Rwy’n gyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr ‘Y Gorau o Gymru’, darparwr bythynnod gwyliau 4 a 5 seren ar draws Cymru gyfan, ac yn darparu gwasanaeth effeithlon, dwyieithog a chyfeillgar saith diwrnod yr wythnos.
Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau busnes?
Roedd yn gyfuniad o dri pheth:
- Roedden ni’n teimlo bod angen i Gymru gymryd mwy o berchnogaeth o’i diwydiant twristiaeth a chryfhau’r profiad ‘Cymreig’.
- Profiad blaenorol o osod llety gwyliau a wnaeth i fi feddwl bod ffordd arall, well o wneud hynny.
- Profiad blaenorol o weithio ar wefannau ac e-farchnata a chredu bod cyfle i drosglwyddo’r sgiliau hyn i’r sector twristiaeth.
Beth yw eich atgofion chi o astudio yn Aberystwyth?
Atgofion melys – mae Aberystwyth yn lle braf iawn i astudio.
Sut wnaeth astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth eich helpu gyda’ch busnes?
Rhoddodd y cwrs gradd mewn Marchnata a gradd Meistr mewn Entrepreneuriaeth sylfaen a hyder i fi fynd ymlaen i weithio ym myd busnes. Yn benodol, roedd profiadau ymarferol fel mynd allan i weithio i gwmni am fis yn ystod fy ngradd meistr yn hynod werthfawr gan i hynny fy mharatoi ar gyfer byd gwaith. Dyna’r rheswm ein bod ni bellach yn gweithio gyda’r Brifysgol i greu cyfleoedd i fyfyrwyr presennol drwy brosiectau fel Go Wales.