Ar ôl ymweld â thref hyfryd Aberystwyth ar ddiwrnod agored yn ôl yn 2010, roeddwn i’n hollol bendant mai dyma’r lle i fi. Mae mynychu’r Brifysgol yma yn cynnig ffordd o fyw heb ei hail ac roedd hi ben ac ysgwydd yn well na phob tref prifysgol arall i mi ymweld â hi. Mae’r dref yn cynnig bywyd cymdeithasol gwych, gyda bariau bywiog di-ri yn gwerthu pob math o ddiodydd unigryw sydd hefyd yn hynod o rad! Y peth gorau oll, serch hynny, yw pan fydd yr haul yn tywynnu a phawb yn hel am y traeth, naill ai i weithio neu i ymlacio.
Fe wnes i fwynhau’r cwrs Cyfrifeg a Chyllid yn fawr, er nad oeddwn i’n gwybod dim am y pwnc cyn dechrau ei astudio. Mae’r tiwtoriaid yn rhagorol, ac mae ganddyn nhw gyfoeth o wybodaeth am gyfrifeg yn ogystal â phrofiad ymarferol sy’n cynnig dealltwriaeth go iawn i chi o’r maes. Mae amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol ar gael sy’n eich galluogi i ddewis modiwlau sydd o ddiddordeb personol i chi. Ar y cyfan, mae’r tiwtoriaid a’r staff i gyd yn hynod o barod eu cymwynas ac yn awyddus i chi lwyddo!
Yn ogystal ag astudio, fe wnes i ymgymryd â gwaith wirfoddol fel hyfforddwr galluoedd ariannol gyda'r Cyngor ar Bopeth. Roedd y gwaith yn golygu cynnig cyngor ar faterion ariannol i grwpiau cymunedol ac ysgolion gyda’r nod o leihau nifer y bobl ifanc sy’n profi trafferthion ariannol. Roedd y gwaith nid yn unig yn wych i’m CV ond roedd hefyd yn cynnig rhywfaint o brofiad ymarferol i fi o faterion ariannol yn ogystal â phrofiad addysgu. Fe ges i bob math o gyfleoedd yn fy ngradd i roi cyflwyniadau ac fe wnes i ddewis astudio “Astudiaethau Achos mewn Cyfrifeg a Busnes”, modiwl sy’n canolbwyntio’n bennaf ar fagu hyder wrth gynnal cyflwyniadau.
Wrth ddechrau yn y Brifysgol, mae’n bosib y byddwch chi’n poeni am wneud ffrindiau ond a bod yn onest, gyda’r gweithgareddau di-ben-draw, a’r cyfleoedd y mae’r Undeb yn eu cynnig gydol wythnos y Glas a thu hwnt, gwneud ffrindiau fydd y rhan hawsaf o ddechrau yn y Brifysgol. Bydd ymuno ag un o’r cannoedd o glybiau neu gymdeithasau chwaraeon yn ffordd wych o wneud ffrindiau yn ogystal â phrofi’r gweithgareddau ‘cymdeithasol’ gwych sydd ganddyn nhw i’w cynnig. Roeddwn i’n rhan o dîm pêl-droed cynghrair Digs y Brifysgol a oedd yn hwyl garw, ar y cae ac oddi arno. Roeddwn hefyd yn drysorydd i’r tîm, sy’n edrych yn wych ar eich CV.
Yn fy mlwyddyn olaf yn Aberystwyth, fe wnes i fynychu un o’r nifer o sgyrsiau gan TEIC (Teach English in China), sefydliad sy’n recriwtio graddedigion i rolau addysgu ledled Tsieina. Er na wnes i freuddwydio bryd hynny y byddwn i nawr yn eistedd yn fy swyddfa mewn coleg meddygol yn Zunyi, mae wedi cynnig cyfle gwych i fi deithio hyd yma, a defnyddio’r sgiliau trosglwyddadwy y gwnes i eu meithrin wrth astudio ar gyfer fy ngradd. Er y byddaf yn bendant yn dilyn gyrfa mewn cyfrifyddiaeth (yn y dyfodol), roeddwn i eisiau’r profiad o weld y byd yn gyntaf a threulio amser yn ymchwilio i ba agwedd ar gyfrifyddiaeth fyddai fwyaf addas i fi, gan ei fod yn faes mor amrywiol. Er nad yw symud i ben draw byd yn addas i bawb, mae eich profiad yn y Brifysgol o fyw oddi cartref, yn ogystal â’r sgiliau trosglwyddadwy y bydd eich gradd yn eu rhoi i chi, yn ei wneud yn gam llawer llai brawychus nag y byddech chi’n ei dybio, ac yn rhywbeth y byddwn i’n bendant yn eich argymell i’w ystyried, o leiaf.
Ar y cyfan, fe ges i amser gwych yn Aberystwyth ac os ydych chi wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â’r Brifysgol a’r dref, rwy’n siŵr y bydd dewis Prifysgol yn dasg symlach o lawer.