Ces amser wrth fy modd yn astudio Economeg yn Aberystwyth. Roedd yn gwrs gradd diddorol a difyr iawn. Yn benodol, fe wnes i fwynhau elfen cymhwyso i’r byd go iawn y cwrs gradd ac astudio pynciau perthnasol fel yr argyfwng economaidd byd-eang presennol a digwyddiadau hanesyddol fel y dirwasgiad mawr yn y 1930au ac argyfwng olew y 1980au ar draws y gwahanol fodiwlau. Roedd maint y dosbarthiadau yn gymharol fach ac roedd hyn o fudd i fi fel myfyriwr gan ei fod yn cynnig profiad mwy personol rhwng y myfyrwyr a’r staff, ac roedd hi’n hawdd cael help neu arweiniad ychwanegol os oedd gennych chi unrhyw broblemau mewn perthynas â maes penodol.
Mae nifer fawr o gyfleoedd i ymuno â chymdeithasau a chlybiau chwaraeon yn Aberystwyth. Bachais ar y cyfle i ymuno â’r clwb badminton a’r tîm pêl-droed sy’n chwarae yng nghynghrair Digs Aberystwyth. Roedd hon yn ffordd wych o gadw’n heini, ond yn bwysicaf oll, roedd yn gyfle i gyfarfod pobl sydd wedi dod yn ffrindiau oes.
Rydw i bellach yn gwneud gradd Meistr mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (sy’n delio â digwyddiadau fel Datganoli Cymru) yn yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rydw i wedi ennill ysgoloriaeth lawn er mwyn gallu dilyn fy astudiaethau; mae’r ysgoloriaeth yn cynnwys cyfraniad ariannol gan FBA (cwmni marchnata yn Aberystwyth a Chaerdydd) a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Fe wnaeth fy ngradd Economeg fy helpu i sicrhau’r ysgoloriaeth gan fod y wybodaeth a’r sgiliau y gwnes i eu datblygu wrth astudio ar gyfer fy ngradd yn berthnasol yn y prosiect ymchwil y mae’n ofynnol i fi ei wneud ar gyfer FBA.