Yr Athro Björn Weiler

Gyda thristwch mawr mae'r Brifysgol yn nodi marwolaeth yr Athro Björn Weiler, aelod o'r Adran Hanes a Hanes Cymru, a hanesydd uchel ei barch a thalentog ym maes Ewrop yr oesoedd canol.

Ganed Björn yn Schweinfurt, Bafaria ym 1969, a bu'n astudio fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Rydd Gorllewin Berlin cyn ennill gradd Meistr a PhD ym Mhrifysgol St Andrews ar gynllun cyfnewid Erasmus. Yn dilyn cyfnodau byr yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Durham, penodwyd Björn yn Ddarlithydd yn Aberystwyth yn 2001, yn fuan wedi hynny fe’i dyrchafwyd yn Uwch Ddarlithydd yn 2006 a dyfarnwyd cadair bersonol iddo yn 2012.

Roedd ymchwil Björn yn canolbwyntio ar destunau naratif Lladin canoloesol o bob rhan o Ewrop, ac roedd yn cael ei gydnabod fel arbenigwr arnynt. Gan ddechrau ei ymchwil fel myfyriwr uwchraddedig ar Harri III a'i berthynas â llywodraethwyr Ewrop yn y drydedd ganrif ar ddeg, a oedd yn ymchwiliad gwleidyddol mwy traddodiadol, cyfeiriodd Björn ei sylw fwyfwy at ysgrifennu croniclau. Yn y lle cyntaf, roedd hyn yn cynnwys trafodaeth fanwl a gwaith darllen manwl ar waith y croniclydd Saesneg o'r drydedd ganrif ar ddeg, Matthew Paris, gwaith a arweiniodd at nifer o gyhoeddiadau arloesol mewn cyfnodolion hanes blaenllaw. Arweiniodd ei waith ar ffynonellau Saesneg at ffynonellau naratif cyfandirol, a datblygodd ddealltwriaeth helaeth o ysgrifennu gwleidyddol canoloesol. Fframiwyd y gwaith hwn yn nhermau diwylliant gwleidyddol a chynhyrchodd gyhoeddiadau allweddol hefyd, gan gynnwys casgliad o draethodau yn deillio o gynhadledd yr Academi Brydeinig ar ddiwylliant hanesyddol ac ysgrifennu hanesyddol.

Trwy gydol ei yrfa doreithiog, datblygodd Björn ddiddordeb mewn brenhiniaeth ganoloesol, o ran y cwestiynau ymarferol ynghylch sut y’i sefydlwyd a sut y’i cynhaliwyd, ond hefyd mewn perthynas â symbolaeth wleidyddol pŵer brenhinol yn yr Oesoedd Canol. O'r herwydd, roedd Björn yn eiriolwr o blaid ymchwilio hanesyddol i symbolaeth wleidyddol, dull sy’n cael ei ffafrio fwyaf ymhlith academyddion Almaeneg sy’n gweithio yn yr Almaen; roedd yn allweddol wrth gyflwyno’r math hwn o feddwl yn amgylchedd ymchwil Prydain, ac roedd yn ei ddefnyddio gyda brwdfrydedd. Deilliant pwysig oedd monograff Björn a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caergrawnt, sef Paths to Kingship, sy’n ymchwiliad pwysig i bŵer yn yr oesoedd canol uwch a'r modd y’i sefydlwyd. Yn y gwaith hwn, yn yr un modd â chymaint o’i weithiau eraill, dangosodd Björn ei fod nid yn unig yn frwd dros ymchwil gymharol a phan-Ewropeaidd i bynciau mawr yn hanes yr oesoedd canol, ond hefyd yn hanesydd medrus gyda dealltwriaeth ragorol. Fel yr ysgrifennodd un cydweithiwr yn y dyddiau diwethaf, roedd Björn yn ‘hanesydd gwirioneddol wych’, a mae ei waith cyhoeddedig yn dyst i hynny. 

Roedd Björn yn uchel ei barch yn y ddisgyblaeth, a chydnabuwyd hynny trwy ddyfarnu cymrodoriaethau iddo mewn sefydliadau eraill, gan gynnwys yng Nghanolfan Ymchwil y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caergrawnt, Canolfan Astudiaethau’r Canol Oesoedd yn Bergen, Sefydliad Radcliffe ar gyfer Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Harvard, a Sefydliad Freiburg ar gyfer Astudiaethau Uwch. Mae'r parch hwnnw hefyd i’w weld mewn gweithdy a gynhelir i’w anrhydeddu ym Mhrifysgol Bonn ym mis Ionawr a dwy gyfrol sy’n cael eu paratoi fel teyrnged i'w fywyd a'i waith.

Roedd Björn yn uchel ei barch ar draws y gymuned o haneswyr y canol oesoedd, ac hefyd yn boblogaidd ac yn cael ei edmygu'n fawr gan gydweithwyr ar draws y Brifysgol a chan ei fyfyrwyr. Yn eu teyrngedau personol iddo, mae llawer wedi nodi’r modd yr oedd yn gofalu am les eraill a'i synnwyr digrifwch gwych. Cyfeiriodd un cyn-fyfyriwr at 'yr e-byst rheolaidd a oedd yn cynnwys dolen at gân ynghyd â rysáit yr oedd wedi rhoi cynnig arni yn ddiweddar.’ O Debussy, Satie a Bach i Rammstein a cherddoriaeth ddisgo gawslyd - roedd cân ar gyfer pob achlysur.'

Bydd Björn yn golled fawr i bawb a oedd yn ei adnabod, ac mae'r adran a'r Brifysgol wedi colli cydweithiwr dawnus a chyfaill annwyl.

Diolch i gydweithwyr Björn am baratoi'r deyrnged hon. 

Dr Steve Thompson, Pennaeth yr Adran Hanes a Hanes Cymru