Yr Athro Emeritws George Leonard (Len) Jones (1937-2023)

Gyda thristwch y nodwn farwolaeth Yr Athro Emeritws George Leonard (Len) Jones a fu farw ar 11 Rhagfyr, 2023. Fe ymunodd Len â Choleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1979 fel Athro Almaeneg a Phennaeth yr Adran Almaeneg, Rwsieg a Swedeg wedi cyfnod o 16 blynedd yn darlithio yng Ngholeg Prifysgol Cymru Caerdydd. Bu yn Aberystwyth nes ei ymddeoliad ym 1998. Roedd ei gyfnod yn Aberystwyth yn ddigon heriol, gyda'r Brifysgol yn cau Swedeg a Rwsieg, ond parhaodd Almaeneg a thrwy ymdrechion dygn Len cryfhawyd yr elfen cyfrwng Cymraeg o fewn yr Adran.

Ganed Len ym mis Rhagfyr 1937 yn Nhrefansel, Abertawe. Wedi gwrthod cynnig i fynd ar dreial i Glwb Pêl Droed Abertawe, astudiodd Almaeneg yng Ngholeg y Brifysgol Abertawe a derbyn gradd Dosbarth 1af ym 1958. Aeth ymlaen i ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig yn Abertawe a Choleg yr Iesu, Rhydychen, ble cafodd ei anrhydeddu fel 'Senior Meyrick Scholar'. Treuliodd gyfnod hefyd ym Mhrifysgol Basel (Y Swistir). Tra'n fyfyriwr ymchwil dysgodd Gymraeg. Roedd Len yn berffeithydd a roedd ei feistrolaeth o'r Gymraeg, fel o'r Almaeneg, mor drylwyr fel ei bod yn syndod i lawer nad oedd wedi dysgu'r naill na'r llall ar yr aelwyd, fel plentyn. Gweithiodd yn galed i hybu ac ehangu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn yr Adran yn Aberystwyth er bod hyn yn aml yn golygu mwy o waith iddo wrth baratoi dosbarthiadau ychwanegol yn y Gymraeg, yn enwedig gan nad oedd yr adnoddau angenrheidiol ar gael bob amser yn y Gymraeg.

Llên y ddeunawfed ganrif oedd prif faes ymchwil Len, ond cyhoeddodd hefyd, ar y cyd â John Gwilym Jones, gyfieithiad o ddrama Dürrenmatt, 'Ymweliad yr Hen Foneddiges' (Der Besuch der alten Dame). Roedd y dramodydd enwog, Bertolt Brecht, yn dipyn o arwr iddo ac ysgrifennodd lyfr amdano a ymddangosodd yn y gyfres Y Meddwl Modern. Roedd yn feirniad llenyddol craff gyda'r ddawn i fynegi syniadau cymhleth mewn ffordd ddealladwy a chlir.

Fel llawer i ddarlithydd mewn Adran gymharol fechan bu Len yn dysgu ystod eang o bynciau yn ystod ei yrfa, heb gwyno nad oedd yn gallu canolbwyntio ar ei feysydd arbenigol. Dros y blynyddoedd bu'n addasu ei gyrsiau yn gyson fel yr oedd cwricwlwm dysgu ieithoedd modern yn yr ysgolion yn newid. Cyflwynodd gyrsiau newydd fel Almaeneg i Economegwyr ac Almaeneg i Gerddorion. Roedd yn athro ysbrydoledig a oedd ar dân i rannu ei ddiddordeb yn iaith a diwylliant yr Almaen gyda'i fyfyrwyr a roedd ei frwdfrydedd yn heintus. Ac er fod ganddo safonau uchel iawn, nid oedd byth yn bychanu ei fyfyrwyr ond yn hytrach gwneud ei orau bob amser i'w hysbrydoli ac i  feithrin eu doniau. Roedd yn gydweithiwr hynod o garedig a chefnogol a'i ddrws bob amser ar agor i'r myfyrwyr a'i gydweithwyr.

Fel Adran a Phrifysgol, anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at deulu Len.

Yr Athro Emerita Wini Davies