Roedd fy ngradd mewn Marchnata yn gyflwyniad perffaith i’r byd gwaith. Roedd y gwahanol fodiwlau’n ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau/materion, llawer ohonyn nhw’n bethau y gallwn ddod ar eu traws yn y byd go iawn. Y peth gorau am astudio yn yr Ysgol Busnes a Rheolaeth oedd bod pob un o’r tiwtoriaid yn agos-atoch ac yn gefnogol gydol fy nghwrs gradd tair blynedd. Roedden nhw’n hapus i ymateb i unrhyw gwestiynau oedd gen i.
Cyn mynychu’r Brifysgol, roeddwn i wastad wedi cystadlu gyda fy ngheffylau. Yn ystod blwyddyn gyntaf fy astudiaethau, roeddwn i’n cadw fy ngheffyl yn iard geffylau Lluest yn Aberystwyth ac fe wnes i ddod yn ffrindiau gyda llawer o bobl yno o ganlyniad.
Rydw i bellach yn gweithio fel swyddog marchnata cenedlaethol Mencap, elusen genedlaethol anableddau dysgu. Ar ôl ymgeisio am swyddi i raddedigion yn fy mlwyddyn olaf, llwyddais i gael y swydd gyda Mencap ddeufis cyn graddio, ar yr amod fy mod i’n graddio gyda 2:1 neu uwch. Ar ôl llwyddo i gael y swydd gyda Mencap, rydw i bellach yn gweithio mewn lleoliadau ledled y DU ac yn delio’n ddyddiol ag Aelodau Seneddol ac eiriolwyr proffil uchel. Mae rhan o’r diolch i Brifysgol Aberystwyth.