Denis Grogan
Bu farw Denis Grogan ar 5 Hydref 2024, ddeuddydd cyn ei ben-blwydd yn 94 oed. Bu'n byw yng Nghartref Gofal Dementia Hafan y Waun ers sawl blwyddyn. Mae'n gadael tri mab a merch.
Ganed Denis yn Bolton ac fe’i haddysgwyd yng ngholeg Thornleigh Salesian College yn Bolton ac ym Mhrifysgol Manceinion, lle bu'n astudio Saesneg. Ar ôl gadael y brifysgol ymunodd â Llyfrgelloedd Dinas Manceinion, gan weithio mewn cangen-lyfrgelloedd yn Ne Manceinion i ddechrau, cyn symud i'r Llyfrgell Gyfeirio Ganolog lle y bu’n gweithio am dros ddegawd. Yn y 1960au cynnar fe'i penodwyd yn Llyfrgellydd Tiwtor yng Ngholeg Addysg Bellach Stockport, a oedd newydd gael ei sefydlu. Ym mis Hydref 1964, roedd Denis yn un o'r pedwar penodiad cyntaf i Goleg Llyfrgellyddiaeth Cymru, fel pennaeth yr Adran Astudiaethau Llyfryddol, ac fe symudodd i Aberystwyth ym mis Ionawr 1965. Parhaodd i weithio yn y Coleg drwy gydol y cyfnod o 25 mlynedd pan fu’r sefydliad yn bodoli.
Yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth, cyhoeddodd Denis nifer o werslyfrau llwyddiannus ar agweddau ymarferol gwaith cyfeirio a chwilio am wybodaeth, yn seiliedig ar ei brofiadau ym Manceinion. Cafodd y rhain eu hailargraffu yn y DU a thramor, gan barhau’n weithiau safonol yn eu meysydd hyd at ddyfodiad y We Fyd-Eang. Cyfrannodd erthyglau i gyfnodolion academaidd ar ddatblygiadau ym maes cyhoeddi cyfeirlyfrau a materion addysgol parhaus yn ymwneud â llyfrgellyddiaeth. Ef gychwynnodd y trafodaethau rhwng Coleg Llyfrgellyddiaeth Cymru a Choleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth i sefydlu'r cymhwyster gradd anrhydedd gyfun cyntaf mewn llyfrgellyddiaeth ar y cyd â disgyblaeth arall, a dyfarnu graddau diploma a graddau meistr ôl-raddedig Prifysgol Cymru i fyfyrwyr y Coleg. Yn ogystal â hyn, treuliodd gyfnodau dramor yn India a Korea yn cynorthwyo i ddatblygu addysg llyfrgellyddiaeth yn y gwledydd hynny. Ar adeg uno Coleg Llyfrgellyddiaeth Cymru â Phrifysgol Cymru, Aberystwyth, ym 1989, cymerodd Denis ymddeoliad cynnar, ond, ar gais y Brifysgol, dychwelodd ar gontract dysgu rhan-amser.
Roedd Denis yn athro, yn arholwr ac yn Bennaeth Adran ardderchog a ystyriwyd yn 'gynghorwr doeth' gan ei gydweithwyr gan ei fod bod amser mor wybodus am y rheoliadau. Ei ddawn ddihafal oedd y ffordd y byddai’n cadw trefn ar y Cyfarfodydd Adrannol, cyfarfodydd a allai fod yn dymhestlog o bryd i’w gilydd. Byddai'n cnoi ei dafod yn dawel nes bod pawb wedi cael dweud eu dweud, ac yna byddai’n gwneud rhyw sylw bachog neu graff i ddangos pam fod y cynnig dan sylw naill ai'n werth chweil, wedi cael ei roi ar waith a'i wrthod sawl blwyddyn ynghynt, neu heb gael ei ystyried yn briodol.
Dr D A Stoker
Hydref 2024