Dr John Edmunds (1929 - 2023)
A’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ar drothwy dathlu ei hanner canmlwyddiant ym mis Medi eleni, trist iawn gennym oedd clywed am farw ei Phennaeth Adran cyntaf, sef John Edmunds, ddechrau fis Mai.
Ganed John yn Llundain ym 1929, ac roedd ei rieni ill dau yn Gymry. Daeth i Aberystwyth yn faciwî yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac fe gafodd ei fagu yn y Borth. Astudiodd yn Ysgol Ramadeg Ardwyn ac aeth ymlaen i ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth fel yr oedd ar y pryd. Yn ei gyfnod yn fyfyriwr yn Aber, roedd yn aelod amlwg o gymdeithas theatr y myfyrwyr, ac ymunodd â’r cwmni theatr proffesiynol lleol a oedd yn cyfarfod bob wythnos dan arweiniad Edna ac Alex Dore.
Ar ôl tair blynedd o Wasanaeth Milwrol yn y Llynges cafodd waith yn dysgu Saesneg yn Ysgol Ramadeg Battersea a Choleg Brighton. Ym 1956 dechreuodd ar yrfa ddisglair yn y cyfryngau darlledu, lle bu’n gyflwynydd cyswllt ac yn ddarllenydd newyddion i ABC, cyw orsaf ranbarthol ITV yng nghanolbarth Lloegr, ac i Associated Rediffusion yn Llundain. Ymunodd wedyn â’r BBC, a chyflwyno ‘Top of the Form’ rhwng 1966 ac 1967 ac yna, ym 1968, daeth yn un o ddarllenwyr newyddion y BBC, gan gydweithio â darlledwyr megis Richard Baker ar BBC1 a BBC2.
Penodwyd John yn Gyfarwydd Drama yn ei hen goleg ym 1973, a daeth yn Bennaeth ar yr Adran Ddrama newydd sbon yn ei chartref yn adeiladau’r Ysgubor yn Heol Alecsandra. Yn y blynyddoedd cynnar hynny, y bwriad oedd cynnig Drama yn bwnc Rhan 1 (blwyddyn gyntaf) yn unig, ond trwy ddyfalbarhad John, a chyda chefnogaeth cydweithwyr, er enghraifft Emily Davies ac Elan Closs Stevens, sefydlwyd cynllun gradd anrhydedd gyfun, ac yna gradd anrhydedd sengl ym 1978.
Bu John yn Bennaeth Adran tan 1985, a bryd hynny symudodd i Ogledd America yn Athro Drama ym Mhrifysgol Universidad de las Américas, Mecsico, a Phrifysgol Califfornia Santa Cruz. Daeth yn ôl i Loegr ym 1987 a pharhau i weithio ym myd y theatr. Cafodd ei gyfieithiadau o weithiau gan y dramodwyr Racine a Molière eu cyhoeddi gan Penguin yn y gyfres ‘World Classics’.
Yn ei 70au a’i 80au, bu John yn cyfarwyddo a pherfformio nifer o’i gyfieithiadau yn theatr ymylol Llundain, Theatr Pentameters, Hampstead, yn enwedig felly ei hoff gymeriad gan Shakespeare, Prospero. Tan tua pedair mlynedd yn ôl roedd yn dal i ysbrydoli oedolion ar gyrsiau dysgu gydol oes, gan gynnal dosbarthiadau wythnosol ar Shakespeare yn Notting Hill, lle roedd yn mwynhau darllen yr holl brif rannau. Y tro olaf i John berfformio yn Aberystwyth oedd gyda chwmni drama’r Wardeniaid ym mis Hydref 2011, yn chwarae Norman Noggs yn The Life and Adventures of Nicholas Nickleby.
Hoffem fynegi ein cydymdeimlad dwysaf â’i deulu a’i gyfeillion.
Yr Athro Jamie Medhurst, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, gyda diolch i Richard Cheshire a Paul R Jackson am ddarparu gwybodaeth am yrfa John.