Amdanom ni
Croeso i Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.
Fel un o’r adrannau celf uchaf ei safle yn y DU, ein nod yw eich cyflwyno i’r ysgolheictod orau ym myd y celfyddydau, eich cynorthwyo i gyflawni eich potensial dysgu ac i ennill gwybodaeth, hyder a sgiliau ar gyfer sefydlu gyrfa yn y farchnad sydd ohoni.
Yma yn yr Ysgol Gelf, nid sefydliad academaidd yn unig mohonom ond cymuned fawr eu gofal o staff a myfyrwyr o wahanol gefndiroedd a chenhedloedd. O gofio’r amrywiaeth hynny, rydym yn cynnig nifer o gyrsiau mewn Celfyddyd Gain, Ffotograffiaeth, Hanes Celf a/neu’r celfyddydau creadigol sy’n ysgogi ac yn herio creadigrwydd – rhaglenni gradd sy’n rhoi’r cyfle i chi gyfuno’r ymarferol, hanesyddol, damcaniaethol a churadurol wrth astudio celf.
Mae’r Ysgol wedi’i lleoli mewn adeilad sy'n un o'r esiamplau gorau o bensaernïaeth yn Aberystwyth. Dathlodd adeilad Edward Davies, sy’n adeilad rhestredig, ei ganmlwyddiant yn 2007. Mae llawer o’i nodweddion gwreiddiol wedi’u cadw, ond mae hefyd wedi’i addasu’n ofalus i gwrdd ag anghenion dysgu celfyddyd gain heddiw. Mae’n symbol urddasol o nod yr Ysgol i gyfuno’r traddodiadol â’r cyfoes.
Mae ymchwil ein staff - artistiaid sy’n arddangos, haneswyr celf sy’n cyhoeddi a churaduron sy’n gweithio yn y maes - yn ysbrydoli’r addysgu. Mae’n hyrwyddo meddwl beirniadol a rhyngddisgyblaethol, ac yn creu amgylchedd dysgu ysbrydoledig. Dysgwch fwy am ein hymchwil, ein cyfleusterau, ein graddedigion, ein henw da a byw ac astudio yn Aberystwyth drwy glicio ar y tabiau isod.
Pam ddim dod i ymweld â ni? Mae'n hawdd dod i Aberystwyth ar y trên neu mewn car, ac mae'n amgylchedd delfrydol ar gyfer astudio a bwy'n dda. Cymerwch fantais o'r cyfle i ddod i gwrdd â'r staff a'r myfyrwyr ac i brofi'r Ysgol Gelf, y brifysgol a'r dref drosoch eich hun. Dewch i un o'n Diwrnodau Agored!