Llety
Gyda dros 2,000 o ystafelloedd ar gael ledled ein hystad breswyl yn ystod yr haf, mae ein llety yn ddiguro yng Ngorllewin Cymru.
Rydym yn cynnig llety sy’n addas ar gyfer pob cyllideb, o ystafelloedd gwely sylfaenol i’n datblygiad newydd sbon, Fferm Penglais.
Ceir Wi-Fi am ddim ledled y campws.
Mae llety safonol ar gael trwy gydol y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni trwy anfon neges e-bost i conferences@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621960.
Gwybodaeth i ymwelwyr
Mae ein holl lety i westeion wedi'i leoli ar neu'n union wrth ymyl Campws Penglais, Aberystwyth, chwarter awr o gerdded o ganol y dref, gorsaf reilffordd a chyfleusterau pellach.
I weld pa ystafelloedd sydd ar gael, neu i archebu llety , ewch i'n tudalen archebu, Archebwch Nawr. Os oes unrhyw anawster neu os ydych am archebu mwy nag 8 ystafell am fwy na 4 wythnos, cysylltwch â ni ar conferences@aber.ac.uk neu 01970 621960 am ddyfynbris.
Gallwch gyrraedd o 3yh ymlaen.
Rhaid bod allan o’ch ystafell erbyn 10yb yn y Byncws neu 9yb ym mhob llety arall.