George Lee

Gyda thristwch mawr y clywsom am golli ein myfyriwr George Lee ym mis Gorffennaf.

Roedd George newydd raddio mewn Mathemateg ac ar fin cychwyn ar ddoethuriaeth yn yr Adran Gyfrifiadureg.

Mae cydweithwyr wedi talu teyrnged i ddyn ifanc hynod a wnaeth argraff yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Roedd George wir yn un o fath” yn ôl Dr Adam Vellender o'r Adran Fathemateg. “Roedd yn ffynnu yn ei astudiaethau ac roedd bob amser yn awyddus i ddysgu mwy am bob maes mathemateg y daethai ar ei draws. Roedd ei frwdfrydedd wedi ei gyplysu’n gyson gyda synnwyr digrifwch gwych, cyfeillgarwch gyda myfyrwyr a staff, a llawenydd gwirioneddol wrth iddo feistroli’i bwnc.”

“Rwy’n amau y bydd George yn byw yn hir yng nghof pob darlithydd a’i dysgodd, yn rhannol oherwydd ei awydd i holi cwestiwn neu ddau ar ôl y ddarlith (roedd dau yn aml yn amcangyfrif rhy isel), lle byddai’n gofyn y math o gwestiynau treiddgar mai dim ond myfyriwr o'i allu eithriadol ef allai feddwl amdanynt. Rwy’n sicr y byddai ei astudiaethau PhD wedi ei arwain i gyfeiriadau hynod ddiddorol a ffrwythlon, ac mae’n drasig na welwn y cyflawniadau rhyfeddol y gallai fod wedi’u gwireddu.”

Dechreuodd Dr Alex Pitchford fel darlithydd yn yr Adran Fathemateg ar yr un pryd ag yr ymunodd George fel myfyriwr. Mae Alex yn cofio sut y gwthiodd George ef i ddeall ei bwnc yn ddyfnach.

“Fe wnaeth George fy helpu’n fawr i ddeall y fathemateg yn y modiwlau rwy’n eu dysgu. Dechreuais fel darlithydd ar yr un pryd ag yr ymunodd â ni fel myfyriwr. Gwthiodd ei ymchwil ychwanegol a'i gwestiynau treiddgar fy nealltwriaeth i lefelau dyfnach. Roedd yn ddifyr iawn iddo fy mod wedi dysgu mwy ganddo nag ef oddi wrthyf. Daeth yn hoff ffordd i mi ddysgu rhywfaint o fathemateg neu raglennu newydd, lle'r oeddem yn rhannu diddordeb cyffredin, byddai'n ymchwilio iddo ac yna'n ei esbonio i mi. Deilliodd ein cyfarfodydd wythnosol o ddymuno rhoi mwy o sylw a ffocws i'w gwestiynau nag oedd gennyf ar brynhawniau Gwener.

“Er gwaetha’r ffaith mai dim ond am un modiwl wnes i ddysgu George yn y flwyddyn gyntaf, fe wnaethon ni barhau i gyfarfod am awr bob wythnos trwy gydol y pedair blynedd. Byddwn bob amser yn teimlo'n llawn egni ac yn llawn brwdfrydedd ar ôl i ni gyfarfod. Daeth yn amlwg yn fuan, wrth i bob darlithydd ddysgu George, y byddent hwythau hefyd yn dod i werthfawrogi’r profiad o gael eu herio gan gwestiynau craff ar ôl darlith neu wrth gyfarfod ar hap.”

“Fe wnaeth George fy helpu gyda mathemateg a rhaglennu ac fe wnes i ei helpu i ddeall pobl. Anogais ef i herio ei hun drwy ymuno â chymdeithasau a gweithgareddau eraill, megis ein Colocwiwm Mathemateg Cymreig yng Ngregynog, lle’r aeth ati yn ei ffordd ddihafal i holi’r prif siaradwyr hefyd. Pleser o’r mwyaf oedd ei weld yn datblygu o fod yn fachgen swil i fod yn ddyn ifanc hyderus ac allblyg.

“Roedd gyda ni bob amser rai prosiectau ar y gweill. Byddai’n gofyn am gyngor ar ei brosiect ef a byddai’n helpu gydag ychydig o dasgau rhaglennu ar fy un i, megis chwiliadau awtomataidd am swyddogaethau diddorol ar gyfer cwestiynau arholiad a rhithwiroli cysyniadau mathemategol a dulliau ar gyfer cymhorthion addysgu (a hefyd prosiectau personol fel fy nhrefnydd gemau criced a’i chwaraewr caneuon Python). Y llynedd mynegodd bryder ynghylch y bygythiad y byddai uwch-ddeallusrwydd artiffisial yn cymryd drosodd ac yn troi'r bydysawd yn glipiau papur. Buom yn trafod hyn yn helaeth a phenderfynwyd y dylem weithio ar brosiect i amddiffyn rhag risg o'r fath. Ac felly fe wnes i ei helpu i ddyfeisio cynnig PhD, enillodd arian AberDoc, ac roeddem yn edrych ymlaen at o leiaf dair blynedd arall o gydweithio.

“Felly rwy’n gweld ei eisiau’n fawr, ei gymorth gyda mathemateg ac awtomeiddio tasgau trwy ei allu rhaglennu, ond yn bennaf rwy’n gweld ei eisiau fel ffrind. Roedd ein cyfarfodydd, wedi'u cynllunio ac yn fyrfyfyr, yn llawn tynnu coes, lle byddwn yn ei herio am ei ymagwedd at godio a byddai'n fy mhryfocio am y theoremau y credai y dylwn eu gwybod ac ati. Roedd ei egni a'i frwdfrydedd a ymddangosai’n ddiderfyn ar gyfer datrys problemau, a'r hwyl o weithio arnynt, yn bleser i mi bob amser.”

Ymunodd George â'r Brifysgol yn anterth y pandemig COVID-19 ac astudiodd ar y radd MMath pedair blynedd. Ei diwtor personol oedd Dr Rolf Gohm.

“Cwrddais â George gyntaf yn ystod cyfnod wedi ei ddominyddu gan COVID, ar Microsoft Teams, cyfarfodydd tiwtora personol a thiwtorialau Algebra’r flwyddyn gyntaf. Roedd yn eithriadol ac yn aml byddem yn parhau ar ôl y tiwtorial am beth amser yn trafod cysyniadau hyd at waelod realiti mathemategol ac athronyddol sylfaenol. Pam bod y wirlen o oblygiadau fel y mae? Sut byddai mathemateg yn chwalu fel arall?

“Yn ystod COVID, rwy’n cofio cyfarfod tiwtor personol hir ar Teams, â’i fam yn ymuno ag ef, a gwnaethom geisio dod o hyd i ddadleuon a ddylai fod yn well ganddo wneud Cyfrifiadureg neu fynd am y radd MMath. Amlygodd y cyfarfod ei gred bod yna ffordd resymegol o wneud penderfyniadau o'r fath yn seiliedig ar archwilio'r dadleuon yn ofalus. Byddai cymdeithas yn lle gwell pe bai gan fwy o bobl gredoau gonest fel hynny.

“Roedd yn debyg ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach pan oedd angen penderfyniad ynghylch y dewis o brosiectau ar gyfer y bedwaredd flwyddyn. Y tro hwn fe wnaethom gyfarfod yn fy swyddfa a mynd drwy'r gwahanol bosibiliadau. Cofiaf ddadlau rywbryd fod mwy nag un penderfyniad da ac nad oes trefn unionlin ar werth y prosiectau hyn oherwydd bod meini prawf perthnasol a’u pwysigrwydd yn newid dros amser. Ar yr un pryd, roeddwn i'n edmygu ei benderfyniad i ddod o hyd i'r ffordd orau un ac roeddwn i'n meddwl efallai wrth i mi fynd yn hŷn fy mod i’n mynd ychydig yn rhy esgeulus a cholli rhywfaint o'r ysfa am fanylder eithaf sydd mewn gwirionedd mor hanfodol ar gyfer gwaith mathemategol gwirioneddol dda.

“Un o’i feini prawf oedd peth perthnasedd i AI a nododd, yn gywir fwy na thebyg, fel un o’r prif faterion i wyddonydd mathemategol fynd i’r afael â nhw yn y blynyddoedd i ddod. Yn wahanol iddo fe, yn anterth grym ei lencyndod, mae’n debyg fy mod wedi ymroi i faes penodol o wybodaeth,  a cheisiais amlygu natur sylfaenol mewnwelediadau mewn mathemateg bur. Roedd yn gallu deall hynny'n dda iawn.

“Roedd wedi bod yn gymaint o bleser ei gael, er enghraifft, yn fy nosbarthiadau topoleg (yn yr un uwch, ar Dopoleg Algebraidd, cymerodd ran heb arholiad). Mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo fod topoleg yn anodd ac mor wahanol i bynciau eraill. Mae'n werth ei ystyried ymhellach. Rwy’n meddwl fod topoleg mewn ffordd yn ddatblygiad o’r cyfnod chwyldroadol mewn mathemateg 100 mlynedd yn ôl, ac felly ei bod braidd yn amhriodol ei ddysgu fel cyfres o ffeithiau diflas. Nid yw rhai myfyrwyr am gael eu herio yn eu hastudiaethau gan y ffyrdd newydd o feddwl a grëwyd gan y chwyldroadwyr. Yma roedd y trafodaethau ar ôl y darlithoedd gyda George weithiau'n gallu cloddio i lawr i'r tân yn y meddwl chwyldroadol hwn sydd wedi'i guddio yn y gyfres o ffeithiau. Dywedodd George ei fod wedi mwynhau'r modiwl ac roedd hyn yn galonogol ac wedi fy ysgogi i feddwl ymhellach amdano.

“Roedd yr eiliadau gorau hyn yn fy atgoffa o fyd addysg a dysg delfrydol yn ein breuddwydion lle mae myfyriwr ac athro yn cymryd yr holl amser yn y byd i chwilio am wirionedd eithaf y mater. Rwy'n cofio inni eistedd y tu allan i MP-3.02 ar ôl darlith yn ceisio darganfod pam ei bod yn gymaint anoddach profi fod dimensiwn yn amrywiad topolegol ar gyfer dimensiynau uwch nag ar gyfer dimensiynau bach. Yr oeddwn wedi crybwyll y canlyniad anghysondeb hwn gan Brouwer ac wedi profi achos arbennig ond dim ond wrth ei drafod ymhellach â George y sylweddolasom gyda'n gilydd pam ei bod mor anodd profi'r achos cyffredinol. Neu yn y modiwl am wybodaeth cwantwm lle gwnes i gadw’r drafodaeth am ddehongli maglu cwantwm braidd o dan y carped, ac wrth gwrs George gododd y peth, roedd wedi meddwl amdano ac roedd ganddo syniadau amdano. Fe wnaethon ni roi'r gorau i'r drafodaeth oherwydd nad oedd gen i ddigon o amser (ac egni?) ar y diwrnod.

“Fe wnaeth ei bresenoldeb yn y dosbarthiadau eu gwella nhw, dwi’n meddwl: allwn i ddim dianc gyda phenderfyniadau blêr sut i symud ymlaen, byddai’n tynnu sylw atynt, roedd ei allu i ateb cwestiynau’r darlithydd ar unwaith yn ei gwneud yn glir i bawb ei bod yn bosibl gweld trwy’r cyfan, ac felly codwyd safon y drafodaeth. Roedd gen i bolisi o adael iddo ateb tua hanner yr amser ac aros i fyfyrwyr eraill wneud yr hanner arall. Ni allaf weld y tu mewn i bennau eraill ond i mi roedd yn ymddangos ei fod yn cael ei dderbyn yn dda fel personoliaeth unigryw ymhlith ei gyd-fyfyrwyr.

“Un diwrnod roedd y cyfarfod prosiect awr o hyd wythnosol arferol yn fy swyddfa wedi para mwy na thair awr, wnes i ddim sylwi ei fod mor hir, fe aethon ni ar goll yn ddwfn y manylder. Yn wreiddiol roeddwn wedi bwriadu mynd dros rannau mwy elfennol o'r prosiect yn gyflymach ond mynnodd driniaeth drylwyr a chyflawn iawn, ac er y gallai darllen y testun fod wedi bod yn fwy pleserus gyda dilyniant llai systematig roedd yn rhaid i mi gydnabod hefyd bod y math hwn o ymdrechu tuag at sicrhau trefn a chyflawnrwydd yn y pen draw yn sail i fathemateg wych ac mi fyddai’n dda i ni gael ein hatgoffa am hynny. Mae'n arwydd o fathemategydd da i beidio â bodloni yn unman ynghynt. Cwblhawyd rhan ddiweddarach fwy datblygedig y prosiect mewn llawer llai o amser, yn well i’w ddarllen ac yn berl go iawn. Gallai ddysgu a gwella mor gyflym.

“Roedd yn amlwg yn dalentog iawn. Weithiau rydych chi'n cwrdd â phobl lle rydych chi'n sylwi eu bod nhw'n gallu meddwl yn gyflymach na chi ac roedd e'n un ohonyn nhw. Dim ond trwy ddibynnu ar y llwybrau byr o wybodaeth ehangach a gesglais dros y blynyddoedd y llwyddais i ddysgu pethau newydd iddo. Nid yw'n hawdd dod o hyd i lwybr drwy’r holl bosibiliadau i berson ifanc a thalentog ac weithiau roedd yn ansicr ac nid oedd yn ofn holi am gymorth.

“Roedd yn ddeallusol chwilfrydig am gynifer o bethau a gwnaeth lawer o fodiwlau, yn bennaf yn seiliedig ar fathemateg a chyfrifiadureg, ac i gymaint o gyfeiriadau fel ei fod bob amser yn anhygoel pan fyddai’n tynnu elfennau allan mewn cyfarfodydd tiwtor personol. Roedd yn amlwg yn dalentog nid yn unig am un peth ond roedd ganddo'r gallu i amsugno gwahanol bethau a'u rhoi at ei gilydd. Felly pan ddadleuais dros gynnal troed gref mewn mathemateg bur hefyd mewn gwaith ôl-raddedig lle penderfynodd ganolbwyntio ar gyfrifiadureg, fe gytunodd â hynny. Wnes i ddim gwthio hyn yn galed iawn mewn gwirionedd oherwydd nid wyf yn siŵr faint o hyn sy'n ddilys i ddyn ifanc â'r fath dalentau i ganolbwyntio ar ychydig o gwestiynau caled a sylfaenol a beth yw fy rhagfarn bersonol yn unig. A dweud y gwir, fel y dadleuwyd yn gynharach, nid oes trefn unionlin ar werth pethau o’r fath ac mae’n debyg, bron yn siŵr, fy mod yn meddwl y byddai George yn ddigon aml-dalentog i dynnu popeth at ei gilydd mewn endid uwch fwy gwerthfawr na’i rannau. Mae’n drist iawn na chawn weld hynny.

“Byddaf yn gweld ei eisiau yn bersonol, roedd yn fod dynol gwirioneddol ddymunol  a oedd hefyd yn gofalu am eraill. Ni fydd y campws na’r adran yr un peth hebddo’n hongian o gwmpas a chymryd rhan yn y trafodaethau treiddgar hyn. Roeddem wedi meithrin perthynas bersonol a byddwn wedi mwynhau parhau i roi cyngor iddo a dysgu ganddo yn ei dro, o fewn fy ngwybodaeth a’m cyfyngiadau i. Ni chafodd cymdeithas gyfle i weld y cyfraniadau y byddai wedi gallu eu gwneud oherwydd ei farwolaeth annhymig. Mae colli dawn fel hon yn golled fawr i gymdeithas hefyd.”

Dechreuodd Dr Gwion Evans ei swydd fel Pennaeth yr Adran Fathemateg ar ddechrau mis Awst.

“Roedd George yn fyfyriwr rhyfeddol a hynod gyflym wrth ystyried cysyniadau newydd, cymhleth mewn mathemateg a’i archwaeth gwancus amdanynt. Ymddengys nad oedd terfyn i’w chwilfrydedd ac mae'n amlwg ei fod yn meddwl yn ddwys am fathemateg a'r llu o bynciau eraill o ddiddordeb iddo, yn fwyaf nodedig cyfrifiadureg.

“Deuthum ar draws George gyntaf pan wnaeth gais i astudio Cyfrifiadureg a Mathemateg. Roedd yn sefyll allan gan iddo ennill y marc uchaf yn yr Arholiad Mynediad Mathemateg gyda pherfformiad oedd bron yn berffaith. Roedd hwn yn rhagflas o'r hyn y daethom i'w ddisgwyl gan George: sylw at fanylion ac atebion cryno wedi'u llunio’n gelfydd gyda gwreichion o fewnwelediad gwych yn ei lawysgrifen fach nodweddiadol.

“Fy nghyfarfyddiadau uniongyrchol nesaf â George oedd yn narlithoedd Algebra yn y flwyddyn gyntaf, lle byddai bob amser yn llunio rhestr o gwestiynau i’w gofyn i mi ar ddiwedd darlith pan fyddem yn aml yn parhau am ryw awr yn dyrannu a dadansoddi’n fanylach y cysyniadau newydd a oedd wedi eu cyflwyno’r diwrnod hwnnw. Roedd yn amlwg ei fod yn mwynhau’r cyfle i drafod mathemateg ar lefel uwch; roedd ein trafodaethau yn aml yn cyffwrdd ag athroniaeth mathemateg.

“Roedd hefyd yn amlwg hyd yn oed bryd hynny fod gan George y potensial i ddod yn fathemategydd gwych. Roeddwn yn falch felly ei fod wedi cymryd ein cyngor i astudio cymaint o fathemateg ag y gallai drwy drosglwyddo i’r cwrs Meistr integredig mewn Mathemateg. Felly erbyn yr ail flwyddyn roedd George yn swyddogol yn fyfyriwr Mathemateg anrhydedd sengl, ond ni thorrodd hyn ei syched am wybodaeth, na lleddfu ei gariad, at gyfrifiadureg.

“Parhaodd George i astudio Cyfrifiadureg yn anffurfiol, gan ddilyn sawl modiwl a ddarparwyd gan yr Adran Gyfrifiadureg. Ar ben hynny, astudiodd nifer o fodiwlau mathemateg y tu hwnt i'w gwota swyddogol, cymaint oedd dwyster ei ddiddordeb ym mhob agwedd ar fathemateg a chyfrifiadureg.

“Parhaodd ein trafodaethau mathemategol ac athronyddol drwy gydol cwrs George, a ategwyd weithiau gan brosiectau bychain anffurfiol. Erbyn diwedd ei drydedd flwyddyn cefais fy nharo hefyd gan ei ymwybyddiaeth o nid yn unig yr hyn yr oedd yn ei ddysgu, ond hefyd sut. Daeth yn amlwg bod George hefyd yn rhoi sylw manwl i'r seicoleg oedd wrth wraidd ei ddysgu, gan geisio optimeiddio ei sgiliau datrys problemau ac ysgrifennu profion. Gwerthfawrogodd hefyd y gwahaniaeth yn y dulliau o ddatrys problem yr oedd mathemateg (haniaethol) a chyfrifiadureg (adeiladol) yn eu cynnig.

“Un arall o rinweddau nodedig George oedd ei hiwmor. Byddwn yn aml yn cael fy niddanu gan ei sylwadau cryno a'i wawd yn frith mewn aseiniadau a sgriptiau arholiad. Byddem hefyd yn aml yn pryfocio ein gilydd yn ystod trafodaethau. Yn enwedig tua diwedd y drydedd flwyddyn daeth ei chwareusrwydd i’r amlwg wrth brofi ffiniau ysgrifennu mathemategol derbyniol (a oedd eto’n dangos ei awydd am optimeiddio).

“Roedd ei lwyddiannau’n cynnwys ennill gwobrau Mathemateg am ei berfformiad academaidd ym mhob blwyddyn astudio, gan arwain at Wobr y Sefydliad Mathemateg a’i Gymwysiadau am y marc cyffredinol uchaf ymhlith myfyrwyr Mathemateg blwyddyn olaf. Wrth gwrs graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg - roedd yn arbennig o falch o fod wedi cyflawni o leiaf 90% ym mhob modiwl Mathemateg a oedd yn seiliedig ar arholiad! Dyfarnwyd gwobr fawreddog (a hynod gystadleuol) AberDoc iddo i gychwyn ar brosiect PhD mewn Cyfrifiadureg yn ymwneud â Mathemateg.

“Byddai’r prosiect hwn, a grewyd gan George ei hun, wedi bod yn gyfuniad perffaith o’i ddawn yn y ddau bwnc a’i gariad tuag atynt. Roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr at gynghori ac arwain George trwy agweddau mathemategol y prosiect a'i wylio'n cyflawni ei botensial i ddod yn academydd gwych, neu'n ddatblygwr AI.

“Doedd fy mhrofiadau gyda George ddim yn unigryw o bell ffordd, roedd yn ymwneud yn llwyr â’i holl ddarlithoedd ac yn trafod mathemateg gyda phob un o’i ddarlithwyr mathemateg a gyda llawer o’i gyd-fyfyrwyr. Nid yw'n syndod felly fod holl staff a llawer o fyfyrwyr yr Adran Fathemateg wedi'u siomi o glywed am farwolaeth annhymig George.

“Roedd ei gyfraniadau i’r Adran yn sylweddol, nid yn unig o ran cyfoethogi darlithoedd a thiwtorialau trwy ei gwestiynau a’i ryngweithio manwl (ac yn aml yn ddigrif) ond hefyd mewn gweithgareddau allgyrsiol a oedd yn cynnwys gweithredu fel Llysgennad Myfyrwyr ac Arddangoswr effeithiol yn ystod Diwrnodau Agored ac Ymweld. Rwy’n ddiolchgar fy mod wedi adnabod George ac am ei gyfraniadau cadarnhaol niferus i’n cymuned fathemategol yn Aber a byddaf i, ynghyd â’r nifer a gyffyrddwyd gan ei garedigrwydd, ei ffraethineb a’i hiwmor, yn gweld ei eisiau’n fawr.”

Agorodd AberDoc y drws at ddoethuriaeth mewn Cyfrifiadureg yn ymwneud â Mathemateg i George, o dan oruchwyliaeth Dr Neil Mac Parthalain o’r Adran Gyfrifiadureg.

“Gyda thristwch a sioc aruthrol y clywais am farwolaeth George yn ddiweddar”, meddai Neil.

“Deuthum i’w adnabod ychydig flynyddoedd yn ôl pan ddechreuodd fynychu fy narlithoedd trydedd flwyddyn ar Ddysgu Peirianyddol. Roedd yn sefyll allan ar unwaith oherwydd ei fod bob amser yn rhywun oedd yn gofyn cwestiynau mewn darlithoedd; gofyn cwestiynau meddylgar a threiddgar ar adeg pan nad oedd cyfranogiad myfyrwyr mewn sesiynau personol yn frwdfrydig.

“Gallaf gofio’n iawn y tro cyntaf i George ddod ataf; yr oedd ar ôl darlith. Dyma ddechrau llawer o drafodaethau a fyddai’n ddieithriad yn ymestyn i'r coridor wrth i'r grŵp nesaf o fyfyrwyr ar gyfer y sesiwn nesaf fynd i mewn i’r ddarlithfa; a’r arferol oedd: ‘Oes gennych chi bum munud i ateb cwestiwn?’ – ni fyddai trafodaethau o’r fath yn para pum munud gyda George!

“Ar y dechrau, roeddwn i’n cymryd yn ganiataol mai myfyriwr Cyfrifiadureg arbennig o frwdfrydig oedd George. Fe wnaeth ei ddiddordeb mewn Dysgu Peirianyddol fy ysgogi i feddwl efallai y dylwn siarad ag ef am ddilyn prosiect blwyddyn olaf yn ymwneud â Dysgu Peirianyddol. Mynychodd bob darlith yn y modiwl. Fodd bynnag, aeth peth amser cyn i mi sylweddoli nad oedd George nid yn unig yn fyfyriwr Cyfrifiadureg, ond yn fyfyriwr Mathemateg ac ar ben hynny, nid oedd hyd yn oed wedi cofrestru ar gyfer y modiwl! Yn syml, roedd y darlithoedd a'r pwnc o ddiddordeb iddo.

“Yng nghanol 2023, pan ofynnodd George a fyddwn i’n goruchwylio ei ddoethuriaeth, roeddwn i’n gyffrous ac ychydig yn bryderus - yn poeni efallai na fyddwn yn gallu ei herio’n ddigonol a chynnal ei ddiddordeb, o ystyried ei allu rhyfeddol. Buom yn cydweithio ar rai syniadau ers mis Mawrth eleni, er gwaethaf y ffaith nad oedd George wedi dechrau’n swyddogol ar ei ddoethuriaeth. Mae'r gwaith hwn bellach wedi'i gyflwyno i'w gyhoeddi.

“Yn ein sgyrsiau, gwelais fyfyriwr hynod chwilfrydig a thalentog iawn oedd yn meddu ar y gallu a’r brwdfrydedd i gaffael gwybodaeth mewn ffordd oedd yn wahanol i unrhyw un arall rydw i erioed wedi dod ar ei draws. Fodd bynnag, yr un mor werthfawr efallai oedd bod George yn ddyn caredig, meddylgar, cwrtais a ffraeth.”

Yn ystod ei gyfnod yn y Brifysgol, derbyniodd George gefnogaeth ychwanegol gan Mrs Heather Phillips, Mentor Arbenigol yn yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr.

Arweiniodd cefnogaeth Heather at George i’w henwebu ar gyfer gwobr Staff Cymorth y Flwyddyn yn y Gwobrau Addysgu, Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr blynyddol.

“Fel mentor arbenigol, braint o’r mwyaf oedd cael chwarae rhan ym mywyd George yn y Brifysgol.

“Cafodd George ei gyfeirio at fy llwyth achosion pan ddechreuodd yn y brifysgol yn 2020 a fy argraffiadau cyntaf oedd o ddyn ifanc cwrtais a fyddai’n gwneud yn siŵr yn diolch i mi am gwrdd ag ef.

“Fel rhan o’r tîm cymorth, byddai George a minnau’n cael cyfarfodydd wythnosol rheolaidd, gan ddechrau ar Teams oherwydd nid oedd cyfarfod yn bersonol yn cael ei ganiatáu.

“Roedd George yn awyddus i ddechrau ei astudiaethau a gwnaeth yn siŵr ei fod yn mynychu pob darlith a gweithdy a byth yn methu terfyn amser aseiniad.

“Pan ganiatawyd cyfarfodydd personol, dechreuodd personoliaeth George ddisgleirio. Yn bur aml, mewn gwirionedd yn aml iawn, byddai ein cyfarfodydd yn cynnwys llawer o chwerthin.

“Roedd George yn fyfyriwr hyfryd ac ni fethodd â diolch i mi am fod yn fentor iddo. Dywedodd ei fod wedi fy ‘hyfforddi’n dda’.

“Bu’n fraint i mi allu rhannu rhan o fywyd George a rhaid diolch i Nicky, mam George, am gyflwyno person mor hyfryd i’r byd.

Rwy’n ddiolchgar i gydweithwyr sydd wedi rhannu eu hatgofion gwych a’u gwerthfawrogiad o George gyda ni yma. Mae'n hynod amlwg o'r cynhesrwydd a fynegir yn y teyrngedau hyn fod George yn fyfyriwr hoffus yr oedd yn anrhydedd i'r staff ei adnabod. Ar ran y Brifysgol, estynnaf ein cydymdeimlad dwysaf i’w deulu, ei ffrindiau a’r rhai sy’n agos ato ar eu colled drasig.

Yr Athro Jon Timmis

Is-Ganghellor

Awst 2024