Athro Emeritws John David Ronald Thomas (1925-2022)
Yn gynharach eleni bu farw’r Athro JDR (Ron) Thomas o Garnaugwynion, Gwynfe, Sir Gâr.
Roedd yr Athro Thomas yn gyfaill da i’r Brifysgol a sefydlydd ‘Cronfa JDR a Gwyneth Thomas’ sy’n noddi myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sydd yn astudio economeg neu wyddor cefn gwlad ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Lluniwyd y deyrnged isod gan yr Athro Gareth Griffith o IBERS gyda chymorth Gaenor Taffinder, merch Yr Athro Thomas.
Cafodd yr Athro Thomas ei addysg gynnar yn Ysgolion Cynradd Rhiwfawr a Gwynfe ac Ysgol Uwchradd Llanymddyfri. Astudiodd Gemeg a Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd (1950) ac fe’i benodwyd yn ddarlithydd yn UWIST (University of Wales Institute of Technology) sydd bellach yn rhan o Brifysgol Caerdydd. Ef oedd y person cyntaf o UWIST i dderbyn gradd DSc (1972), ac fe’i ddyrchafwyd yn Athro yno yn 1988. Bu hefyd yn Llywydd Adran Ddadansoddol y Gymdeithas Gemegol Frenhinol rhwng 1990 a 1992.
Ei arbenigedd oedd cemeg electro-ddadansoddiadol ac fe ddatblygodd nifer o synwyryddion piezotrydanol ac ïon-ddetholiadol. Bu’n darlithio ar draws y byd a thrwy ei ddarlithiau roedd yn llysgennad da dros Gymru gan iddo agor ei ddarlithiau â thafluniau lliwgar o Gaerdydd a byddai’n cynnwys golygfeydd prydferth o gefn gwlad Cymru rhwng ei bwyntiau gwyddonol. (Erthygl yn Y Cymro, Tachwedd 1991 ‘Dadansoddwr Cemegol Sy’n Enwog Drwy’r Byd’.)
Yn 2008 sefydlodd ‘Gronfa JDR a Gwyneth Thomas’ er cof am ei Dad, John Thomas (1894–1978) a astudiodd Amaethyddiaeth yn Aberystwyth yn 1916, tra bod ei ewythr Syr John Williams, y llawfeddyg enwog, yn un o sylfaenwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Llywydd Y Brifysgol.