Dysgu trwy Gyfrwng y Gymraeg
Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth yn cynnig dewis eang o fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dysgir y modiwlau canlynol yn gyfan-gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Flwyddyn Gyntaf, gyda darlithoedd a sesiynau tiwtorial pwrpasol:
- Hanfodion Rheolaeth a Busnes;
- Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes.
Yn y drydedd flwyddyn mae yna opsiwn i gwblhau modiwl profiad gwaith yn ystod y tymor neu yn ystod yr haf (rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn). Cefnogir y modiwl yma trwy gynnal seminarau cyfrwng Cymraeg yn hytrach na darlithoedd:
- Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol.
Dysgir y modiwlau canlynol mewn darlithoedd cyfrwng Saesneg yn yr ail a’r trydedd flwyddyn, ond cynigir sesiynau tiwtorial trwy gyfrwng y Gymraeg:
- Rheolaeth Marchnata;
- Rheolaeth Adnoddau Dynol;
- Gweithrediadau a Rheoli’r Gadwyn Cyflenwi;
- Entreprenwriaeth a Chreu Menter Newydd;
- Arweinyddiaeth Strategol;
- Seicoleg Sefydliadol;
- Traethawd Hir (pwysoliad dwbl).
Gallwch ddewis ysgrifennu a chyflwyno gwaith i’w asesu ar gyfer unrhyw fodiwl yn Gymraeg.