Andrew Agnew: Teyrnged
Bu farw Andrew David Quentin Agnew (1929-2024), a fu’n dysgu botaneg yn Aberystwyth rhwng 1969 a 1996, yn ei gartref yn Eglwys-fach ar 27 Mai. Ganed ef yn Allahabad (Prayagraj bellach) yn India, lle’r oedd ei dad yn Gyrnol ym Myddin India, ac roedd yn ddisgynnydd i'r teulu Agnew o Gastell Locknaw, Galloway. Addysgwyd Andrew yng Ngholeg y Drindod, Glenalmond, ac yn ddiweddarach graddiodd gyda BCs mewn Botaneg o Brifysgol Caeredin.
Wedi hynny, cwblhaodd ei Ddoethuriaeth ar ecoleg y frwynen babwyr (Juncus effusus) ym Mangor, dan arolygiaeth Paul Richards, a dyma lle y cyfarfu a phriododd â chyd-fyfyriwr, sef Shirley Smithson, a oedd yn fryolegydd medrus. Yn fuan ar ôl i'r ddau raddio gyda Doethuriaeth, cynhaliwyd eu parti priodas ym mis Awst 1957 yn Nhwnnel Rheilffordd Aberglaslyn, arwydd cynnar o ecsentrigrwydd annwyl Andrew.
Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, penodwyd Andrew i swydd a ariannwyd gan y Cyngor Prydeinig yn yr Adran Fotaneg ym Mhrifysgol Baghdad, lle bu'n dysgu botaneg ac yn astudio ecoleg coedwigoedd derw Mynydd Gara yng ngogledd Irac, gan ddisgrifio rhywogaeth newydd o Belargoniwm (Pelargonium quercetorum) o'r cynefin hwn. Parhaodd Shirley hefyd â'i hymchwil bryolegol, gan gyhoeddi yn ddiweddarach a moss flora of Iraq a hefyd disgrifio rhywogaethau newydd o Grimmia. Roedd gwaith maes yn y Dwyrain Canol yn beryglus, fel y tystir gan y cofnod yn ei ddyddiadur ar 2 Mai 1962, ar ôl 'crwydro' dros y ffin i Iran: “Got shot up at Mandali and temporarily locked up by Iranians on disputed border. Good botany!”
Fe wnaethant barhau i weithio yn Baghdad yn dilyn genedigaeth eu mab cyntaf David ym 1960, ond bu’n rhaid i’r teulu adael yn sydyn yn dilyn y Chwyldro Ramadan ym 1963 a dyfodiad y gyfundrefn Ba'athaidd i rym. Yna, penodwyd Andrew i swydd darlithydd ym Mhrifysgol Nairobi. Caniataodd hyn iddo barhau â'i ymchwil ar gymunedau planhigion mynyddig, gan arwain yn y pen draw at ei gyhoeddiad mwyaf adnabyddus, Upland Kenya Wild Flowers. Cyhoeddwyd tri argraffiad o’r llyfr hwn (1974, 1994, 2013). Mae mwy na 3000 o rywogaethau planhigion wedi'u cofnodi, ac mae'n parhau i fod yn destun safonol.
Ganwyd dau fab arall, Peter a Robin, tra roeddent yn dal i weithio yn Kenya, ac yn ffodus iawn i Brifysgol Aberystwyth, daeth y teulu yn ffrindiau agos gydag Ellis a Ruth Griffiths. Roedd Ellis ar y pryd ar gyfnod sabothol o'r adran Botaneg Amaethyddol yn Aberystwyth i astudio clefyd aeron coffi. Ym 1969, rhoddodd Ellis a Ruth wybod i Andrew am ddarlithyddiaeth Botaneg yn Aberystwyth, a chafodd ei benodi i’r swydd honno yn ddiweddarach y flwyddyn honno.
Pan oedd yn Aberystwyth, parhaodd Andrew i gyhoeddi papurau ysgolheigaidd ar ecoleg systemau llystyfiant amrywiol, gan gynnwys twyni tywod, gwernydd, corsydd, ffeniau, coedwig, ucheldir a chynefinoedd cras Prydain, Kenya a Seland Newydd. Roedd yn arbrofwr hynod wreiddiol ac arloesol, ac o’r 1970au astudiodd effeithiau bodau dynol ar gynefinoedd naturiol ymhell cyn i hwn ddod yn bwnc llosg. Er enghraifft, ymchwiliodd i effaith lygrol baw cŵn mewn parciau trefol, effaith sathru ar Gors Fochno (gyda Fred Slater) ac ar dwyni tywod Ynyslas. Cychwynnodd hefyd brosiect ar ddiet ac ymddygiad Gŵydd dalcenwen yr Ynys Las trwy ei fyfyriwr PhD Tony Fox; mae'r un ymchwil yn parhau yn Adran y Gwyddorau Bywyd hyd heddiw trwy Peter Dennis a'i gydweithwyr, ac mae Tony (sydd bellach yn Åarhus, Denmarc) yn dal i ymwneud â'r ymchwil hwn.
Roedd Andrew yn ddarlithydd ysbrydoledig i genedlaethau o israddedigion; roedd yn gwerthfawrogi’n arbennig pwysigrwydd gwaith maes a chyrsiau maes i gyfleu cysyniadau ecoleg cymunedau planhigion. Ar ddechrau’r 1970au dechreuodd gyrsiau maes i gynefinoedd carstig y Burren yng ngorllewin Iwerddon ac i'r Picos de Europa yng ngogledd Sbaen. Roedd y daith i Sbaen yn enwog am iddi gynnwys taith hir ar fferi, gwersylla a diet cyson o muesli (i leihau costau). Parhaodd y ddau gwrs ymhell ar ôl iddo ymddeol, ac i lawer o'r cannoedd o fyfyrwyr a astudiodd yn Aberystwyth, cael mynd ar gwrs maes "Agnew" oedd uchafbwynt y radd gyfan.
Roedd Andrew yn allweddol wrth sefydlu cynllun gradd Gwyddor yr Amgylchedd, a addysgir ar y cyd â’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, sy'n parhau hyd heddiw ac sy'n cynnal cysylltiadau cryf rhwng Adran y Gwyddorau Bywyd a’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
Ymddeolodd Andrew fel Uwch Ddarlithydd ym 1996, a chaniataodd hynny iddo neilltuo mwy o amser i ofalu am Shirley wrth i’w hiechyd ddirywio. Fodd bynnag, parhaodd i weithio fel Curadur yn Herbariwm Aberystwyth <ABS>, a goruchwyliodd y gwaith o gatalogio a digideiddio sbesimenau. Cymerodd ran hefyd yn y cyrsiau maes yn y Burren yn 2004/5, lle cafodd y myfyrwyr eu cyfareddu nid yn unig gan ei wybodaeth am gynefinoedd y Burren o 30 mlynedd ynghynt, ond hefyd ei sgiliau pêl-droed a’i ganu.
Parhaodd hefyd â'i rôl fel aelod blaenllaw o Grŵp Lleol Ceredigion o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin a De Cymru, gan wasanaethu fel cadeirydd am flynyddoedd lawer. Mae ei ecsentrigrwydd a’i synnwyr digrifwch unigryw yn amlwg yn yr hyn a ddywedodd yn un o gyfarfodydd yr Ymddiriedolaeth pan gyhoeddodd ei ymddeoliad fel cadeirydd: "Ro'n i'n mynd yn fyddar, a doeddwn i ddim yn gallu clywed beth oedd aelodau'r pwyllgor yn ei ddweud bellach, felly ges i gymorth clyw ac yna sylweddolais fod yr hyn yr oedden nhw'n ei ddweud yn nonsens, felly penderfynais ei bod hi'n bryd ymddeol."
Roedd ymddeol hefyd yn caniatáu iddo ysgrifennu ei magnum opus, ‘The Nature of Plant Communities’, gyda'i gydweithiwr ers blynyddoedd maith, Bastow Wilson, a oedd hefyd yn gyn-fyfyriwr o Aberystwyth. Yn dilyn ei farwolaeth yn 2015, camodd Stephen Roxburgh, un o gyn-fyfyrwyr PhD Bastow, i’r adwy i sicrhau bod y llyfr yn cael ei gyhoeddi o'r diwedd yn 2019, ychydig cyn pen-blwydd Andrew yn 90 oed.
Er gwaethaf ei dorcalon pan fu farw Shirley yn 2002, parhaodd Andrew yn weithgar iawn yn feddyliol ac yn gorfforol yn ei nawdegau. Cafodd ei flynyddoedd olaf eu cyfoethogi'n aruthrol trwy ei briodas â Janie yn 2007. Cyfarfu'r ddau trwy ddiddordeb cyffredin mewn dawnsio gwlad yr Alban. Roedden nhw'n annog ymwelwyr i'w cartref newydd yn Eglwys-fach, a oedd mewn lleoliad cyfleus ar gyfer teithiau cerdded ar hyd y lonydd cyfagos ac wrth ymyl safle bws y byddent yn ei ddefnyddio'n aml ar gyfer teithiau i'r dref.
Bu farw Andrew yn 94 oed yn Eglwys-fach. Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Sant Mihangel, Eglwys-fach ar 12 Mehefin. Daeth nifer fawr iawn i’r gwasanaeth ac yna i’r Ystafell Haearn gerllaw lle cafodd ei gyn-fyfyrwyr, ei deulu estynedig, a’i gyfeillion lu gyfle i hel atgofion am ei bersonoliaeth gofiadwy, a’i yrfa amrywiol a dylanwadol.
Mae dwy deyrnged arall i Andrew hefyd wedi’u cyhoeddi, un ar gyfer Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru ac un gan grŵp o gyn-fyfyrwyr a chydweithwyr ar gyfer Cymdeithas Ecolegol Prydain.
Gareth Griffith, Henry Lamb ac Ian Scott (Adran y Gwyddorau Bywyd/yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear), gyda chymorth caredig gan David Agnew, Ruth Griffiths, John Hedger, Sue Fowler a Lizzie Wilberforce.