Benjamin Lewis Davies (1943-2023)
Dechreuodd Ben weithio fel Prif Borthor Coleg Llyfrgellwyr Cymru yn Llanbadarn ym mis Rhagfyr 1972, toc wedi i mi gael fy mhenodi'n Gynorthwyydd Ymchwil yn y coleg. Roedd Coleg y Llyfrgellwyr wedi tyfu'n gyflym ers iddo gael ei agor yn 1964, ac erbyn 1972 roedd yn un o ysgolion llyfrgellyddiaeth mwyaf Ewrop, gyda 38 o staff dysgu academaidd llawn-amser a thua 400 o fyfyrwyr.
Datblygwyd campws y coleg yn uwch i fyny’r rhiw na chartref gwreiddiol y coleg ym mhlasty Bronpadarn, gyda'r llyfrgell, bloc cymdeithasol, cyfleusterau dysgu a neuaddau preswyl. Roedd yn rhannu’r campws â choleg technegol arall oedd yn arbenigo mewn un pwnc, sef Coleg Amaethyddol Cymru. Symudodd Ben, ei wraig a'i ddwy ferch ifanc i fyw mewn fflat ym mloc academaidd y coleg, a buont yn byw yno am flynyddoedd lawer. Rwy'n cofio’r arogl anhygoel wrth iddynt goginio eu swper a minnau’n gadael y swyddfa i fynd adref ar derfyn dydd.
Mae’r cyn-Ddirprwy Is-Ganghellor John Harries yn ei gofio o’i ddyddiau yn Warden Neuaddau Coleg Amaethyddol Cymru (WAC) yn Llanbadarn yn y saithdegau: "Byddai Ben yn aml yn galw heibio fy fflat ben bore i roi gwybod am gampau myfyrwyr WAC y noson cynt. Er y gallai ddisgrifio’r camymddwyn yn fanwl, byddai’n llai parod i ddatgelu enwau’r rhai oedd yn gyfrifol. Wrth i mi ddod i adnabod Ben yn well dros y blynyddoedd wedi hynny, cafodd fy argraff gyntaf ohono fel dyn caredig a meddylgar ei chadarnhau - ni fyddai arno wedi bod eisiau achosi helynt i’r myfyrwyr hynny fu’n camymddwyn."
Roedd campws Llanbadarn yn un teulu mawr ac roedd Ben yn gofalu am yr holl staff a myfyrwyr.
Pan ddaeth Coleg Llyfrgellwyr Cymru a Choleg Amaethyddol Cymru yn rhan o'r Brifysgol, newidiodd swydd Ben a daeth yn Brif Swyddog Diogelwch ar Gampws Llanbadarn yn 1990. Yn 1995 daeth yn Rheolwr Cynorthwyol ar Neuaddau Llanbadarn ac yna, yn 2000, daeth yn Rheolwr Nos ar gyfer Gwasanaethau Preswyl a Chroeso’r Brifysgol. Bu’n cyflawni’r swydd honno hyd ei ymddeoliad yn 2009.
Roedd y gymuned yn bwysig iawn i Ben. Bu'n Gynghorydd yn Llanbadarn am dros 40 mlynedd, yn Gadeirydd Canolfan Cyngor ar Bopeth Aberystwyth, yn Gadeirydd Mentro Lluest, yn Llywodraethwr Ysgol a llawer mwy, yn ogystal â chael ei ethol yn Stiward Undeb UNSAIN yn y Brifysgol yn 2005. Ysgrifennai golofn reolaidd ar fywyd cefn gwlad i bapur bro Yr Angor, gan gyfeirio'n ôl yn aml at ei fagwraeth ar fferm yn Nhalsarn. Yn 2019, ef a chwaraeodd ran Prifathro’r Brifysgol adeg ffilmio pennod o gyfres The Crown Netflix, am y cyfnod pan fu’r Brenin Siarl yn fyfyriwr yma yn 1969.
Roedd Ben wrth ei fodd yn gofalu am y myfyrwyr, yn enwedig yr holl fyfyrwyr tramor a ddeuai i Lanbadarn bob blwyddyn i'r Ysgolion Haf i Raddedigion Rhyngwladol, ond dyn teulu ydoedd yn anad dim. Roedd yn fawr ei ofal o’i ferched, Sarah ac Ann Marie, a'i wyrion, Tom ac Owen, ac yn dra chefnogol iddynt. Bu Ben farw yn sydyn yn ei gartref yn Llanbadarn ym mis Mawrth 2023 a chafodd ei wasanaeth angladd ei gynnal yn Eglwys Llanbadarn ddydd Sadwrn 25 Mawrth, a’r lle dan ei sang. Roedd y canu’n werth ei glywed, yn enwedig pan ganodd Tom yr unawd ‘Myfanwy’. Fel y dywedwyd yn y deyrnged bryd hynny, gallai Ben siarad ag unrhyw un am unrhyw beth. Bydd colled fawr ar ei ôl.
Lucy Tedd, Darlithydd Emeritws, yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth