Astudiaethau Maes
Mae’r dudalen hon yn amlinellu lleoliadau maes profedig a thechnegau astudio ar gyfer Ecoleg/Bioleg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Gallwch ymgymryd yn llwyddiannus â’r rhain trwy ddefnyddio Prifysgol Aberystwyth fel lleoliad ar gyfer gwaith maes TGAU, Safon Uwch ac israddedig.
Mae arbenigwyr gwaith maes lleol ar gael i arwain trefnwyr sy’n newydd i ardal Aberystwyth i leoliadau maes a thechnegau sydd ag enw da am ddarparu data gweithiadwy ar gyfer gwaith ategol neu waith prosiect.
Daearyddiaeth
Yn ardal Aberystwyth, ceir safleoedd dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer astudiaethau ffisegol a gwledig. Mae’r holl feysydd astudio a nodir isod o fewn cyrraedd hwylus i’r brifysgol, a chynigir deunyddiau athro / myfyriwr ar gyfer y rhan fwyaf o bynciau. Gallwn eich cynghori ar brosiectau fel y cewch y mwyaf o’ch ymweliad a darparu ystafelloedd addysgu yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol.
1. Geomorffoleg Arfordirol – Y Borth ac Ynys-las
Mae’r astudiaethau yn cynnwys y canlynol a’r berthynas rhyngddynt: traeth isaf, stormdraeth, twyni tywod, morfa heli, fflatiau aberol, clogwyni a llyfndir tonnau; astudio drifft y glannau, trawsbroffil y traeth, gwaddodion – math, maint, siâp, crynrwydd, dosbarthiad; gwaith y Cyngor Gwarchod Natur wrth reoli’r twyni; trawsluniau twyni tywod a morfeydd heli; cydberthynas ofodol proses a thirffurf.
2. Hydroleg a Morffoleg Afonydd – Afonydd Ystwyth ac Elan
Mesur ac asesu’r berthynas rhwng y trychiadau sianelog, maint y gwaddodion a chyflymder nentydd; cymharu rhannau riffl, pyllau syth a doleniad cwrs uchaf Afon Elan; astudio erydiad craigwelyau gwahaniaethol a rheolaeth ddaearegol cwrs uchaf Afon Ystwyth; cofnodi newidion yn y sianel o’r cwrs uchaf i’r cwrs isaf; gwerthuso’r dalgylch afon a mesur yr ymdreiddio a’r dŵr ffo.
3. Rhewlifiant - Cadair Idris
Gellir astudio tirffurfiau ucheldir clasurol yng Nghwm Cau, gan gynnwys peiran, llyn mynydd, crib, min craig, craig follt, maen dyfod; hefyd rheolaeth ddaearegol y rhewlif gan erydu gwahaniaethol cerrig llaid a folcanigau; rhewlifiant dyffrynnol yn Nhal-y-llyn (crognant, llyn hirgul, tirlithriad, bwa llifwaddod); dadansoddi adeiledd crog-glai ar farian priddlif, marian llusg, gwrthglawdd pro-talus, tywod allolchi a dyddodion llithriad ffinrewlifol.
4. Daearyddiaeth Drefol - Aberystwyth
Canolbwyntio ar yr Ardal Fusnes yng nghanol y dref; lleoliad y Lleoliad Gorau Posibl neu’r Croestoriad Gwerth Tir Brig gan ddefnyddio llif cerddwyr, arolygon clwstwr, gwerthoedd trethiannol, trawsluniau defnydd tir a chylch dylanwad; astudiaeth ddilynol yn cynnwys dadansoddi’r cymydog agosaf a mapio isopleth yn ogystal â chymariaethau posibl â chanolfannau trefol cyfagos llai, sef Machynlleth ac Aberaeron.
5. Astudio Anheddiad Gwledig - Ceredigion
Nodweddion a gwasanaethau anheddiad gwledig gan gynnwys safle, lleoliad, cysylltiadau trafnidiaeth, newid yn yr anheddiad; profi model Christaller gan ddefnyddio cyfernod lleoliad, gwerth canolrwydd, cyflwyno indecs ffwythiannol a graff logarithmig; cynhyrchu mapiau swyddogaeth ar gyfer nifer o aneddiadau; astudio newid swyddogaeth hen bentrefydd mwyngloddio dros amser.
6. Gwyddor Pridd
Astudio mathau o bridd rhanbarthol – ‘ranker’, pridd brown, podsol, glei, mawn; cysylltiad hydrolegol mathau o bridd o fewn i’r gyfres gatena; datblygiad proffiliau o dan fathau o lystyfiant gwahaniaethol; pwysigrwydd uchder, gwedd ac ongl llechwedd; mesuriadau gwella pridd; cofnod cywir o nodweddion pridd mewn rhan benodol; gwaith labordai gan gynnwys % dŵr, % hwmws, pH, profi crynodiad haearn.
7. Ystâd Ddiwydiannol a Pharc Gwyddoniaeth
Canolbwyntio ar swyddogaeth ystâd ddiwydiannol ysgafn nodweddiadol sy’n cael ei rheoli gan Awdurdod Datblygu Cymru; cymhellion i fusnesau bychain ymsefydlu mewn ardal wledig gan gynnwys safle, lleoliad, swyddogaeth, hygyrchedd i’r farchnad, canran o ddefnyddwyr lleol; eglurhad rhesymegol dros leoli ystâd ddiwydiannol; cyfweliadau â phobl mewn diwydiant.
8. Ynni
Gorsaf Bŵer Niwclear Trawsfynydd; Gorsafoedd Pŵer Dŵr a Thrydan Dinorwig a Rheidol; Canolfan Technoleg Amgen (CAT) gan gynnwys cyflwyniad gan Swyddog Addysg.
9. Amaethyddiaeth
Ymweliad â’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd, canolfan arbrofol sy’n defnyddio tir âr a da byw; ymweliadau â fferm organig; fferm da byw arddwys y Brifysgol (fferm ddefaid ucheldirol nodweddiadol) gyda rhestrau manwl o fewnbynnau ac allbynnau.
Gwyddorau Daear
Amrywiaeth gwych o nodweddion daearegol hawdd i’w deall, gan gynnig darlun tectonig a gwaddodegol cyflawn o’r Basn Ymylol Cymreig Paleosaidd Isaf, sy’n addas i’w astudio ar bob lefel o lefel TGAU hyd at lefel israddedig. Gellir gwneud cymhariaeth ag amgylchedd ymyl y basn bas drwy ymweliadau undydd â gogledd Sir Benfro. Mae deunyddiau ar gyfer myfyrwyr ac athrawon ar gael ar gyfer y pynciau astudio a restrir isod:
1. Tyrbiditau
Trawslun o’r cyfresi tyrbidit agosaf i’r pellaf ar hyd arfordir Bae Ceredigion rhwng Ceinewydd a’r Borth. Arsylwir amrywiaeth o nodweddion gwaddodol yn ogystal ag ymarfer logio gwaddodol ar hyd at bedair rhan sy’n dilyn ei gilydd yn ochrol.
2. Dyddodion Bwâu Tanfor
Mae tyrbiditau agos Silwraidd Uchaf a chlymfeini sianel ochr silff yng Nghaban Coch yng Nghwm Elan yn dangos prosesau bwa uchaf a litholeg gan gynnwys clymfeini sy’n cael eu cynnal gan amgaenau a chlastau o hyd at 50 cm, tywodfeini wedi eu daearu gan y cerrynt a thywodfeini wedi eu daearu’n arferol ac am nôl yn ogystal ag ambell garreg glai fân. Gall myfyrwyr adeiladu logiau gwaddodol drwy gyfres nodweddiadol.
3. Folcanigrwydd
Astudio’r Grŵp Folcanig Aran Ordofigaidd sy’n cynnwys Cadair Idris; arsylwi a disgrifio creigiau igneaidd a’u perthynas gan gynnwys lafau clustog o asid deufodd i gyfres sylfaenol, ignimbritau, twffau crisial a lithig, llosg-garneddau a rhiolitau. Dehonglir y gyfres oddi mewn i sefyllfa tectoneg platiau ehangach. Bydd taith arall i Ganolfan Folcanig Abergwaun yng ngogledd Sir Benfro i gyd-fynd â hyn yn datgelu nodweddion amlwg tebyg.
4. Daeareg Strwythurol
Olrhain hanes anffurfiad yr ardal gan ddefnyddio dulliau arsylwi nodweddion strwythurol syml megis ymraniadau, mathau o blygiadau a’r cysylltiad rhyngddynt; gellir cymharu plygiadau ochr disgyrchiant gwaddodion â nodweddion tectonig; gall ymarfer mapio strwythurol byr leoli gwrthffurfiau a synffurfiau anghymesurol sy’n agos at ei gilydd. Mae gwaith dilynol yn dilyn astudio taflen B.G.S. Aberystwyth sy’n edrych ar dueddiadau strwythurol ehangach a chysylltedd y mwyneiddiad hydrothermol cysylltiedig.
5. Mwyneiddiad Hydrothermol
Mwyneiddiad hydrothermol ardaloedd ffawt E-W lleol a hanes manwl chwistrellu y gellir eu holrhain o gyfresi paragenetig. Bydd ymweliad â chwareli brig yn datgelu’r gwythiennau mwynol sydd yno. Bydd gwaith dilynol yn cynnwys astudio strwythur a litholeg fel ffactorau rheoli mwyneiddiad.
6. Mapio Daearegol
Carn Owen, Pumlumon – anogir myfyrwyr i lunio eu map daearegol eu hunain o Bericlin lleol Carn Owen, sy’n cynnwys craidd o welyau anhrefnus wedi’u troshaenu â thywodfeini garw wedi’u daearu’n dda, a sialau graptolitig Silwraidd gwaelodol. Mae ffawt sydd wedi’i fwyneiddio yn torri’r Periclin yn ei hanner ac yn datgelu pob gorwel sy’n caniatáu modd o werthfawrogi perthynas 3D. Gan weithio oddi wrth y ffawt, gwaith diwrnod fyddai mapio daeareg arwynebol yr hanner gogleddol.
Llynnoedd Teifi, Mynyddoedd Cambria – cyfres o wrthffurfiau a synffurfiau sy’n agos at ei gilydd [tonfedd tua 20-30 metr], hawdd iawn eu gweld mewn toriad heol toredig sy’n berbendicwlar i’r tuedd strwythurol. Gall myfyrwyr lunio map strwythurol mewn diwrnod gan leoli golethrau a llorweddiadau, olion echelinol a ffawtiau. Mae’r gyfres yn ffurfio rhan o gyfres siâl a thywodfeini tyrfedd wedi eu rhyngddaearu. Canlyniad y mapio fydd map stribyn 1 cilomedr wrth 100 metr ar hyd yr heol.
7. Daeareg Economaidd
Cronfa ddŵr ac argae Caban Coch; ffactorau sy’n effeithio ar addasrwydd gan gynnwys cyfyngiadau o ran daeareg (athreiddedd, mandylledd, strwythur, cryfder o ran dal pwysau, math o graig) a chyfyngiadau ffisegol (effaith ar yr amgylchedd, siâp a maint y dyffryn, glaw, defnydd arall o’r tir, agosrwydd at y defnyddiwr).
Hefyd toriadau o’r heol sy’n dangos adeiledd cynnal gwahanol – rhwydi, blociau concrid, pibau, rodiau haearn, basgedi craig. Gall gweithgareddau gynnwys asesu technegau ac addasrwydd.
Ecoleg a Bioleg
Cyfleoedd ardderchog ar gyfer astudio nifer fawr o wahanol systemau eco. Gellir cyflwyno myfyrwyr i ddulliau o gasglu data, technegau tirfesur ac archwilio ffyrdd o gyflwyno a dadansoddi data. Mae cyfleoedd delfrydol yn yr ardal ar gyfer ymchwilio i’r ffordd y caiff gwarchodfeydd natur eu rheoli, problemau ymwelwyr a’r angen am gadwraeth, a thechnegau cadwraeth. Mae labordai helaeth o ran offer yn y Sefydliad Gwyddorau Biolegol ar gael i’w defnyddio.
1. Ecoleg Glannau Creigiog
Defnyddio allweddi ar gyfer adnabod rhywogaethau; astudio dosbarthiad a chylchfäedd rhywogaethau ar hyd glannau creigiog gan ddefnyddio trawsluniau neu samplu haenedig gan ddefnyddio cwadradau hanner metr; cymharu glan gysgodol (Aberystwyth) a glan agored (Y Borth) drwy ddefnyddio graddfeydd dinoethiad sydd wedi’u diffinio’n fiolegol; astudio pyllau glan môr; astudio poblogaeth gan ddefnyddio Indecs Lincoln i amcangyfrif maint poblogaeth y molwsg boldroedog; adeiladu pyramidau rhifau a biomas cymunedau pori (glan gysgodol) gyda chymunedau bwydo drwy hidlwr (glan agored); hoff gynefinoedd y molwsg boldroedog o ran gwahanol rywogaethau o wymon – defnyddio prawf chi-sgwâr; addasiad siâp cragen yn gragen maharen gan ddibynnu ar ba mor agored ydyw i’r tonnau – defnyddio prawf-t.
2. Ecoleg Twyni Tywod
Amrywiaeth o olyniaeth a rhywogaethau ar draws twyni tywod Ynys-las – egindwyni, twyni symudol, lled-sefydlog, sefydlog; llaciau twyni; addasu i gynefinoedd twyni tywod; effaith sathru ar dwyni tywod; effaith cwningod ar system eco’r twyni tywod; gwaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru wrth reoli Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ynys-las – amcanion cadwraeth (gellir trefnu sgyrsiau cadwraeth gan y Warden).
3. Ecoleg Aberol
Trawslun morfa heli i ddangos olyniaeth; cytrefu morfa heli gan Spartina; addasiadau planhigion morfeydd heli; trawsluniau ar raddfa fechan drwy gilfachau a phonciau morfa heli; astudiaethau poblogaeth gan ddefnyddio gwichiaid morfa heli; astudio gwasgariad a / neu ffyrdd gwichiaid o oroesi; dosbarthiad ffawna aberol mewn fflatiau llaid llanw; tyrchu mewn infertebratau aberol.
4. Ecoleg Coetiroedd
Coedwigaeth yr ucheldiroedd (Coedwig Rheidol); defnyddio rhywogaethau estron conwydd; cymharu clystyrau conwydd a choetiroedd cymysg llydanddail (Coedwig Clarach) gan ddangos y gwahaniaethau yn y rhywogaethau o ran amrywiaeth a chyfansoddiad; haeniad ar goetiroedd; rheoli coetiroedd; coedwigaeth fasnachol; dadansoddi’r pridd; ymchwilio i infertebratau pridd ac ysbwriel.
5. Ecoleg Corsydd Mawn
Lleolir corsydd mawn asid ucheldirol bychain ger ardal Coedwig Rheidol a gellir mesur y rhain i asesu’r effaith ar wlybaniaeth cynyddol a’r anocsia pridd sy’n ymddangos o ganlyniad ar gyfansoddiad y rhywogaethau; addasu organeddau corsydd mawn – planhigion cigysol.
Ymweliad â Chors Caron - gellir trefnu teithiau gyda’r Warden a fydd yn eich arwain drwy ardaloedd o doriadau mawn, pyllau, gorlifdiroedd, tywod, gwernydd cyrs, ffeiniau helyg ac ardaloedd wedi’u cytrefu gan Sphagnum, Calluna neu Trichophorum (glaswellt y mawn); ceir cyfleoedd hefyd ar gyfer gwaith trawluniau a chwadradau.
6. Ecoleg Dŵr Croyw
Astudiaethau poblogaeth – samplu infertebratau; ymchwilio i lefelau cadwyni bwyd strwythurol yn y gymuned a lefelau trofan; astudiaethau llygredd (e.e. effaith llygredd metalau trwm o gloddfeydd na ddefnyddir bellach); defnyddio’r Indecs Biotig i ddangos lefelau llygredd; mesur Galw Ocsigen Biocemegol, cynnwys o ran ocsigen ac ati; addasu i fywyd mewn dŵr croyw.
Posibiliadau Eraill
Ecoleg Gweundiroedd (strwythur sypwellt yn Molinia caerulea); problemau gwenwyndra metalau trwm a goddefiant o fetal mewn gweiriau ger cloddfeydd arian a mawn gwag; ymweliad â gwarchodfa’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) yn Ynys-hir (gellir cael sgwrs ar gadwraeth a rheolaeth y lle gan y Warden); Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd; ymweliadau ag adrannau’r Brifysgol gan gynnwys arddangosfeydd microsgopeg electronig.