Christopher James Nash (1936-2009)
Roedd Christopher James Nash, a fu farw o dyfiant ymosodol ar ei ymennydd ar 9 Hydref 2009, yn fyfyriwr yn Aberystwyth o 1955 tan 1962. Astudiodd Gelf, Saesneg a Ffrangeg, gan ennill gwobr Celf Francis Williams yn 1957 a gradd Anrhydedd II(i) yn Saesneg yn 1959. Cafodd Ddiploma mewn Addysg yn 1960, a rhwng 1960 a 1962 ymchwiliodd i dwf ffuglen ar ffurf rhyddiaith o’i chymharu â drama yn hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif.
Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr bu’n cyfrannu’n rheolaidd i Dragon, ac ef oedd yn olygydd arno yn 1962. Roedd hefyd yn olygydd erthyglau nodwedd yn Courier yn 1960 – 61 ac yn olygydd cynorthwyol yn 1961 – 62. Cyfrannodd amrywiaeth o erthyglau i Courier gan gynnwys adolygiadau o berfformiadau theatr a barddoniaeth, proffiliau o aelodau o’r staff ac erthyglau gwleidyddol. Cynhyrchodd Serjeant Musgrave’s Dance i ŵyl ddrama Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn 1961.
Fe’i ganed yn Brentford, Middlesex, ac fe symudodd Chris o gwmpas y wlad gryn dipyn gyda’i rieni, gan dreulio rhan o’i blentyndod yng Ngheredigion. Treuliodd ei fywyd gwaith yn dysgu Saesneg, i blant ac oedolion. Dros y blynyddoedd cyhoeddodd farddoniaeth a llawer o erthyglau ar feirniadaeth lenyddol, yn ogystal ag ysgrifennu dau lyfr, Rhythm and Metre, arweiniad i athrawon, yn 1985, a Macduff’s Hat and Other Shakespeare Enigmas yn 2007.
Bu cariad Chris tuag at ddrama yn parhau ar ôl ei gyfnod yn y brifysgol, ac yn ystod y 1960au hwyr a’r 1970au cynnar fe fu’n aelod o Glwb Theatr Stourport-on-Severn ac fe gynhyrchodd sawl drama iddynt a berfformiwyd yn Theatr Canolfan Ddinesig Stourport gan gynnwys cynhyrchiad llwyddiannus iawn o Hamlet. Yn ystod ei yrfa fel athro fe gynhyrchodd a chyfarwyddo sawl drama ysgol. Roedd ganddo’r gallu i ennyn perfformiadau eithriadol gan ei ddisgyblon; roedd ei gynyrchiadau o The Snow Queen, Tom Jones a Fiddler on the Roof yn llwyddiannau mawr i Chris ac yn brofiadau bythgofiadwy i’r cyfranogwyr a’r cynulleidfaoedd fel ei gilydd.
Roedd medrau Chris yn estyn i faes trin pren hefyd. Roedd e’n saer dawnus a gwnaeth deganau i’w blant a chelfi i’r aelwyd. Ysgrifennodd erthyglau a gafodd eu cyhoeddi am weithio â phren. Yn y blynyddoedd diweddar fe fu’n creu printiau torluniau pren cain, a’u gwerthu. Ymddiddorai Chris mewn ffilmiau: Martin Scorsese oedd ei hoff gyfarwyddwr a Robert de Niro ei hoff actor. Bu hefyd yn mwynhau bod allan yn yr awyr iach, yn gerddwr a beiciwr brwd, ac am dro, wrth ei fodd yn hwylfyrddio.
Iaith ac ystyr geiriau oedd rhan o hanfod Chris. Roedd ganddo gof aruthrol, yn enwedig ei ystor o gerddi, a gadwodd hyd y diwedd. Yn ystod ei ddyddiau yn y brifysgol roedd yn mwynhau Eingl-Sacsoneg, pwnc a drechodd lawer o’i gyfoedion llai gwydn, ac fe allai adrodd linellau lu o Beowulf a cherddi eraill. Yn ddiweddarach fe luniai’r straeon mwyaf rhyfeddol i’w blant ac, yn ddiweddarach eto, ei wyrion. Byddai hefyd yn mwynhau chwarae ar eiriau ac, â’i ffraethineb parod, fe fyddai’n creu limrigau ar amrantiad. Yn wir, ar y diwrnod ym mis Gorffennaf pan aeth i’r ysbyty oherwydd y salwch a fyddai’n ei ladd, roedd e’n mwynhau llunio limrigau â’i wyrion.
Roedd Chris yn siaradwr da ac ymhyfrydai mewn trafodaethau deallusol. Mwynhaodd lawer ymryson geiriol â Patrick Hannan yn ystod eu hamser yn y brifysgol ac mae’n gyd-ddigwyddiad trasig bod y ddau hen wrthwynebwr hyn wedi marw o fewn diwrnod o’i gilydd.
Yn dad a thad-cu cariadus, mae Chris yn gadael ar ei ôl Gareth a Cathy, sef ei blant o’i briodas gyntaf â Jenni a gyfarfu pan oeddynt yn astudio yn Aber; Richard a Rebekah, ei blant o’i ail briodas, â Sue; a’i wyrion Dan ac Alex a’i wyresau Jessica ac Aaliyah.
Ychydig cyn iddo farw, adroddodd Chris y gerdd isod wrth ei ferch, Cathy, ac awgrymodd y dylai fod yn feddargraff iddo. Ymddengys felly yn addas ei chynnwys yma:
Fire and Ice gan Robert Frost
Some say the world will end in fire,
Some say in ice.
From what I've tasted of desire
I hold with those who favour fire.
But if it had to perish twice,
I think I know enough of hate
To say that, for destruction, ice
Is also great
And would suffice.
Jenni Hyatt