Cysylltwch â ni
Rydym wrthi’n barhaus yn gwella hygyrchedd ein gwefannau a’n systemau. Os dewch o hyd i broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y tudalennau hyn neu os ydych yn meddwl nad ydym yn ateb gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy:
- e-bost: digital-accessibility@aber.ac.uk
- ffôn: 01970 622400
- ymweld â’r ddesg gymorth yn Llyfrgell Hugh Owen, ar Gampws Penglais
Y drefn gwyno
Os ydych wedi rhoi gwybod am broblem â’n gwefan neu systemau, neu wedi holi am fformat amgen, ac yn anfodlon â’n hymateb, a fyddech cystal â chysylltu â ni i gofrestru eich anhawster. Mae hyn o gymorth i ni wella ein systemau.
Y drefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).