Barn ein Myfyrwyr
Darlithydd mewn Economeg "Mae Shafiul yn onest yn ei adborth ar weithgareddau/traethodau gyda chyfraniadau cadarnhaol ar yr hyn sy’n dda a’r hyn y gellir ei wella. Mae’n deg yn y dosbarth, yn enwedig i’r rhai sy’n ymdrechu. Mae ganddo bolisi drws agored rhwydd sy’n ei wneud yn hawdd cysylltu ag e." |
Darlithydd mewn Rheolaeth “Ysgrifennaf hyn fel Cynrychiolydd Athrofa IMLIS gan fy mod wedi fy syfrdanu gan nifer y myfyrwyr sy’n credu bod Sophie yn haeddu cael ei henwebu mewn sawl categori yn y gwobrau hyn. Rwyf wedi clywed adroddiadau lu gan wahanol fyfyrwyr a chynrychiolwyr academaidd yn dweud eu bod wedi mwynhau ei dosbarthiadau a’u bod wedi cael mwy o lawer ganddi nag yr oedden nhw’n meddwl oedd yn bosib. Mae’n dysgu mewn modd blaengar, rhyngweithiol, ac yn gorfodi’r myfyrwyr i fynd y tu hwnt i’r cyfarwydd ac i fynd i’r afael yn ymarferol â chyrsiau busnes. Mae Sophie’n torri cysyniadau i lawr ac yn eu gwneud yn hawdd eu rheoli, mae’n annog y myfyrwyr i gyfrannu yn y dosbarth er mwyn cymhwyso’r ddamcaniaeth sy’n cael ei dysgu’n ymarferol, ac yn rhoi cyd-destun sut y bydd hynny’n ddefnyddiol ar gyfer gyrfa yn ogystal â llwyddo mewn arholiadau. Mae Sophie’n gefnogol, yn hawdd mynd ati a bob amser yn barod i helpu a chanddi agwedd gadarnhaol.” |
Darlithydd mewn Cyllid "Mae Tim wedi mynnu agwedd ragweithiol gan ei fyfyrwyr. Mae’n haeddu’r enwebiad hwn am ei agwedd hamddenol, ond sydd hefyd yn cynorthwyo, at oruchwylio traethodau ymchwil. Drwy fod yn fwy o arweinydd mae wedi cael gwared ag unrhyw straen diangen, gan ddarparu unrhyw help, cyngor a chymorth a allai fod eu hangen ar fyfyriwr. Gwelwyd hyn orau drwy’r ffaith ei fod ar gael; drwy’r haf roedd ond un ebost i ffwrdd, a gellid trefnu cyfarfod wyneb yn wyneb yn hawdd. Yn olaf ond nid y lleiaf o bell, dangosodd ddealltwriaeth o faterion personol ac academaidd y gellid bod wedi eu hanwybyddu’n hawdd gan helpu’n briodol. Rhoi rhyddid yn eu gwaith i fyfyrwyr oedd y peth mwyaf defnyddiol a chynhyrchiol y gallai fod wedi’i wneud yn y sefyllfa hon, ac am hynny rwy’n ddiolchgar iddo." |
Darlithydd mewn Cyllid "Aloysius sy’n gyfrifol am ein dysgu ni ac mae’n amyneddgar yn ateb pob cwestiwn yn y dosbarth neu’r tu allan i’r dosbarth. Roedd hefyd yn garedig am y broblem academaidd arall a wynebais i." |
Darlithydd mewn Cyllid "Athrawes anhygoel, mae bob amser yn barod iawn ei chymwynas, yn hawdd mynd ati ac yn gyfeillgar. Os ydych yn cael trafferth mae bob amser yn barod i eistedd i lawr ac egluro pethau. Mae’n rhoi’n hael o’i hamser i roi enghreifftiau ychwanegol ac i sicrhau eich bod yn deall pob cysyniad yn iawn.” |
Darlithydd mewn Rheoli "Mae Wyn yn cymryd amser i egluro pethau i chi ac yn gwneud dysgu’n ddiddorol. Dyw e byth yn gwneud i chi deimlo’n fach pan fydd angen gofyn cwestiynau, dim ots pa mor amlwg yw’r ateb, ac mae e wastad yna os oes angen cymorth ychwanegol. Mae ganddo ddiddordeb gwirioneddol yn ei fyfyrwyr, ac mae wedi fy helpu i, nid yn unig yn academaidd, ond drwy roi hyder i fi a chefnogaeth i fynd ar hyd y llwybr rwy’n dymuno mynd ar ôl y brifysgol. Mae ganddo ddiddordeb bob amser mewn helpu ei fyfyrwyr a bydd bob amser yn gwneud amser os oes angen help arnoch chi. Mae’n eich trin chi fel oedolyn ac mae bob amser ar gael fel mentor sy’n rhoi hwb i’r hyder." |
Darlithydd mewn Economeg "Yn fy ail flwyddyn roedd pawb yn dweud bod y traethawd hir yn yn anodd ei ysgrifennu. Un semester yn ddiweddarach fe gwrddais i â Dr Remoundou. Hi oedd fy narlithydd ac ar ddiwedd y modiwl roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n gwneud fy ngorau i’w chael hi fel goruchwyliwr traethawd hir. Rhoddodd lawer o arweiniad a syniadau i fi, gan fy nghefnogi pan oeddwn i dan bwysau. Ymhellach, bob tro pan rwyf i’n mynd i’w swyddfa heb drefnu apwyntiad, mae hi’n hapus i fy helpu." |
Uwch Ddarlithydd Cyfrifeg "Drwy gydol fy nghyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth, gwnaeth Megan yn siŵr ei bod hi yno pan oeddwn i’n cael amser caled. Mae’n dangos llawer o gefnogaeth i’r holl fyfyrwyr ar fy nghwrs a dylai gael ei chydnabod. Dwyf i ddim yn meddwl y byddwn i wedi cyrraedd fy mlwyddyn olaf oni bai am Megan." |