Dr David Laws (1938-2022)
Bu fawr Dr David Law, cyn Uwch Ddarlithydd a phennaeth yr Adran Economeg, ar 25 Mawrth 2022.
Cafodd David ei eni a'i fagu ym Melfast a'i addysgu yn Ysgol Ramadeg Annadale. Ac yntau’n daflwr pwysau brwd, daeth yn bencampwr Taflu Pwysau Gogledd Iwerddon yn 16 oed. Ar ôl gadael yr ysgol ymunodd ag Irish Textiles, cwmni llieiniau ym Melfast, ac fe'i hanogwyd i ddilyn cwrs gradd rhan-amser gyda'r nos mewn Economeg ym Mhrifysgol y Frenhines. Dim ond yn y flwyddyn olaf y mynychodd Brifysgol Belfast yn llawn-amser.
Ar ôl graddio, cyflogodd Belfast ef yn Ddarlithydd Cynorthwyol mewn Economeg tan 1964. Gyda'i gontract yn dod i ben, gwnaeth David gais am ddarlithyddiaeth mewn Economeg yn Aberystwyth, gan symud ymlaen yn gyflym o fod yn ddarlithydd i fod yn Uwch ddarlithydd. Ar ôl ymddeoliad yr Athro Graham Reece ac wrth aros i bennaeth newydd gael ei benodi, penodwyd David yn bennaeth dros dro ar yr adran Economeg. Swydd a gyflawnodd gyda sgil a dynoliaeth. Ymddeolodd ym 1996 ychydig cyn i Economeg gael ei hamsugno i'r Ysgol Rheolaeth a Busnes newydd - Ysgol Fusnes Aberystwyth bellach. Er ei fod wedi ymddeol parhaodd David i draddodi darlithoedd yn Aberystwyth, Bangor, Morgannwg ac Abertawe.
Yn academaidd roedd gan David un o'r meddyliau mwyaf craff ymhlith tîm Economeg cryf. Cafodd ei yrfa ymchwil ei hysgogi gan ddiddordeb deallusol a datrys problemau. Nid oedd dim yr oedd yn ei hoffi'n fwy na dadl ddeallusol a chwestiynu'r sefyllfa bresennol! Gwnaeth gyfraniadau pwysig i Economeg Ranbarthol a Newid Diwydiannol, Economeg Datblygu ac yn ddiweddar Rhagolygon a Chyllid.
Ym maes Economeg Ranbarthol, roedd ganddo ddiddordeb mewn effaith economaidd newid diwydiannol a pholisi ar yr Alban, Iwerddon a Chymru. Yn benodol, fe'i denwyd at eu heffeithiau ar ddynameg poblogaeth ardaloedd gwledig. Ysgrifennodd yn eang ar y pwnc hwn a chyfrannodd yn sylweddol at ddeall y problemau economaidd mewn ardaloedd ymylol megis Canolbarth Cymru a Slofenia gan gyflwyno papurau ar y pwnc hwn i gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol a gwneud llawer o gyfeillion oes ar hyd y ffordd.
Ym maes Economeg Datblygu, bu'n gweithio'n agos gyda'r diweddar P.N. Mathur hefyd yn Aberystwyth, ysgolhaig blaenllaw ym maes Economeg Mewnbwn-Allbwn. Roedd gan David ddiddordeb mewn defnyddio'r dechneg i olrhain effeithiau polisi ar incwm cyfanredol, allbwn a chyflogaeth, er bod ganddo ran mewn datblygu syniadau a chymhwyso hen gyfalaf i adeiladu a chymhwyso technegau Mewnbwn-Allbwn. Ymddangosodd sawl cyhoeddiad ar y cyd mewn cyfnodolion cenedlaethol a rhyngwladol.
Yn ddiweddarach ac ar ôl iddo ymddeol o Aberystwyth pan fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am fywyd mwy hamddenol, roedd David yn fwy cynhyrchiol nag erioed. Gan weithio'n agos â chyn-gydweithwyr yn Aberystwyth datblygodd ddiddordeb mawr mewn Marchnadoedd Ariannol ac adsefydlu damcaniaeth cyfleustodau Markovitz. Yn dilyn hyn, ysgrifennodd ystod eang o bapurau yn ymdrin â Rhagolygon, Effeithlonrwydd y Farchnad, Masnachu Mewnol a'r hyn y gellid ei alw'n Economeg Gamblo. Unwaith eto, roedd cyfraniad deallusol David yn ganolog i'w llwyddiant a'u hymddangosiad mewn cyfnodolion academaidd blaenllaw.
Roedd addysgu David, fel ei ymchwil, yn ymdrin â maes eang. Dysgodd Economeg Ddiwydiannol, Polisi Economaidd ac Economeg Datblygu i israddedigion ac Economeg Reolaethol i fyfyrwyr MBA. Roedd ei ddarlithoedd yn llawn gwybodaeth, yn ysgogol ac yn ddifyr iawn. Gellid galw ei arddull addysgu yn "unigryw". Fel y dywedodd cyn-fyfyriwr: "roedd yn gwneud i chi feddwl yn ddwfn a darllen yn ehangach am y pwnc". Unwaith eto, roedd gan David fwy o ddiddordeb mewn annog myfyrwyr i gwestiynu'r hyn yr oeddent yn ei ddysgu a pham, a pheidio byth â derbyn y dehongliadau safonol. Roedd yn oruchwylydd PhD cydwybodol iawn ac yn gyfrannwr sylweddol at ddatblygu Ysgol y Graddedigion yn Aberystwyth yn seiliedig ar yr Athro Mathur. Daeth llawer o'i fyfyrwyr PhD yn ffrindiau oes.
Fel cydweithiwr roedd David yn unigolyn haelionus a roddodd o’i amser yn hael. Dywedodd un cyn-gydweithiwr "Roeddech chi’n dysgu llawer wrth weithio gyda David. Roedd yn eich gorfodi i ysgrifennu'n glir, nodi eich rhagdybiaethau a gwirio'ch data'n ofalus. Bob tro y byddech chi’n rhoi drafft o bapur iddo roi ei sylwadau arno, byddai’n ei ddarllen yn ofalus ac roedd ei awgrymiadau'n ei ddyrchafu, ac yn aml yn ei wneud yn fwy diddorol a pherthnasol".
Bydd cyn-gydweithwyr a myfyrwyr yn gweld eisiau ei hiwmor, ei gwmni a'i agwedd gadarnhaol ddiamheuol.
Yr Athro Emeritws Nicholas Perdikis