Douglas Archer (1933-2018)
Graddiodd Douglas Archer gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Sŵoleg yn 1954. Mwynhaodd ei amser yn Aberystwyth, yn astudio, yn chwarae chwaraeon ac yn gwneud ffrindiau gydol oes.
Aeth i Brifysgol Glasgow i wneud doethuriaeth mewn Parasitoleg, ond fel y dywedai’n aml “Chefais i mo’r ddoethuriaeth ond mi lwyddais i ddod o hyd i wraig.” Cyfarfu â’i wraig, Jean Kerr, yn yr eglwys yng Nglasgow, gan briodi ym mis Medi 1958. Ar ôl cyfnod yn gweithio fel gwyddonydd ymchwil yn Glaxo yn Greenford yn Llundain, symudodd Douglas a Jean i orllewin Swydd Efrog pan gafodd ef swydd gydag Athrofa Technoleg Bradford (Prifysgol Bradford yn ddiweddarach) yn 1959.
Roedd Douglas wedi addysgu’r gwyddorau Biofeddygol ac “esgyrn i archeolegwyr” am flynyddoedd. Yn y 1960au, byddai’n mynd â’i fyfyrwyr ar deithiau maes i Aberystwyth a phob amser yn mwynhau’r daith flynyddol yn dringo Cader Idris.
Ymddeolodd o Brifysgol Bradford yn 1991.
Mwynhâi Douglas ganu gyda Keighley Vocal Union, roedd yn Gadeirydd Cymdeithas Pentref Harden, ac yn Llywodraethwr Ysgol Ramadeg Beckfoot. Roedd hefyd yn aelod gweithgar o Eglwys Annibynnol Harden. Roedd yn adaregydd brwd, yn mwynhau cerdded ac anaml iawn y byddai heb ei lens er mwyn archwilio’r cen ar goed a cherrig a phlanhigion eraill. Parhaodd i fwynhau chwarae a gwylio chwaraeon, yn enwedig gwylio rygbi a chriced. Chwaraeodd lacrosse i’r Old Groveians hyd at ganol ei bedwar degau, a bod yn wicedwr i Glwb Criced Harden yng Nghynghrair Gorllewin Bradford hyd at ddechrau ei bum degau.
Bu farw Jean yn 1996. Mae eu merched, Carol a Hazel, wedi eu goroesi.