Geraint Thomas (1950 - 2019)
Fy nhad-yng-nghyfraith, Geraint Thomas, sydd wedi marw yn 69 oed, oedd yr aelod cabinet ar gyfer gwasanaethau amgylcheddol a chynaliadwyedd yng nghyngor bwrdeistref Crawley yng Ngorllewin Sussex – safle a gymerodd ar ôl 30 blynedd o ysbrydoli disgyblion fel athro Daearyddiaeth.
Cafodd Geraint ei eni yn Horsham yn fab i David Lloyd Thomas, darlithydd mewn Meteleg yn Imperial College, Llundain, a nyrs o’r enw Eleanor (Owen gynt). Cafodd Geraint ei addysg yn ysgol ramadegol Collyer’s (sef coleg Richard Collyer erbyn heddiw), lle’r oedd yn Brif Fachgen, gan fyw yn Crawley am y rhan fwyaf o’i fywyd. Ym Mhrifysgol Aberystwyth y cyfarfu Geraint â’r ferch y byddai’n ei phriodi yn ddiweddarach, Jen Isaac, ac fe briododd y ddau yn 1974.
Am y tri degawd nesaf, bu Geraint yn dysgu disgyblion uwchradd yn ysgolion Hazelwick, St Wilfrid’s a Warden Park. Ar ôl ymddeoliad cynnar yn 2005, aeth Geraint yn Gynghorwr Llafur, gan gynyddu ei fwyafrif bob tro y cafodd ei ethol. Roedd pleidleiswyr o bob cred yn cydnabod bod ei ymroddiad i helpu unigolion a’u tref yn mynd uwchlaw gwleidyddiaeth pleidiau. Roedd ei gydweithwyr gwleidyddol yn gwerthfawrogi ei sgiliau ymgyrchu effeithiol a’i ymwybyddiaeth fanwl o fanylion a goblygiadau polisïau. Roedd pawb yn gwerthfawrogi ei ddaioni diffuant
Roedd Geraint yn flaenllaw yn y dadleuon yn siambr y cyngor, ac roedd Geraint yn defnyddio ei bortffolio i arwain ymateb y cyngor i’r argyfwng hinsawdd, gan weithio i wella’r cyfraddau ailgylchu a thrafnidiaeth gynaliadwy. Gwnaeth ef ddod â grym deallusol i’r pwyllgor cynllunio, gan amddiffyn yr egwyddorion cynllunio newydd i’r dref yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth ddiweddaraf. Roedd Geraint yn Gynghorydd Ward rhagorol ar gyfer Northgate yn gyntaf, wedyn Ifield, ac mae llawer o’r preswylwyr yn ddiolchgar am ei gymorth ymroddgar wrth ymdrin â materion llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus.
Yn rhan o’i waith yn y gymuned roedd ganddo ymrwymiad hir a diffuant i gartref gofal Ifield Park, elusen Crawley Open House, yr Ifield Society ac i’w ddyletswyddau fel llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Northgate. Un llwyddiant nodedig oedd ymgyrch Geraint ar gyfer amddiffyn yr Ifield wledig, a wnaeth achub Ifield Brook Meadows rhag datblygwyr tai. Roedd Geraint hefyd yn weithgar wrth sefydlu grŵp preswylwyr Northgate Matters, a oedd yn gwrthwynebu adeiladu ail redfa yn Gatwick, ac roedd hefyd yn ddadleuwr dros grŵp lles Gatwick Detainees.
Diolch i Geraint, symudwyd sgrôl brydferth, wedi’i llythrennu â llaw - yn anrhydeddu’r milwyr o Lowfield Heath (sydd bellach wedi’i chymryd drosodd gan faes awyr Gatwick) a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf – o’r eglwys leol oedd wedi’i chau, lle y gorweddai o olwg y byd, i amgueddfa Crawley. “Teimlwn ryw gyfrifoldeb bod angen iddi gael ei gweld,” meddai.
Roedd Geraint yn Ewropead balch, seiclwr brwdfrydig a rhoddwr gwaed rheolaidd, ac roedd ei weithredoedd yn cyd-fynd â’i gydwybod gymdeithasol. Yn naturiol, roedd Geraint yn cefnogi’r Guardian, gan werthfawrogi ei newyddiaduraeth ymchwiliol yn enwedig.
Roedd ganddo gariad tuag at y theatr a cherddoriaeth, ac roedd yn canu mewn amryw o gorau, yn chwarae’r piano ac, yn hwyrach yn ei fywyd, y sielo. Roedd Geraint yn fabolgampwr dawnus pan oedd yn iau, ac fe barhaodd i fod yn gefnogwr brwd o dîm rygbi Cymru a thîm criced Lloegr a Chymru.
Roedd Geraint yn gymeriad a hanner; yn llawn cariad, trugaredd, egni a hiwmor. Mae’n gadael ei wraig Jen, ei ferch, Helen, a’i ŵyrion yr efeilliaid Hugh a Thomas.
Diolch i’r ‘Guardian’ am ei ganiatâd i gyhoeddi’r erthygl.
Llun: Andrea Sarlo