Andrew Linklater (1949-2023)
Bu farw Andrew Linklater, 10fed deiliad Cadair hanesyddol Woodrow Wilson mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn Ysbyty Bronglais ar y 5ed o Fawrth 2023. Yn 2017 cafodd wybod ei fod yn dioddef o Ffibrosis Idiopathig yr Ysgyfaint– afiechyd di-arbed a oddefodd yn ddewr. Roedd yr Athro Linklater yn ddamcaniaethwr byd enwog ym maes cysylltiadau rhyngwladol.
Ganed Andrew ar 3ydd o Awst 1949 yn Aberdeen. Aeth i’r brifysgol leol i astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, a dyfarnwyd MA iddo yn 1971. Symudodd wedyn i Goleg Balliol, Rhydychen, lle enillodd BPhil yn 1973. Yn 1978 cwblhaodd ddoethuriaeth yn yr LSE – wedi iddo ef a’i wraig adael y Deyrnas Unedig yn 1976 er mwyn i Andrew ddechrau mewn swydd yn Hobart, Tasmania. Buont yno tan 1981 pan symudodd y ddau i Melbourne ac yntau wedi cael cynnig swydd ym Mhrifysgol Monash. Ym 1993 daethant yn ôl i’r Deyrnas Unedig a daeth Andrew yn Athro Cysylltiadau Cyhoeddus ym Mhrifysgol Keele. Ym 1999 fe’i penodwyd i Gadair Woodrow Wilson. Symudai diwylliant ymchwil bywiog Adran ‘InterPol’ Aber – yr uwchraddedigion a’r staff – i’r un cyfeiriad ag ymrwymiad Andrew ei hun i fynd i’r afael â phroblemau mwyaf cymdeithas ddynol ar lwyfan cythryblus gwleidyddiaeth fyd-eang. Aeth ymlaen i dreulio bron i hanner ei yrfa academaidd yn yr Adran. Yn 2005 cydnabuwyd ei gyfraniad rhyngwladol pan etholwyd ef i Gymrodoriaeth yr Academi Brydeinig (FBA).
Y gyfrol gyntaf i’r Athro Linklater ei chyhoeddi ag yntau’n unig awdur arni oedd Men and Citizens in the Theory of International Relations (1982). Ystyrir y gwaith hwn, a seiliwyd ar ei ddoethuriaeth, yn allweddol yn y ‘tro beirniadol’ yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol. Rhoddai sylfaen wrth i bwyslais traddodiadol y ddisgyblaeth ar wleidyddiaeth grym rhyng-daleithiol symud tuag at astudiaeth o ddatblygiad cymunedau gwleidyddol. Yn benodol, edrychodd ar y tensiwn rhwng goblygiadau tuag at gyd-aelodau cymuned a goblygiadau ‘cosmopolitan’ tuag at ddynoliaeth yn ei chyfanrwydd. Roedd y llyfr yn cynnwys synthesis arloesol o ddamcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol gyda syniadau cewri athroniaeth, theori wleidyddol a chymdeithaseg megis Immanuel Kant, Karl Marx, Friedrich Hegel, a Jürgen Habermas. Parhaodd y pos a ganfuwyd yn Men and Citizens i fod wrth wraidd ymchwil Andrew trwy gydol ei oes.
Daeth dau ddarn o waith nodedig wedyn: Beyond Realism and Marxism: Critical Theory and International Relations (1990), a The Transformation of Political Community: Ethical Foundations of the Post-Westphalian Era (1998). Roedd yr olaf yn amlinellu ‘damcaniaeth ryngwladol feirniadol’ a arweiniodd y ffordd ar gyfer dealltwriaeth o’r ffordd y gellid trawsnewid taleithiau modern yn ffurfiau mwy cynhwysol o gymuned wleidyddol. Sefydlodd yr agenda ar gyfer nifer o astudiaethau o’r dimensiwn a’r potensial cosmopolitan yng ngwleidyddiaeth y byd.
Yn ystod ei amser yn Aberystwyth, bu ‘tro cymdeithasegol’ yn ymchwil Andrew, a dylanwadwyd yn drwm arno gan Gymdeithaseg Broses ac, yn benodol, gan waith Nobert Elias (1897-1990). Dwysaodd ei bryderon damcaniaethol am y cysylltiadau rhwng y rhai o fewn a’r rhai y tu allan i gymunedau gwleidyddol, a hynny’n nodedig trwy astudiaeth o ‘gonfensiynau niwed’. Roedd yn ymddiddori’n arbennig mewn archwilio tarddiad posib yr hyn a alwai’n ‘gonfensiynau niwed cosmopolitan’, sef y rhai oedd yn amddiffyn bodau dynol rhag mathau penodol o niwed, waeth beth fo’u cenedligrwydd, hil, dosbarth na’u rhyw. Trwy ymwneud â gwaith Elias ar ‘brosesau gwareiddio’ yn arbennig, datblygodd Andrew agwedd gymdeithasol arloesol at yr astudiaeth o swyddogaeth confensiynau niwed mewn gwleidyddiaeth ryngwladol o safbwynt hanesyddol tymor hir. Arweiniodd yr ymchwil hwn at: The Problem of Harm in World Politics: Theoretical Investigations (2011), Violence and Civilization in the Western States-Systems (2016), a The Idea of Civilization and the Making of the Global Order (2020).
Yn ei ddyddiau olaf roedd Andrew yn gweithio ar lyfr ar ‘symbolau’, cyfrol roedd yn ei hystyried fyddai’r olaf yn ei gyfres o weithiau ar gymdeithaseg broses. Ar draws y panorama mwyaf eang, roedd yn edrych ar y potensial ar gyfer datblygu symbolau cosmopolitan i hyrwyddo uniaethu â’r rhywogaeth ddynol yn ei chyfanrwydd, a thu hwnt i hynny, sef rhywogaethau nad ydynt yn fodau dynol ac ecosystemau. Mae adrannau olaf y llyfr yn trafod ymddangosiad symbolau sy’n gysylltiedig â’r argyfwng ecolegol byd-eang cyfoes, a’r potensial ar gyfer cynnydd radical i ffiniau uniaethu emosiynol a moesol dynol. Bydd y llyfr yn cael ei orffen gan un o’i gyn-fyfyrwyr PhD, André Saramago.
Y tu hwnt i’r llyfrau a ysgrifennodd ei hun, cynhyrchodd Andrew gasgliad o erthyglau a chyhoeddiadau eraill dylanwadol. Dylid cyfeirio’n arbennig at The English School of International Relations: A Contemporary Reassessment (2006), a ysgrifennodd ar y cyd â Hidemi Suganami, a Theories of International Relations (1996), ar y cyd â Scott Burchill.
Mae ei gyn-fyfyrwyr yn cofio Andrew fel athro cwbl ysbrydoledig. Roedd nid yn unig yn ddoeth ond roedd yn edrych yn ddoeth hefyd. Dros y degawdau, gyda’i wallt llwyd eithaf hir, ei acen Aberdonaidd fwyn a’i hiwmor hyfryd, denodd ei wrandawyr i rannu ei fyfyrdodau ar y byd. Credai’r myfyrwyr PhD a fu’n ddigon ffodus i’w gael yn arolygwr eu bod wedi ennill gwobr academaidd gywerth â jacpot y loteri.
Fel cydweithiwr roedd Andrew yn hynaws, yn gydweithredol ac yn gynghorwr y gellid ymddiried ynddo. Byddai’r aelodau ieuengach o’r staff yn aml yn ei ddisgrifio fel ‘mentor’ yn hytrach na dim ond ‘cydweithiwr’, ac mae’r gair ‘sgwrs’ wedi codi’n aml gan y rhai sydd wedi bod yn cofio Andrew dros y dyddiau diwethaf. Boed y sgwrs yn un hir neu’n un fer, mae cyfeillion wedi bod yn cofio parodrwydd Andrew i gysylltu. Roedd ehangder ei frwdfrydedd yn anferth: ceffylau (bridio ceffylau o waed pur, rasio, peintiadau), crochenwaith (yn enwedig Josiah Wedgwood), celf (peintiadau Pobloedd Brodorol Awstralia yn enwedig), cerddoriaeth (jas a gitâr glasurol), snwcer a phêl-droed, hen geir o safon, a wisgi brag o safon uwch. Bu wrth ei fodd â byd natur ar hyd ei oes, ac mae’n bur debyg mai hyn arweiniodd at ei safle fel un o’r cyntaf yn y ddisgyblaeth i bwysleisio’r angen i arbenigwyr ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol fynd i’r afael â materion amgylcheddol byd-eang.
Mae enw Andrew fel cawr ymhlith ysgolheigion Cysylltiadau Rhyngwladol yn ddiogel, diolch i’w waith ysgrifenedig toreithiog, panoramig a dwys. Ond i’r rhai a gafodd y pleser a’r anrhydedd o adnabod ‘Andy’ yn bersonol, dim ond rhan o’i stori y mae ei lyfrau a’i erthyglau yn ei hadrodd.
Ken Booth, Martin Alexander, André Saramago
Credyd llun Dr Jenny Matters