbenigo'n gyntaf mewn Ffrangeg. Treuliodd y flwyddyn ganlynol yn Ffrainc fel Cynorthwyydd Saesneg mewn Ysgol Ffrangeg: Lycée Thibault de Champagne, yn Provins. Yn ei hail flwyddyn yn ôl yn Aber, dysgodd Jill Eidaleg, ac ymhen dim byddai wedi datblygu angerdd dwfn, gydol oes am yr iaith. Treuliodd haf 1971 yn Fflorens, yn astudio dramor ac yn parhau i ddysgu mwy am yr Eidal gyfan. Roedd ei Heidaleg mor rhugl fel bod pobl leol yn aml yn cael sioc o ddarganfod mai Cymraes, ac nid Eidales, oedd hi.
Ar ôl cwblhau ei gradd ym 1972, dechreuodd Jill ei swydd gyntaf yr haf hwnnw gyda Cosmos Travel fel tywysydd. Cyfarfu â pharti yn Victoria, cyn teithio gyda nhw i'r Rhein, i fyny'r afon, drwy'r Swistir i Lido di Jesolo yn yr Eidal – nepell o Fenis. Ar ôl tair wythnos yn Jesolo, roedd hi'n disgwyl dychwelyd i godi parti arall, ond gofynnwyd iddi aros ymlaen yno i fod yn gynrychiolydd lleol. Yn dilyn yr arhosiad annisgwyl hwn ar arfordir yr Eidal, byddai'n fuan iawn yn cwrdd â'i gŵr cyntaf, Luciano Baione. Ganwyd eu merch Laura ym 1977, ac yna Elena ym 1979 (aeth Elena ymlaen i astudio yn Aberystwyth hefyd). Buont yn byw yn yr Eidal tan 1984, cyn dychwelyd i Dde Cymru. Ar ôl symud, byddai Jill yn defnyddio ei sgiliau ieithyddol i helpu Luciano a'u plant i loywi eu Saesneg.
Cyfarfu Jill â Robin Roberts ym mis Mawrth 1987, a phriododd y ddau dair blynedd yn ddiweddarach. Ganwyd eu meibion Owen a Rhys ym 1990 a 1992. Parhaodd Luciano yn ffrind triw i Jill, a byddai'n cael croeso cynnes gan ei theulu newydd bob amser. A hithau’n byw yn y Barri gyda phedwar o blant, gŵr, ac Eidalwr twymgalon yn byw gerllaw, ffurfiodd Jill ddeinamig teulu mawr a chariadus. Roedd hi'n unigolyn hynod o hael, deallus a gofalgar. Roedd gan Jill chwaeth cerddorol eclectig heb ei ail, a oedd yn rhychwantu pob dim o Pavarotti i Green Day. Bu'n ddigon ffodus i weld B.B. King yn fyw mewn cyngerdd, a rhoddodd bic gitâr wedi'i lofnodi iddi. Roedd Jill hefyd yn ddarllenwraig frwd, a byddai’n darllen llyfr o glawr i glawr mewn diwrnod. Pan ddechreuodd ei merch Elena yn Aberystwyth ym 1997, bachodd Jill ar y cyfle i ailymweld â'i thref Prifysgol. Byddai'n dod â'r teulu cyfan draw i ymweld ag Elena gydol y flwyddyn, ac yn aml yn mynd am dro ar hyd y prom.
Roedd hi'n nain, neu 'Nana' fel yr oedd hi'n cael ei hadnabod, i bedwar o blant erbyn 2008. Yn gogyddes heb ei hail ac yn gwmni gwych, roedd y teulu cyfan wrth eu bodd yn ymweld â thŷ Nana am wledd o fwyd a llond bol o chwerthin. Ar ôl brwydr hir gyda chanser y fron, bu farw Jill yn 2009, yn 59 oed. Gadawodd deulu a barhaodd i ffynnu, teulu yr oedd hi wedi’i feithrin a’i garu'n fawr – ffaith na fydd byth yn mynd yn angof.
Erin Fahiya (Wyres)