Darpar Partneriaid

Pam Partneriaethau?

Mewn achosion llwyddiannus, mae darpariaeth gydweithrediadol yn cynnig pob math o fanteision, sy'n cynorthwyo'r Brifysgol i gyflawni ei hamcanion strategol craidd fel yr amlinellir yn y Cynllun Strategol 2018-2023. Mae'r rhain yn cynnwys: 

 

Addysg a phrofiad y myfyrwyr Rhoi'r gallu i fyfyrwyr i ddatgloi eu potensial eu hunain a datblygu yn ddysgwyr annibynnol.

Ymchwil ac Arloesi sy'n cael effaith Cefnogi a datblygu ymchwilwyr i ymgymryd ag ymchwil sy'n creu effaith ac o ansawdd sydd gyda'r gorau yn y byd

Cyfraniad i gymdeithas Gwneud cyfraniad sylweddol i gymunedau yng Nghymru a'r tu hwnt. Deall ein cyfrifoldebau a'n hatebolrwydd i'r gymdeithas. Bod yn agored, yn berthnasol a meithrin cysylltiadau â'n cymunedau a'n rhanddeiliaid.

Ymgysylltiad RhyngwladolBod yn bartner atyniadol i sefydliadau rhyngwladol sy'n rhannu ein hamcanion a'n dyheadau. Trwytho ein graddedigion mewn hyfforddiant academaidd trylwyr ac yng ngwerthoedd dinasyddiaeth fyd-eang a chenedlaethol. 

Y Gymraeg a Diwylliant CymruGwella a chyfoethogi cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i'n staff, ein myfyrwyr ac ymwelwyr. Hyrwyddo iaith a diwylliant ein gwlad, a chyfrannu at sicrhau gwell dealltwriaeth genedlaethol a rhyngwladol o anghenion cymdeithasol-economaidd Cymru.

Y Mathau o Gydweithrediadau

Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn cefnogi llawer o weithgareddau sy’n ymwneud â phartneriaethau cydweithrediadol. Yn eu plith mae rhyddfreiniau, dyfarniadau gradd ar y cyd/deuol/lluosog, achredu, dilysu a chytundebau cydweddu.

Gall y Swyddfa Partneriaethau Academaidd roi cyngor ynglŷn â’r gwahanol fathau o bartneriaethau:

Rhyddfreiniau Pan fo rhaglen Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chynnal naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl gan sefydliad arall, gan arwain ar ddyfarniad Prifysgol Aberystwyth.

Dilysu Pan fo Prifysgol Aberystwyth yn achredu rhaglen a ddatblygwyd gan sefydliad arall fel un sy’n gyfwerth â dyfarniad gan Brifysgol Aberystwyth neu sy’n arwain at ddyfarnu nifer benodol o gredydau. Ar ôl cymeradwyo hyn, barna Prifysgol Aberystwyth bod rhaglen a ddatblygwyd ac a gynhaliwyd gan sefydliad arall heb bwerau dyfarnu graddau o ansawdd a safon briodol i arwain at ddyfarniad Prifysgol Aberystwyth ar lefel benodedig, a bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael i gefnogi’r gwaith o gynnal y rhaglen.

 

Cydweddu Trefniant sy’n galluogi myfyrwyr sy’n bodloni meini prawf academaidd a ‘fapiwyd’ ac a gymeradwywyd yn flaenorol i gael eu derbyn i Brifysgol Aberystwyth o sefydliad arall (sefydliad rhyngwladol fel arfer) a lle bo cydnabyddiaeth ffurfiol o’u dysgu blaenorol. Caiff myfyrwyr wedyn eu derbyn ar lefel uwch i ran neu flwyddyn ddilynol rhaglen radd yn Aberystwyth a fydd yn arwain at ddyfarniad Prifysgol Aberystwyth.

 

Dyfarniad ar y cyd/Gradd Ddeuol Pan fo dau gorff sy’n dyfarnu graddau yn cyflwyno dyfarniadau (a thystysgrifau) ar wahân am yr un rhaglen. Bydd y cyrff hyn wedi mynd ati ar y cyd i gynnal y rhaglen astudio sy’n arwain at y dyfarniadau hyn.

Ar ôl eu cymeradwyo, bydd Prifysgol Aberystwyth, ar y cyd â chorff arall/cyrff eraill sy’n dyfarnu graddau, yn mynd ati ar y cyd i ddarparu rhaglen sy’n arwain at ddyfarniad sengl a wnaed ar y cyd rhwng y ddau gorff neu rhwng pob cyfranogwr.

Gall y Swyddfa Partneriaethau Academaidd roi cyngor, yn rhannol,  ynglŷn â’r mathau canlynol o bartneriaethau, a bydd fel rheol yn cyfeirio partneriaid posib at yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi ac at Swyddfeydd Ysgol y Graddedigion.

Doethuriaeth ar y Cyd Trefniant lle bo dau neu ragor o gyrff sy’n dyfarnu graddau yn cynnal rhaglen sy’n arwain at ddyfarniad ymchwil sengl a wnaed ar y cyd rhwng y ddau gorff neu rhwng pob cyfranogwr.

Doethuriaeth ar fwy nag un safle Rhaid wrth gytundeb ffurfiol rhwng y Brifysgol a’r sefydliad(au) sy’n bartneriaid er mwyn cynnal Doethuriaeth ar fwy nag un safle. Defnyddir Doethuriaeth ar fwy nag un safle i gynyddu ymchwil cydweithrediadol ac i ddatblygu partneriaethau rhyngwladol. Ystyrir bod Doethuriaethau ar fwy nag un safle yn ddarpariaeth gydweithrediadol ac maent yn ddarostyngedig i bolisi darpariaeth gydweithrediadol y Brifysgol.  

 

 

 

 

 

Yma i Helpu

Trwy’r swyddfeydd canlynol, mae Prifysgol Aberystwyth yn ymroddedig i feithrin perthynas gref â’i phartneriaid yng Ngwledydd Prydain a thramor sy’n rhannu’r un weledigaeth ac ethos â hi ynglŷn â dysgu o ansawdd uchel sydd wedi’i arwain gan ymchwil a phrofiad rhagorol i fyfyrwyr.

 

Y Swyddfa Partneriaethau  Academaidd yn y Gofrestrfa Academaidd

ar gyfer prosiectau uwch eu risg, rhyngadrannol, aml-asiantaeth, er enghraifft Rhyddfreiniau, trefniadau Dilysu a chytundebau gradd Ddeuol/dyfarniad Ar y Cyd;        ar gyfer Partneriaethau Denu Myfyrwyr a Symudedd Myfyrwyr canolig eu risg, er enghraifft trefniadau Cydweddu;

Cyswllt: aqsstaff@aber.ac.uk

Cyfleoedd Byd-Eang

ar gyfer Partneriaethau Denu Myfyrwyr isel eu risg (er enghraifft, rhaglenni Cyfnewid, Astudio Dramor, ac Erasmus);

Cyswllt: bydeang@aber.ac.uk

Denu Myfyrwyr a Datblygu Rhyngwladol unedau o fewn i'r adran Marchnata a Denu Myfyrwyr

ar gyfer Partneriaethau Denu Myfyrwyr isel eu risg (trwy fynediad safonol ac uwch, megis cytundebau symud ymlaen);

 

Cyswllt: ircstaff@aber.ac.uk

Y Ganolfan Saesneg Ryngwladol

 

ar gyfer cyrsiau iaith Saesneg o ansawdd uchel sy’n paratoi myfyrwyr at astudio mewn prifysgol. Mae’n darparu hyfforddiant a chymorth i gynorthwyo myfyrwyr â’u Saesneg yn ystod eu hastudiaethau;

 Cyswllt: tesol@aber.ac.uk

Ysgol y Graddedigion

ar gyfer prosiectau Ymchwil Cydweithrediadol 

Cyswllt: ysgol.graddedigion@aber.ac.uk

Yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi

ar gyfer prosiectau a chytundebau Ymchwil  Cydweithrediadol a datblygu Grantiau Ymchwil. Yr Adran hon hefyd yw’r porth i ddiwydiannau ac i sefydliadau allanol eraill ddarganfod mwy am y cyfleoedd dirifedi i gyfnewid gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Cyswllt: drbi@aber.ac.uk