Digwyddiadau a Chyfleusterau Chwaraeon
Ydych chi am gynnal digwyddiad chwaraeon?
Dros nifer o flynyddoedd, mae Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth wedi dod yn gyrchfan diogel a dibynadwy i sefydliadau enwog megis Cymdeithas Bêl-droed Cymru, y Scarlets, Gleision Caerdydd, a Thref Amwythig, sy'n dibynnu ar ein cyfleusterau arbennig i gynnal eu rhaglenni hyfforddi. Mae'r clybiau uchel eu parch hyn wedi cydnabod gwerth partneru gyda ni i gynnal eu gwersylloedd haf er mwyn sicrhau bod eu timau'n barod ar gyfer y tymor sydd i ddod.
Caeau Chwarae Blaendolau
Caeau’r Ficerdy
Digwyddiadau Chwaraeon blaenorol a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
- Twrnamaint Pêl-droed Ian Rush
- Rygbi 7 bob ochr Undeb y Myfyrwyr
- Pencampwriaeth Genedlaethol yr Urdd – Pêl-droed, Rygbi, Traws Gwlad
- CWFA - Twrnameintiau bechgyn a merched
- Gwersylloedd Academi Tref Amwythig / Cyrsiau Sylfaen (o dan 10-16)
- Pêl-droed 7 bob ochr
- Cymdeithas Bêl-droed Cymru - Bathodynnau Hyfforddi
- Undeb Rygbi Cymru - Cyrsiau hyfforddwyr
- Gwersylloedd Hyfforddi Preswyl Proffesiynol (gwersylloedd 3-5 diwrnod) - Clwb Rygbi’r Scarlets, Clwb Rygbi’r Dreigiau
- Canolbarth Cymru - Clwb Seiclo Ystwyth - digwyddiadau Seiclo-Croes
Mae Aberystwyth yn falch o gyfrannu at ddatblygiad darpar athletwyr a thimau sefydledig, gan greu awyrgylch sy'n annog cynnydd, gwaith tîm a rhagoriaeth mewn llawer o ddigwyddiadau chwaraeon. Mae ein cyfleusterau nid yn unig yn cynnig amgylcheddau hyfforddi awyr agored o'r radd flaenaf, ond rydym hefyd yn cynnig cyfleusterau Cryfder a Chyflyru dan do, ymadfer yn y pwll, trac rhedeg, cae pob tywydd a neuaddau chwaraeon amlbwrpas dan do. Cliciwch ar y ddolen Ein Cyfleusterau : Canolfan Chwaraeon , Prifysgol Aberystwyth , anfonwch e-bost at sports@aber.ac.uk neu cysylltwch â Darren Hathaway Pennaeth Chwaraeon a Thiroedd (dnh@aber.ac.uk)
Llety ac Arlwyo
I ychwanegu llety ac arlwyo i'ch digwyddiad. Cysylltwch â conferences@aber.ac.uk neu 01970621960, neu fel arall ewch i Llety : Cynadleddau a Digwyddiadau , Prifysgol Aberystwyth