Jeff Saycell 1970-2023
Wedi'i eni a'i fagu yn ardal y Waunfawr, Aberystwyth, roedd gan Jeff 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant hamdden a bu'n gweithio i Gyngor Sir Ceredigion cyn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth yn 2006. Ynghyd â'i frawd iau Martyn, roedd Jeff yn athletwr gwych ac yn adnabyddus iawn pan oedd yn ifanc am nofio ac fel achubwr bywydau, yn ogystal â’i weithgarwch cryfhau’r corff.
Bydd cymuned Prifysgol Aberystwyth yn adnabod Jeff fel cydweithiwr triw a ffyddlon a oedd bob amser yn siriol a chymwynasgar. Roedd yn bleser gweithio ag ef, ac yntau bob amser yn neilltuo amser i ofyn sut oeddech chi, a holi a allai wneud rhywbeth i wella’ch diwrnod. Roedd yn rheolwr ymroddedig a oedd wrth ei fodd â'i swydd ac â'r tîm yr oedd yn gweithio â nhw, ac roedd gan Jeff bob amser wên ar ei wyneb ac yn mwynhau hwyl gyda chwsmeriaid a chydweithwyr.
Wedi'i benodi'n wreiddiol yn Rheolwr Cyfleusterau/Masnachol yn y Ganolfan Chwaraeon, daethpwyd â Jeff i'r Brifysgol oherwydd ei wybodaeth a'i brofiad o geisiadau am grantiau chwaraeon a chyllid. Fodd bynnag, dros yr 17 mlynedd nesaf byddai rhywun yn ymddiried ynddo dro ar ôl tro i ddefnyddio ei ddoniau mewn meysydd cyfrifoldeb newydd. Yn fuan iawn cymerodd gyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch, addysgu, llogi cyfleusterau ac archebion. Gyda’i ddawn go iawn am weithio gyda phobl, ef oedd y cyswllt ag Undeb y Myfyrwyr a’r holl glybiau chwaraeon cymunedol.
Dros y blynyddoedd diwethaf bu Jeff yn gweithio fel Rheolwr Cyfleusterau a Thiroedd y Brifysgol, ac roedd y sgìl a’r egni a roddodd i’r rôl yn dangos eto pam roedd wedi dod yn gydweithiwr mor ddibynadwy. Aeth i'r afael â rheoli tri champws a thros 6000 o goed a llwyni, gan weithio'n agos gyda'i dîm newydd a ffurfio cysylltiadau pwysig â chyrff a grwpiau allanol yn y broses.
Mae prosiectau diweddar a arweiniwyd gan Jeff yn cynnwys adfer gerddi rhestredig Gradd 2 Brenda Colvin ym Mhantycelyn, ailblannu coed a llwyni o flaen Adeilad Hugh Owen ger mynedfa’r campws, a sefydlu campws sy’n gyfeillgar i ddraenogod a gwenyn.
Dyfarnwyd Gwobr Baner Werdd i gampws y Brifysgol yn sgil ei arweiniad yn y maes hwn, gwobr sy’n cydnabod parciau a mannau gwyrdd a reolir yn dda, gan osod y safon ar gyfer rheoli mannau hamdden awyr agored.
Tu hwnt i gymuned y Brifysgol, roedd Jeff yn rhan o wead y gymdeithas sy'n gwneud Aberystwyth yn unigryw. Roedd ganddo ddawn rhyfeddol am greu lleoedd ac yn esiampl ddisglair o’r berthynas wych rhwng y Brifysgol a’r dref yn Aberystwyth. Gyda’i gysylltiadau â Chlwb Beicio Ystwyth, roedd Jeff yn gyd-sylfaenydd Gŵyl Seiclo Aberystwyth a fu’n rhan o’r gyfres deledu broffesiynol ‘Tour Series’ am chwe blynedd. Gwnaeth yr Ŵyl Seiclo roi’r dref ar fap chwaraeon seiclo Prydain ac roedd Jeff yn hollbwysig i’w lwyddiant ysgubol.
Roedd ei gyd-drefnwyr yn yr Ŵyl Seiclo yn ei adnabod fel y ‘fixer’ gan mae ef fyddai’n ymgymryd â phopeth trefniadaethol, o’r datganiad dull cychwynnol a’r asesiadau risg ar sut i gau canol tref brysur iawn er mwyn rasio beiciau ar brynhawn dydd Gwener heb fawr o ffwdan, i drefnu mwy o fyrnau gwair a'u gosod ar Gornel y Pier gyda llai nag awr o rybudd cyn bod y rasio i fod i ddechrau. Gwnâi hyn â gwên ar ei wyneb, chwerthin yn ei lais, a chan fynd yr ail filltir bob amser.
Boed yn y gwaith neu yn ei ymrwymiadau allanol, gweithredwr oedd Jeff – parod, awyddus ac yn fwy nag abl i gamu i’r adwy pryd bynnag yr oedd ei angen. Bydd cydweithwyr sy’n galaru ar ei ôl yn gweld eisiau ei garedigrwydd, ei gefnogaeth ddi-baid, ei ddawn a’i allu di-feth i wneud i’r diwrnod deimlo’n well.
Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at deulu Jeff ar yr adeg drist hon. Hoffwn hefyd ddiolch i Darren Hathaway a’r Athro Martin Jones am baratoi’r deyrnged hon.