Lleoliadau eraill ar gyfer cynadleddau
Yn ogystal â chanolfan gynadleddau Medrus, mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnig lleoliadau eraill i chi eu llogi ar y campws.
Am fwy o wybodaeth gweler isod, neu cysylltwch â'r swyddfa gynadleddau ar cynadleddau@aber.ac.uk neu 01970621960.
Undeb y Myfyrwyr
Mae adeilad yr Undeb yn cynnwys tair ystafell; pob un â’i chyfleusterau, ei hawyrgylch a’i maint unigryw ei hun, ynghyd â bariau. Mae gan yr Undeb brofiad helaeth o drefnu a chynnal amrywiaeth o brosiectau, o weithdai a sioeau talent i bartïon staff a digwyddiadau cerddoriaeth gyda chynulleidfa lawn.
Ystafell |
Cynllun Eistedd |
Niferoedd |
---|---|---|
Yr Undeb |
Hyblyg |
500+ |
Prif Ystafell |
Hyblyg |
200 |
Ty Pictiwrs |
Hyblyg |
95 |
Bar Cwtch |
Hyblyg |
100 |
Ystafelloedd ac Adnoddau Academaidd
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Prifysgol Aberystwyth wedi buddsoddi’n helaeth ym mhob elfen o’i darpariaeth. Gwariwyd dros £8m yn uwchraddio’r mannau addysgu i greu amgylcheddau dysgu sy’n ennyn diddordeb myfyrwyr ac sy’n manteisio ar y dechnoleg aml-gyfrwng ddiweddaraf ar gyfer addysgu.
Ystafell |
Cynllun Eistedd |
Niferoedd |
Prisiau Cychwynol |
---|---|---|---|
Neuadd Ddarlithio Academaidd |
Rhesi Sefydlog |
100+ |
£200 |
Neuadd Ddarlithio Academaidd |
Rhesi Sefydlog |
Hyd at 100 |
£75 |
Ystafell Seminar Academaidd |
Sefydlog |
Hyd at 50 |
£75 |
Ystafell Gyfrifiaduron Academaidd |
Sefydlog |
Hyd at 50 |
£150 |
Labordy Academaidd |
Sefydlog |
Hyd at 50 |
£150 |
Vethub1
Mae VETHUB1 yn clwstwr Arloesi gwerth £4.2m gyda chefnogaeth yr UE sy'n darparu Cyfleusterau Diogel i astudio Pathogenau mewn Pobl ac Anifeiliaid. Wedi'i lleoli yng nghanol campws Prifysgol Aberystwyth gyda mynediad i arbenigedd academaidd sy’n arwain y byd ac offer labordy o'r radd flaenaf.
- Labordai Ynysig Categori 3 a 2
- Mannau cyfarfod, swyddfa a chydeithio
Llogi ystafell gyfarfod breifat / ystafell fideo-gynadledda: 33m2
Wedi'i ddodrefnu'n llawn â chyfrifiadur, monitor mawr wedi'i osod ar wal (gyda bar sain clyfar fideo-gynadledda a chamera) a bwrdd a chadeiriau ystafell bwrdd, (nifer fwyaf o bobl yn yr ystafell: 8)
Gellir archebu lluniaeth ar gyfer cyfarfodydd ar gais.
Gofod Busnes Hyblyg/ Ystafell rhannu desgiau: 31m2.
Bydd gan gleientiaid hefyd y dewis i rentu gofod busnes a rennir sy’n hyblyg ac â mynediad a reolir.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys: gofodau rhannu desg, bwrdd cyfarfod bach, peiriant coffi Nespresso at ddefnydd y cleient ac ymwelwyr.
Mae gan bob desg gyfrifiaduron bwrdd gwaith, llygoden, bysellfwrdd, dau fonitor, ffôn desg, cadeiriau swyddfa, lampau desg USB. Mae desgiau sefyl hefyd ar gael.
Gellir trafod defnydd unigryw
Os hoffech dderbyn rhag o o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â canolfanmilfeddygol-1@aber.ac.uk neu https://vethub1.co.uk/