Yr Arglwydd Gwilym Prys Davies o Lanegryn (1923-2017)
Darllenodd Gwilym Prys-Davies y Gyfraith yn Aberystwyth ac fe ddaeth yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr. Aeth yn ei flaen i chwarae rhan bwysig ym mywyd gwleidyddol Cymru ac ymgyrchu'n frwd dros ddatganoli i Gymru.
Ac yntau'n aelod o Fudiad Gweriniaethwyr Cymru ar y dechrau, ymunodd Prys-Davies â'r Blaid Lafur wedyn ac fe luniodd ddogfen yn 1963 yn trafod posibiliadau sefydlu llywodraeth etholedig yng Nghymru.
Yn 1966, ar ôl methu â chael ei ethol i Dŷ'r Cyffredin, dychwelodd Prys-Davies i'w waith fel cyfreithiwr ym Mhontypridd, yn arbenigo ar gynrychioli dioddefwyr afiechydon diwydiannol. Yn ogystal â chynghori glowyr a'u teuluoedd ar fynd i'r gyfraith, helpodd i sicrhau bod rhieni'r plant a laddwyd yn nhrychineb Aberfan yn cael cynrychiolaeth gyfreithiol briodol.
Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn iechyd cyhoeddus, ac fe'i penodwyd yn gadeirydd ar Fwrdd Ysbytai Cymru yn 1968.
Yn 1974, penodwyd un arall o gyn-fyfyrwyr Aberystwyth, sef John Morris (sydd erbyn hyn yn Arglwydd Morris o Aberafan) yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac fe gyhoeddodd ei fwriad o gyflwyno datganoli i Gymru. Penododd ef Prys-Davies i fod yn gynghorydd gwleidyddol rhan-amser iddo. Bu'n rhaid aros 23 o flynyddoedd nes i Gymru gael ei Chynulliad.
Yn 1982 cymerodd Prys-Davies sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi ac ef oedd yr aelod cyntaf o'r tŷ hwnnw i dyngu'r llw yn Gymraeg.
(*Credyd llun TopFoto/UPP)