Gwahoddiad arbennig i fyfyrwyr newydd
Gwahoddiad arbennig i fyfyrwyr newydd
03 Medi 2013
Bydd Penwythnos y Glas a’r Wythnos Groeso yn brysur tu hwnt! Er mwyn eich helpu chi i oroesi, mae Cangen y Brifysgol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal derbyniad arbennig i’ch croesawu. Bydd yn gyfle gwych i chi gwrdd â ffrindiau newydd a chael sgwrs anffurfiol â rhai o’r darlithwyr a fydd yn eich dysgu yn ystod y flwyddyn. Bydd llwyth o wybodaeth ar gael am astudio drwy’r Gymraeg, ymaelodi â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gweithio a chymdeithasu drwy’r Gymraeg yn Aber a llawer mwy.
Pryd? Dydd Sul, 22 Medi 2013
Amser 2.30pm
Ble? Neuadd Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Campws Penglais
Bydd Llywydd a Phwyllgor Gwaith UMCA yn hebrwng myfyrwyr o Neuadd Pantycelyn, ond os fyddwch chi’n dod o gyfeiriad arall fe ddowch o hyd i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng nghanol y campws gyferbyn â’r grisiau sy’n arwain at Ganolfan y Celfyddydau. Mae digon o arwyddion ar gael neu gofynnwch am gyfarwyddiadau.
Croeso cynnes i ddysgwyr hefyd.
Edrychwn ymlaen yn fawr at eich croesawu.
Dewch yn llu!
Os hoffech gysylltu o flaen llaw anfonwch e-bost at mlj@aber.ac.uk