Un o’r prif bethau a’m denodd at Aberystwyth cyn mynd i’r diwrnod agored cyntaf oedd y posibilrwydd o gymryd rhan yn y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith. Roedd yn rhywbeth roeddwn i wastad wedi bwriadu ei wneud ac roedd hi’n bwysig bod hynna ar gael yn y brifysgol o’m dewis. Ar ôl mynychu fy niwrnod agored cyntaf, fe wnes i gyfarfod â nifer o aelodau staff y Brifysgol a fyddai’n ddarlithwyr i fi maes o law, ac fe wnes i benderfynu’n syth bin mod i eisiau mynd i Aberystwyth. Roedden nhw’n groesawgar, ac yn gwneud i chi deimlo’n fwy na dim byd ond rhif. Roedd hynny, ynghyd â lleoliad arfordirol gwych Aberystwyth, yn sicr yn gwerthu’r Brifysgol i fi.
Wrth edrych ar fy nghynllun gradd, roeddwn i’n hoffi’r amrywiaeth o fodiwlau, a’r hyblygrwydd i astudio modiwlau mewn meysydd eraill yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes. Wrth edrych yn ôl, rwy’n credu bod hyn wedi rhoi golwg heb ei hail i ni ar bynciau fel Economeg, Marchnata a Rheolaeth. Roedd y cyfleusterau newydd yn Adeilad Rheidol yn amhrisiadwy, ac roeddwn i’n hoff iawn fod yna ofod cymunedol penodol i staff a myfyrwyr yr Ysgol Rheolaeth a Busnes – lle da i gael hoe rhwng darlithoedd a chlonc gyda ffrindiau, neu i adolygu ar gyfer eich arholiadau, ac roedd hi’n hawdd picio i fyny’r grisiau i gael gair â’ch darlithwyr os oeddech chi angen unrhyw help. Rydyn ni’n ffodus iawn o’n darlithwyr yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes. Maen nhw’n gefnogol iawn a bu hyn yn help enfawr gydol fy nghyfnod yn Aber.
O ran gwneud ffrindiau – roedd hi braidd yn frawychus peidio adnabod yr un enaid byw wrth symud i neuadd breswyl am y tro cyntaf, ond yna rydych chi’n sylweddoli bod pob myfyriwr blwyddyn gyntaf yn yr un sefyllfa â chi, ac yn sydyn mae’n dod yn llawer haws. Fe wnes i gyfarfod â merch a oedd yn symud i mewn i’r neuadd breswyl yr un pryd â fi, a chyn pen dim, roedden ni wedi casglu criw ynghyd a mynd am dro i lan y môr, cyn dod yn ôl i fyny a mynd ar ein noson allan gyntaf fel myfyrwyr Prifysgol. Oedd, roedd yn frawychus, ac roedd rhaid camu allan o’ch cylch cysur. Mae hynny wedi bod yn wir gydol fy amser yn Aber, sydd wedi golygu llawer mwy na dim ond gradd i fi.
Fe wnes i fwynhau fy maes pwnc yn fawr ar ôl fy mlwyddyn gyntaf, ond gan nad oedd gen i unrhyw brofiad ymarferol yn y maes, fe wnes i e-bostio cyfrifwyr lleol i ofyn am rywfaint o brofiad gwaith. Fe wnes i lwyddo i sicrhau lleoliad gwaith gyda chyfrifydd lleol am bedair wythnos cyn mynd ymlaen i’m hail flwyddyn yn y Brifysgol. Ar ôl sylweddoli fy mod i eisiau dilyn gyrfa ym maes cyllid, dyma ddechrau chwilio am leoliad israddedig ar gyfer y cyfnod rhwng fy ail flwyddyn a’m blwyddyn olaf, a arweiniodd at leoliad (ar y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) fel swyddog cyllid gyda Llywodraeth Cymru. Roedd fy mlwyddyn allan gyda Llywodraeth Cymru yn amhrisiadwy – fe ges i hefyd gyflog llawn am flwyddyn, a hwylusodd bethau ar gyfer trydedd flwyddyn fy nghwrs.
Ers gorffen yn y brifysgol, rydw i wedi cael swydd gyda’r BBC, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Cyfrifydd Cynorthwyol, a chyn bo hir byddaf yn dechrau ar y dasg o ennill cymwysterau proffesiynol i ddod yn gyfrifydd cwbl gymwysedig. Rwy’n grediniol fod y profiad gwaith perthnasol ges i yn ystod fy nghyfnod Blwyddyn mewn Gwaith yn ffactor pwysig wrth gael y swydd yma, ac fe fyddwn i’n annog holl fyfyrwyr yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn y dyfodol i gofrestru ar y cynllun. Gallaf eich sicrhau y bydd yn amhrisiadwy wrth i chi wneud cais am swyddi pan fyddwch chi wedi graddio.