Y Brifysgol a’r Coleg Cymraeg
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ryn ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.
Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog.
Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn ffynnu wrth i’r Brifysgol fuddsoddi’n fewnol ynddi, a manteisio i’r eithaf ar y cynlluniau cenedlaethol a gyllidir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynyddu’r cyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy’r Gymraeg.
Mae gan y Coleg ganghennau ymhob un o brifysgolion Cymru lle cynigir darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, lleolir y Gangen o dan adain Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg. Mae croeso i staff a myfyrwyr y Brifysgol ymuno â’r Gangen er mwyn dod yn aelodau o gymuned y Coleg a chymdeithas Gymraeg fywiog Aberystwyth. Drwy ddod yn aelodau cewch wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i astudio drwy’r Gymraeg ac yn ddwyieithog drwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth, ac mae aelodau’r Gangen yn barod i’ch cynorthwyo gydag unrhyw agwedd o’r ddarpariaeth Gymraeg.