Dr Michael Hopkins (1945-2023)

Gyda thristwch y nodwn farwolaeth Dr Michael Hopkins, Cyn-Gyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth, ar 30 Rhagfyr 2023.

Yn hanu o Bontypridd, graddiodd y Dr Hopkins gyda BA mewn Hanes o Brifysgol Caerlŷr yn 1967. Astudiodd am flwyddyn yng Ngholeg Llyfrgellyddiaeth Cymru gynt yn Aberystwyth i ennill ei ALA. Fe gafodd ei Ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Loughborough yn 1981.

Dechreuodd ei yrfa ym Mhrifysgol Caerlŷr yn 1969 lle cafodd ei benodi'n Uwch Gynorthwyydd Llyfrgell. Cafodd ei ddyrchafu'n Llyfrgellydd Cynorthwyol yn 1971. Bum mlynedd yn ddiweddarach symudodd i Loughborough fel Is-Lyfrgellydd a chafodd ei benodi'n Ddirprwy Lyfrgellydd yn 1988.

Trwy gydol ei yrfa bu’r Dr Hopkins yn weithgar ym mhroffesiwn ehangach llyfrgellyddiaeth, gan wasanaethu ar bwyllgorau lleol a chenedlaethol Cymdeithas y Llyfrgelloedd (sef CILIP - Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth - erbyn hyn) a nifer o gyrff proffesiynol eraill. Yn rhyngwladol, yn gynnar yn y 1990au, roedd yn chwarae rhan yn un o brosiectau’r Asiantaeth Datblygu Tramor (sef Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu erbyn hyn (FCDO)) i sefydlu Llyfrgell newydd ym Mhrifysgol Moi yng Nghenia. Cadwodd gyswllt rheolaidd â Phrifysgol Moi, gan ddychwelyd yn 2007 i weld y datblygiadau diweddaraf.

Ar ôl ei PhD, roedd ganddo ddiddordeb cryf mewn ymchwil. Ei brif faes o ddiddordeb arbenigol oedd gwybodaeth y Gymuned Ewropeaidd a’r rhan y mae technoleg yn ei chwarae wrth ei gwneud hi’n haws cael gafael ar wybodaeth. Fe’i sefydlodd ei hunan yn awdurdod blaenllaw yn y maes, ac ymgynghorai’r Comisiwn Ewropeaidd ag ef yn aml ar faterion yn ymwneud â pholisi gwybodaeth. Ysgrifennodd lawer o lyfrau, penodau llyfrau, adroddiadau ymchwil ac erthyglau mewn cyfnodolion. Ar ben hynny, cyflwynodd bapurau mewn mwy na 60 o gynadleddau.

Ym 1995 y Dr Hopkins oedd y cyntaf i gael ei benodi i swydd newydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Crëwyd y Gwasanaethau Gwybodaeth i ymateb i'r newidiadau niferus a oedd ar droed ym meysydd gwybodaeth, cyfathrebu a thechnoleg, meysydd a oedd yn cydblethu’n gynyddol â’i gilydd.  Roedd yr adran newydd yn cynnwys y Llyfrgell, yr Uned Gyfrifiadurol a’r gwasanaethau Clyweledol. Arweiniodd y Dr Hopkins yr adran yn llwyddiannus drwy gyfnod o newid a thwf aruthrol o 1995 hyd at ei ymddeoliad yn 2009.

Pan oedd yn Gyfarwyddwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, roedd y Dr Hopkins yn weithgar iawn gyda Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF), gan wella cydweithio hanfodol rhwng cydweithwyr yn llyfrgelloedd addysg uwch Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan anelu at ddull o weithio drwy systemau ar y cyd. Roedd yn flaenllaw yn ‘Casglu'r Tlysau’, prosiect Cymru gyfan a oedd yn casglu gwybodaeth am eitemau mewn Amgueddfeydd, Archifau, Llyfrgelloedd a chasgliadau preifat ledled Cymru. Mae’r casgliad hwn bellach yn cael ei adnabod fel Casgliad y Werin Cymru. Ar ben hynny, roedd Mike yn Gyfarwyddwr Prosiect i’r Bartneriaeth Llyfrgelloedd Addysg Uwch (HELP) ar gyfer WHELF, yn datblygu rhagor o gydweithio a chydweithredu rhwng llyfrgelloedd Cymru, gan gynnwys rhannu adnoddau.

Roedd y Dr Hopkins yn gerddwr golffiwr a chwaraewr sboncen brwd ac, yn brawf o’r berthynas gadarnhaol a ddatblygodd â chydweithwyr yn y Gwasanaethau Gwybodaeth ac ar draws llyfrgelloedd yng Nghymru, ar ôl iddo ymddeol, byddai’r Dr Hopkins yn dal i gwrdd â chyn-gydweithwyr yn gymdeithasol am ddyddiau allan a theithiau cerdded.

Estynnwn ein cydymdeimlad i’w deulu.

Tim Davies ac Elizabeth Kensler (Gwasanaethau Gwybodaeth)