Now Showing
Ar Agor: Dydd Llun-Dydd Gwener, 10yb-5yh | Open: Monday - Friday, 10am-5pm Am ddim | Free
Noder y byddwn ar agor ddydd Sadwrn 15 Mawrth a dydd Sadwrn 22 Mawrth 2025 ar ddiwrnodau agored y Brifysgol rhwng 10yb a 2yp.
Please note we will be open on Saturday 15th March and Saturday 22nd March 2025 on the University open days from 10am - 2pm.
Paentio Dwyflynyddol BEEP 2024 | BEEP Painting Biennial 2024
Byddai ddim yn aros mewn byd heb gariad | I won't stay in a world without love
13/01 - 04/04/2025
Dechreuodd Beep ei fywyd yn wreiddiol yn 2012 a chafodd ei ddychmygu gan yr artist a chyfarwyddwr oriel elysium Jonathan Powell. Ganwyd y syniad o’r awydd i ddod â chyfres reolaidd o arddangosfeydd peintio cyfoes uchelgeisiol i Gymru gan gofleidio’r gwaith gorau a mwyaf hanfodol sy’n cael ei greu heddiw. Ei nod yw dod â’r peintiadau cyfoes gorau o bob rhan o’r byd i Gymru, gan amlygu rhagoriaeth o ran cynnwys, esthetig, techneg, a’r deunyddiau a ddefnyddir. Mae Beep hefyd yn darparu ac yn meithrin rhwydwaith llawn gwybodaeth ar gyfer arlunwyr a phobl sydd â diddordeb mewn peintio cyfoes drwy godi ymwybyddiaeth o waith artistiaid a chyfleoedd artistiaid o bob rhan o’r DU a thu hwnt. Mae arddangosfa Gwobr Peintio Beep 2024 yn cynnwys dros 340 o artistiaid o bob cwr o’r byd. Gofynnwyd i bawb ymateb i’r thema ‘Byddai ddim yn aros mewn byd heb gariad’, telyneg wedi’i chymryd o gân y Beatles na ddefnyddiwyd. Yn ôl yr arfer roedd artistiaid yn gallu cyflwyno hyd at ddau beintiad yn seiliedig yn fras ar thema gerddorol eleni. Allan o’r holl geisiadau, lluniwyd rhestr hir o artistiaid a gafodd wedyn deitl cân o record finyl 7” wedi’i hachub a chreu clawr newydd peintiedig ar ei chyfer. Mae pob clawr record wedi’i pheintio yn mesur 18cm x 18cm, a’r gerddoriaeth yw prif gynnwys yr arddangosfa. Yna, dewisodd ein panel o feirniaid restr fer o’r ceisiadau gwreiddiol a fydd yn cael eu harddangos yn yr arddangosfa, a dewiswyd enillwyr Biennial Peintio Bîp 2024 ohonynt. Dewiswyd yr artistiaid ar y rhestr fer gan banel o feirniaid yn cynnwys y cerddor enwog a chyflwynydd Radio Wales Bronwen Lewis, y curadur Ann Jones, yr artist a darlithydd Nelson Diplexcito, gyda’r artist Cymreig arobryn Tim Davies yn dewis gwaith ar gyfer Gwobr Cyfeillion Glynn Vivian.
Beep originally started life in 2012 and was conceived by artist and elysium gallery director Jonathan Powell. It was borne out of a desire to bring a regular series of ambitious contemporary painting exhibitions to Wales embracing the best and most vital work being created today. It aims to bring to Wales the best contemporary painting from across the globe, highlighting excellence in content, aesthetic, technique, and materials used. Beep also provides and nurtures an informative network for painters and people interested in contemporary painting by raising awareness of artists’ works and artist opportunities from across the UK and beyond. The Beep Painting Prize 2024 exhibition features over 340 artists from around the world. All were asked to respond to the theme of ‘I won’t stay in a world without love’, a lyric taken from a discarded Beatles song. As usual artists were able to submit up to two paintings based loosely on this year’s musical theme. Out of all the applications, a long list was drawn up who were then given the title of a song from a rescued 7” vinyl record and create a new painted cover for it. The painted record covers each measuring 18cm x 18cm, and the music forms the main content of the exhibition. Our panel of judges then selected a shortlist from the original applications which will be displayed in the exhibition, from which the winners of the 2024 Beep Painting Biennial were chosen. The shortlisted artists were selected by a panel of judges featuring celebrated musician and Radio Wales host Bronwen Lewis, curator Ann Jones, artist and lecturer Nelson Diplexcito, with award winning Welsh artist Tim Davies selecting work for the Friends of the Glynn Vivian Prize.
Y Rhyfel na Ddigwyddodd | The War That Never Came
Alex Gilbey
Arddangosfa PhD Exhibition
26/01 - 28/02/2025
Yn 1945, daeth arfau niwclear newydd â'r Ail Ryfel Byd i ben. O hynny, tan ddiwedd yr 1980au, roedd y byd yn mynd trwy gyfnod o dyndra rhyngwladol dwys oedd yn bygwth arwain at ryfel niwclear.
Ar un ochr roedd Prydain, yr Unol Daleithiau a'u cynghreiriaid, a ffurfiodd gynghrair NATO. Ar yr ochr arall roedd yr Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw. Byddai pryder yr oes yn cyffwrdd pob rhan o fywyd, o wleidyddiaeth a masnach i ffilm, cerddoriaeth a llenyddiaeth.
Byddai'r cyfnod hwn yn cael ei adnabod fel y Rhyfel Oer.
Mae dros dri degawd ers i'r cyfnod hwn ddod i ben, ond mae ei olion yn dal i fodoli heddiw os gŵyr rhywun lle i edrych. Trwy ddogfennu bynceri'n adfeilio, awyrennau rhyfel wedi'u cadw, a safleoedd hanesyddol yr oes, mae'r arddangosfa hon yn ceisio adlewyrchu'r oes a'i dangos i'r rhai nad oeddent yno.
Tynnwyd pob ffotograff ar ffilm ddu a gwyn gan ddefnyddio camera o gyfnod y Rhyfel Oer, i ail-greu'r gorffennol ar gyfer llygaid y gwyliwr gyda'r dechnoleg oedd ar gael ar y pryd.
Mae'r delweddau hyn yn gofyn sut rydym ni'n ffurfio ein hatgofion o'r gorffennol, ac a allwn ni weld digwyddiadau na ddigwyddodd erioed.
Wnaeth y brwydro erioed ddechrau yn ystod y Rhyfel Oer.
Pe bai wedi digwydd, sut byddai wedi edrych?
Hoffai’r Artist ddiolch i’r mudiadau a’r sefydliadau canlynol am eu cymorth hael gyda’r prosiect hwn:
Aerospace Bristol
Bentwaters Cold War Museum
The Buccaneer Aviation Group
Echoes of History
Hack Green Secret Nuclear Bunker
The Imperial War Museum, Duxford
Jet Age Museum
Midland Air Museum
Newark Air Museum
RAF Cosford Airshow
Royal Air Force Museum, Hendon
Royal Air Force Museum, Midlands
Tanks, Trucks and Firepower Show
The Helicopter Museum
In 1945, newly invented nuclear weapons ended the Second World War. From then, until the end of the 1980s, the world lived through an era of heightened international tension that threatened to lead to a nuclear war.
On one side were Britain, the US, and their allies, who formed the NATO alliance. On the other side were the USSR and the countries of the Warsaw Pact. The anxiety of the age would enter every area of life from politics and trade to film, music and literature.
This era would become known as the Cold War.
It’s been over three decades since this era ended, but traces of it still exist today if you know where to look. Through documentation of crumbling bunkers, preserved warplanes, and the historic sites of the era, this exhibition sets out to reflect the era and show it to those who weren’t there.
Each photograph has been taken with black and white film using a camera from the Cold War era, to recreate the past for the viewer’s eyes using technology available at the time.
These images ask how we form our memories of the past, and whether we can see events that never happened.
The Cold War never broke out.
If it had, what might it have looked like?
The Artist wishes to thank the following organisations and institutions for their kind assistance with this project.
Aerospace Bristol
Bentwaters Cold War Museum
The Buccaneer Aviation Group
Echoes of History
Hack Green Secret Nuclear Bunker
The Imperial War Museum, Duxford
Jet Age Museum
Midland Air Museum
Newark Air Museum
RAF Cosford Airshow
Royal Air Force Museum, Hendon
Royal Air Force Museum, Midlands
Tanks, Trucks and Firepower Show
The Helicopter Museum