Hywel Teifi Edwards (1934-2010)
Diwylliant macho, o leiaf fel y gwelen i e, oedd eiddo ‘bechgyn mawr’ glannau’r môr yn Ysgol Sir Aberaeron ddechrau’r 1950au: allblyg, ymladdgar, uchelgloch, ffraeth-gellweirus, yn rhoi bri yn anad unpeth ar orchestion y maes chwarae. Ffrwyth profiadau morol cenedlaethau blaenorol efallai. Ac ymysg y bagad yma, roedd Hywel Teifi, arbenigydd y sliding tackle yn ôl ei gyffes ei hunan, i’w weld yn gwbl gysurus, gyda’r amlycaf a’r mwyaf poblogaidd.
Wedi colli golwg arno am rai blynyddau, mi ddes ar ei draws e nesaf yn fyfyriwr ôl-raddedig yn Aber, yn dal ymhlith glewion y tîm pêl-droed, yn uchel ei gloch yn y bar, ond yn traethu’n huawdl hefyd am wrthrych ei draethawd ymchwil, y bardd-feirniad Creuddynfab, tad barddol Ceiriog, ac ysgrifennydd cyflogedig cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol.
Enillodd ei draethawd ymchwil ar Greuddynfab radd MA iddo yn 1961, a dyna lansio’i yrfa yn ddehonglydd dihafal ac arloesol ar fywyd a diwylliant Cymru oes Victoria. Dechreuodd yr ysgrifau a’r adolygiadau lifo. Yna’r cyfrolau, gan ddechrau gyda’i astudiaeth o’r Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl Gwalia (1980). Yn hydreiddio’i gyhoeddiadau, a’i fyrdd ddarlithiau poblogaidd yn ogystal, roedd ei ddamcaniaeth i Frad y Llyfrau Gleision glwyfo seicoleg y Cymry mor ddifrifol fel bod yr ysfa i adfer parch y genedl yng ngolwg y Saeson wedi cam-ystumio’i hynt diwylliannol a gwleidyddol weddill y 19fed ganrif os nad hyd heddiw.
Gwendid cysylltiedig oedd methiant llenyddiaeth Gymraeg i draethu profiad y glöwr a’r gymdeithas ddiwydiannol. Aeth ati i ddehongli’r methiant hwnnw yn ei gyfrol Arwr Glew Erwau’r Glo, ac i geisio gwneud iawn amdano drwy ysgogi a golygu saith cyfrol swmpus Cyfres y Cymoedd (1993-2003).
Roedd Hywel Teifi’n genedlaetholwr angerddol. Wrth esgor felly ar ei gynnyrch ysgolheigaidd a phoblogeiddiol rhyfeddol, fe ymdaflodd yn ogystal, yn anfoddog fe ddichon ond yn dra llwyddiannus, i wleidyddiaeth, gan gynrychioli ei bentref mabwysiedig, Llangennech, ar Gyngor Sir Dyfed a sefyll dros Blaid Cymru yn etholiad seneddol 1983 dros Blaid Cymru. Roedd e’n ymgyrchydd cydwybodol ac ymroddgar a bu ei ddylanwad ar gyfeiriad a phenderfyniadau polisi yn Nyfed yn sylweddol.
I ‘bentre gwyn’ ei fachgendod, Aberarth, y daeth corff Hywel i’w gladdu Ionawr 20 eleni. Droeon y’i clywyd e’n canu clodydd ei fagwraeth fendigedig (yng ngwir ystyr y gair) yn y pentref hwnnw. Rhag ei gyhuddo o sentimentalrwydd serch hynny, fe dalai i’r darllenydd nodi’i sylwadau yn rhagair ei gyfrol O’r Pentre Gwyn i Gwmderi (2004), sy’n chwilio a chwalu myth y pentref gwledig delfrydol a ddyfeisiwyd gan Owen M Edwards ac eraill. Meddai, ‘Mi wn i gystal â neb mor ddwfn y gall gwreiddyn lle o’r fath fod ym mhridd ein hangen’, ac yna, wedi braslunio cyfnewidiau hanner canrif, ‘Rwy’n dwlu ar fy “mhentre gwyn”, ond nid wyf mor ddwl â chredu y dylai fod imi’n ddinas barhaus’. Ysgrythurol wrth gwrs yw’r cyfeiriad
Yn ogystal â’r uchod fe fu Hywel yn athro ysgol, yn ddarlithydd yn adran allanol ac yna’n Athro’r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Abertawe. Roedd e’n gymrawd o Goleg y Brifysgol Aberystwyth.
Cynog Dafis